Bron 5,000 o ddisgyblion yn cael profiad STEM diolch i raglen PDC

19 Awst, 2025

Myfyriwr yn rhoi'r bys syth i fyny i'r camera yn ystod un o'r sesiynau STEM

Mae bron 5,000 o ddisgyblion ysgol o bob rhan o'r rhanbarth wedi cymryd rhan mewn sesiynau STEM arbenigol wedi’u cyflwyno Brifysgol De Cymru (PDC) yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Gydag oedran y disgyblion yn amrywio o bump i bymtheg, bu’r 4,924 o blant a ddaeth i’r sesiynau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn rhan o flwyddyn academaidd lawn gyntaf rhaglen Allgymorth STEM PDC i ddisgyblion o dan 16 oed.  

Cynhaliwyd cyfanswm o 91 o weithdai mewn ysgolion, a 43 o sesiynau ar Gampws Trefforest y Brifysgol. Mae'r rhaglen Allgymorth STEM hefyd wedi golygu gweithio'n agos gyda nifer o awdurdodau lleol – gan gynnwys Merthyr Tudful, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

Mae cymorth ariannol hefyd wedi’i roi gan Bartneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru ar gyfer dau brosiect cydweithredol, y naill ar gyfer cyflwyno STEM drwy gyfrwng y Gymraeg a'r llall ar gyfer cynnal Clybiau STEM mewn partneriaeth â Choleg Merthyr a Choleg y Cymoedd. Bydd y partneriaethau hyn yn parhau i'r flwyddyn academaidd nesaf a byddant yn cael eu hymgorffori ym mhrif raglen Allgymorth STEM.

Yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddisgyblion ysgol gael blas ar yr hyn y gall pynciau STEM ei gynnig, mae'r rhaglen Allgymorth hefyd wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr PDC ehangu eu sgiliau arwain timau ac addysgu.

Mae tri deg o Lysgenhadon-fyfyrwyr STEM wedi gweithio'n rheolaidd ar ddigwyddiadau fel rhan o'r prosiect, a chafodd grŵp llai eu hyfforddi i gyflwyno'r Clybiau STEM mewn ysgolion cynradd lleol. Cafodd cyfanswm o chwech o Glybiau STEM eu cyflwyno mewn pump ysgol gynradd yn ystod y flwyddyn academaidd, gyda 100 o ddisgyblion yn elwa o 34 o oriau o ddysgu ymarferol ym maes STEM.

Cafodd y myfyrwyr eu recriwtio o amrywiaeth o bynciau STEM yn PDC, ac maen nhw  wedi chwarae rhan hollbwysig yn llwyddiant y rhaglen Allgymorth.

Dywedodd Laura Roberts, Swyddog Allgymorth STEM: "Mae’r Llysgenhadon STEM wedi ychwanegu gwerth, egni, syniadau a chapasiti ychwanegol i'r gweithdai a'r gweithgareddau sydd wedi’u cynnal, ac maen nhw wedi cael eu hannog i gofrestru fel Llysgenhadon STEM Gwirfoddol drwy Rwydwaith Llysgenhadon STEM sefydliad STEM Learning, yn ogystal â'r hyfforddiant maen nhw wedi’i gael gan PDC.

"Mae llawer o’r rhai fu’n rhan o weithgareddau Allgymorth STEM eleni wedi mynd yn eu blaen i weithio mewn lleoliadau addysg, fel staff cymorth dysgu a goruchwylwyr, a gwnaeth dau fyfyriwr gymryd rhan mewn rhaglen Interniaethau Addysgu mewn ysgolion uwchradd yn Lloegr, yn rhoi cymorth i athrawon a disgyblion gyda’u gwybodaeth ym meysydd penodol eu pynciau gradd.

"Mae'n wych gweld ein gwaith Allgymorth yn annog y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr STEM, a hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ein myfyrwyr presennol sydd am ddechrau addysgu mewn amrywiol ffyrdd." 

Yn ogystal â'r gweithgareddau Allgymorth STEM, roedd y Gyfadran hefyd yn bartner arweiniol ar gyfer rhaglen Primary Engineer yng Nghymru, yn cynnal sesiynau beirniadu, arddangosfa o syniadau peirianneg y disgyblion, a'r digwyddiad gwobrwyo ar gyfer enillwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru.

Yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod, bydd gan y rhaglen Allgymorth STEM gysylltiadau agos â Calon - yr adeilad Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg newydd ar Gampws Trefforest PDC. Bydd hyn yn cynnwys partneriaeth gyda chontractwyr adeiladu BAM, fydd yn cynnwys ysgolion yn y broses adeiladu a pheirianneg, gan arwain at gynnal digwyddiad STEM i gyd-fynd ag agoriad yr adeilad.

Gallwch gysylltu â Laura drwy [email protected] os hoffech fod yn rhan o raglen Allgymorth Cyfadran STEM PDC i ddisgyblion o dan 16 oed.