Ymchwilydd seiber PDC yn ymweld â Norwy gyda chymorth Cwmni Lifrai

11 Awst, 2025

Y Cyn-Feistr Peter Coleman, Beirniad ar gyfer y Wobr, CALC; Tom Harris; Sylvia Robert-Sargeant, Beirniad ar gyfer y Wobr, CALC; a Richard Ward, darlithydd mewn Seiberddiogelwch yn PDC

Mae ymchwilydd o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi teithio i Norwy i ddatblygu ymchwil arloesol i seiberddiogelwch, diolch i ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (CALC).

Mae Tom Harris, sy’n Arddangoswr Technegol gyda PDC yn yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSA) ar Gampws Casnewydd ac yn ymchwilydd PhD, yn ymchwilio i ymosodiadau sianel-ochrol ar brosesyddion cyfrifiaduron Apple – yn  archwilio sut gall data gael ei ddwyn drwy ddulliau anuniongyrchol fel y pŵer sy’n cael ei ddefnyddio a hyd prosesu.

Gyda chymorth y Cwmni Lifrai, bu modd i Tom ymweld â Choleg Prifysgol Noroff yn Stavanger, Norwy, lle cydweithiodd â'i gyd-ymchwilydd Zeeshan Basit. Gwnaeth yr ymweliad alluogi Tom i fireinio’i ymchwil i algorithmau cyfrifiadurol ac ymddygiad prosesyddion.

Mae'r gwaith yn cyfrannu at faes seiberddiogelwch a gwytnwch cryptograffig sy’n prysur dyfu, ac a allai fod o ddefnydd mawr yn y sectorau academaidd a masnachol.

Dywedodd Tom fod y grant o £1,000 wedi bod yn hollbwysig i'w helpu i ddatblygu ei ymchwil mewn amgylchedd cefnogol.

"Roedd gallu cwrdd wyneb yn wyneb a chydweithio ar yr heriau technegol yn gwneud gwahaniaeth enfawr," dywedodd Tom.

"Mae'n hawdd colli pethau mewn e-bost neu ar Teams, ond gwnaeth yr amser hwnnw wyneb yn wyneb fy helpu i orffen papur ymchwil manwl na fyddwn efallai wedi'i gwblhau fel arall."

Ar ôl derbyn y grant gan CALC, dywedodd Tom y byddai wir yn argymell i eraill fanteisio ar gyfleoedd tebyg.

"Nid oherwydd yr ymchwil yn unig - mae'n bwysig cwrdd â phobl na fyddech chi efallai yn cwrdd â nhw fel arall, a chreu cysylltiadau a allai ddylanwadu’n fawr ar eich gwaith yn y dyfodol," dywedodd.

Mae Prifysgol Noroff, sydd â champysau yn Oslo, Bergen, a Stavanger, yn arbenigo mewn disgyblaethau digidol a thechnolegol. Mae campws Stavanger, lle roedd Tom, yn canolbwyntio ar arloesi technoleg a seiberddiogelwch.

Sefydlwyd CALC yn 1993 i hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n estyn cymorth i bobl ifanc trwy ysgoloriaethau a bwrsariaethau mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol.

Wrth gyflwyno’r wobr i Tom, dywedodd y Cyn-Feistr Peter Coleman, un o feirniaid y gystadleuaeth: "Prif nod y cwmni yw 'Meithrin Dawn Cymru' ac un ffordd o wneud hyn yw annog a chefnogi myfyrwyr i symud prosiect penodol yn ei flaen.

"Wrth gyflwyno’r wobr hon, roedd y beirniaid yn teimlo bod Thomas yn gweithio mewn maes seiberddiogelwch cyffrous, fydd â rôl gynyddol bwysig yn y dyfodol ac fe wnaeth ymroddiad, ffocws a brwdfrydedd Thomas yn y maes hwn argraff fawr arnynt.

"Mae'r prosiect cyffrous hwn yn dangos sut y gall gwaith blaengar o'r fath wneud cyfraniad hanfodol at ddatblygu rhagoriaeth seiberddiogelwch yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Thomas yn ei ymdrechion i greu a datblygu cysylltiadau rhyngwladol â chyd-arbenigwyr yn y maes ymchwil newydd hollbwysig hwn."

 

Pennawd: Y Cyn-Feistr Peter Coleman, Beirniad ar gyfer y Wobr, CALC; Tom Harris; Sylvia Robert-Sargeant, Beirniad ar gyfer y Wobr, CALC; a Richard Ward, darlithydd mewn Seiberddiogelwch yn PDC