Campau creaduriaid yn Costa Rica yn dangos y sgiliau sy'n eu hachub rhag anafiadau angheuol

3 Ebrill, 2025

Mwnci udo

Mae nifer o anifeiliaid beiddgar wedi bod yn dangos eu sgiliau ar y wifren uchel i ymchwilwyr Prifysgol De Cymru fel rhan o brosiect sy’n edrych ar ffyrdd i’w hachub rhag anafiadau angheuol.

Ac mae Megan Layton, myfyrwraig PhD yn PDC, wedi dal rhai o'u campau ar gamera fel rhan o'i hymchwil i’r effaith mae darnio cynefinoedd a datgoedwigo yn ei chael ar fwncïod yn Costa Rica.

Mae ymchwil Megan yn edrych ar duedd frawychus sy’n golygu bod mwncïod yn cael eu lladd â thrydan wrth ddefnyddio gwifrau pŵer i groesi’r ffyrdd yn y wlad hon yn Nghanolbarth America.

Maen nhw’n cael eu hadeiladu wrth i aneddiadau pobl ehangu i rannau o dir lle mai dim ond yr anifeiliaid fyddai'n byw yn wreiddiol, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd i fynd ar draws y priffyrdd prysur heb gael eu taro gan y traffig.

O’r blaen, roedd hyn yn golygu eu bod yn defnyddio gwifrau trydan i groesi’r ffyrdd, gan gael anafiadau angheuol wrth ddod i gysylltiad â'r trydan.

"Fel ffordd o frwydro yn erbyn y marwolaethau hyn, rydyn ni wedi bod yn edrych ar osod pontydd canopi o raffau fel ffordd fwy diogel i'r anifeiliaid," meddai Megan.

"Trwy ddefnyddio trapiau camera wedi'u pweru gan baneli solar, ac sydd â chardiau SIM ynddyn nhw i anfon y ffilmiau'n syth atom ni, rydyn ni wedi gallu monitro’r defnydd o’r pontydd mewn amser real.

"Yn ogystal â chael eu defnyddio gan y mwncïod, mae nifer o rywogaethau eraill yn eu defnyddio i groesi’r ffordd yn ddiogel, gan gynnwys oposymiaid, gwiwerod, ballasgod, a cincajŵod - mamaliaid y nos sy'n byw yn y coed ac sy’n perthyn i’r racŵn - sy’n cael eu galw’n eirth mêl."

Yn ôl ymchwil gychwynnol Megan, mae'r pontydd canopi yn effeithiol wrth ddarparu llwybr diogel i wahanol rywogaethau a lleihau'r risg eu bod yn cael eu lladd â thrydan.

"Mae'r astudiaeth hefyd yn ein helpu i ddeall dewisiadau’r anifeiliaid hyn o ran cynefin ac mae hefyd yn cyfrannu at strategaethau cadwraeth ehangach," meddai.

"Rydyn ni hefyd yn cael ein cefnogi gan SINAC, asiantaeth gadwraeth Costa Rica, sy'n rhan o Weinyddiaeth yr Amgylchedd ac Ynni’r wlad; grŵp Corredor Biológico Peninsular (CBP), sy'n canolbwyntio ar gadwraeth ac addysg amgylcheddol yn y coridor biolegol; cwmnïau trydanol lleol, sy'n helpu i osod y pontydd a'r trapiau camera; a Somos Congos, sy'n amddiffyn y mwncïod mewn perygl trwy ymdrin ag achosion o ladd â thrydan a thrwy osod pontydd."

Dewrl

Howler Monkey