Mae myfyrwyr PDC yn dylunio ardal allweddol o adeilad newydd Calon ar ffurf prosiect traws-Gyfadran

8 Ebrill, 2025

Enillwyr y gystadleuaeth gyda chydweithwyr o BAM, Prifysgol De Cymru, a Stride Treglown

Mae prosiect traws-gyfadran wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr ddylunio ardal allweddol o adeilad newydd Calon ar Gampws Trefforest.

Mae myfyrwyr Dylunio Mewnol o Gampws Caerdydd wedi gweld drostynt eu hunain sut mae'r gwaith o adeiladu'r datblygiad Cyfrifiadura, Peirianneg a Thechnoleg newydd yn mynd rhagddo, fel rhan o’r gwaith o gyflwyno'r wobr i enillwyr cystadleuaeth i ddylunio gofod arddangos yn yr adeilad.

Sefydlwyd y gystadleuaeth i annog myfyrwyr ledled PDC i gymryd rhan yn y prosiect adeiladu, a rhoi rhywfaint o brofiad bywyd go iawn iddynt o'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwblhau cyfleuster o'r fath. Un sbardun allweddol i dîm y prosiect yw manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd i ychwanegu gwerth at PDC ac at brofiad y myfyrwyr yn sgil y prosiect hwn.

Gan ddechrau'r hydref diwethaf, gweithiodd Miranda Thomas, sef Rheolwr Prosiect PDC ar gyfer Calon, gyda Marié Nevin, o gwmni penseiri Stride Treglown, i ddod o hyd i ofod addas yn Calon i'r myfyrwyr weithio arno, a datblygu briff ar gyfer y prosiect.

"Roedden ni'n ceisio ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gweithgareddau ymarferol a thechnegol sy'n gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu’r adeilad," meddai Miranda.

Rhoddodd y fenter gyfle i fyfyrwyr gyfrannu syniadau arloesol y gellid eu hintegreiddio o bosibl i ddyluniad terfynol yr adeilad.

Roedd sawl gofyniad allweddol yn y briff - y gofod sydd ei angen i ddarparu ar gyfer gwahanol ddefnyddiau a ffurfweddau, bod yn hygyrch i bob defnyddiwr, cael goleuadau priodol, ac ystyried niwroamrywiaeth. Roedd yn rhaid i'r dyluniad hefyd ganiatáu gallu symud yn hawdd a gweld yn glir yn y gofod, gan osgoi annibendod a sicrhau ffordd drwodd ar y llawr gwaelod, a sicrhau ei fod yn addas ar gyfer gwrthrychau 2D a 3D.

“Roedden ni'n meddwl y byddai’n gyfle da iawn i’r myfyrwyr feddwl mewn ffordd wahanol a chyflwyno syniadau arloesol, a allai yn y pen draw ysbrydoli’r dyluniadau terfynol a gaiff eu defnyddio yn Calon.”

O'r pum cais, llwyddodd dau i gyrraedd y rhestr fer ar ôl i'r prosiectau gael eu cyflwyno i Stride Treglown - gyda Grŵp 5 yn cael eu cyhoeddi'n enillwyr yn y pen draw, a oedd yn cynnwys Rosie Parsons, Bruna Soares, Sara Ben Saoud, Ferdi Allard-Morgan, a Liv Trewin.

Dywedodd Heddus Davies, sy'n Ddarlithydd ar y cwrs gradd Dylunio Mewnol ar Gampws Caerdydd PDC, fod y prosiect yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael safbwyntiau gwerthfawr ar ofynion briff proffesiynol.     

Roedd myfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn yn cymryd rhan, a chawsant eu rhannu’n grwpiau bach o dri i bedwar myfyriwr o'r blynyddoedd hyn a gofynnwyd iddynt greu cysyniad ar gyfer dyluniad i’r arddangosfa yng nghyntedd yr adeilad.

Roedd hwn yn brosiect pedair wythnos a oedd yn ychwanegol i'w briffiau asesu. Fodd bynnag, roedd yr ymgysylltiad a'r profiad yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i'r ddwy flynedd fyfyrio arno ar gyfer eu modiwlau Datblygiad Proffesiynol.

"Wrth i ni ymdrechu i gymryd rhan mewn cymaint o friffiau allanol â phosibl, roedd hwn yn brofiad gwerthfawr arall o weithio ar brosiect byw a allai ddylanwadu ar y canlyniad go iawn."

Ymatebodd y myfyrwyr yn gadarnhaol i'r lefel ddisgwyliedig o ymgysylltiad a chanlyniad proffesiynol yn ogystal â chael adborth gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, ac rwy'n llongyfarch pawb a gymerodd ran ar y gwaith caled y gwnaethant ei roi yn y briff.”  

Ychwanegodd Miranda fod y gystadleuaeth yn ymdrech gydweithredol lwyddiannus a oedd yn cynnwys myfyrwyr mewn gwaith prosiect ystyrlon.

"Mae'r dyluniad buddugol nid yn unig yn bodloni gofynion y briff ond hefyd yn dangos gallu myfyrwyr i feddwl yn greadigol ac yn ymarferol," meddai.

Mae'r fenter hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys myfyrwyr mewn prosiectau byd go iawn, meithrin arloesedd, a chyfrannu at arferion adeiladu cynaliadwy.

"Mae hefyd yn enghraifft wych o Gyfadrannau PDC, yn yr achos hwn Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth; a Diwydiannau Busnes a Chreadigol, gan nodi cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau mawr ac elwa o gefnogaeth ac arweiniad partneriaid allanol sydd â chyfraniadau proffesiynol gwerthfawr y maent yn falch iawn o'u rhannu.”

Esboniodd Sara Ben Saoud, a oedd yn aelod o'r tîm buddugol, beth oedd y prosiect yn ei gynnig i fyfyrwyr.

"Roedd yn gyfle gwych i gymryd rhan mewn prosiect go iawn ac i weld sut rydyn ni'n gweithio mewn timau," meddai. 

"Rhoddwyd rôl wahanol i bob unigolyn, er enghraifft dylunio neu frasluniau cysyniad. Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut y daeth pobl at ei gilydd a chreu'r cynnyrch gwych hwn."

Ychwanegodd Rosie Parsons: Roedd yn wych gan ei fod yn gynnyrch go iawn. Mae hynny'n rhywbeth y mae PDC yn ei wneud yn dda iawn, integreiddio â diwydiant, ac mae'n rhoi'r cymhelliant hwnnw i chi greu rhywbeth a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y pen draw.

Mae hefyd wedi bod yn brofiad gwych gwybod y bydd rhai o'n dyluniadau yn cael eu troi'n brototeip ac o bosibl eu defnyddio. Mae’n gysyniad cyffrous iawn.

 

Miranda Thomas o PDC, Sophie Hawker a Kingsley Davies o BAM, Marié Nevin, y penseiri Stride Treglown, Shane Galvin o PDC, a'r darlithydd Heddus Davies, gyda'r tîm buddugol.