PDC a Phêl-droed Stryd Cymru yn mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol drwy chwaraeon

10 Ebrill, 2025

Mae grŵp o saith o bobl yn sefyll o flaen gôl bêl-droed mewn cyfleuster chwaraeon dan do mawr gyda nenfwd uchel, tryloyw. Maen nhw'n gwisgo dillad chwaraeon coch a du sy’n cyd-fynd, gyda rhai mewn siacedi ac eraill mewn crysau llewys byr. Mae'r grŵp yn cynnwys dynion a menywod o gefndiroedd amrywiol, i gyd yn gwenu at y camera. Ar y cae artiffisial y tu ôl iddynt mae pobl eraill yn cymryd rhan mew

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio mewn partneriaeth â Phêl-droed Stryd Cymru, elusen sy'n defnyddio pŵer pêl-droed i gefnogi unigolion sy'n wynebu allgáu cymdeithasol.

Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn cynnal sesiynau pêl-droed ledled Cymru i bobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu heriau fel problemau iechyd meddwl, dibyniaeth, digartrefedd, neu ynysu cymdeithasol.

Mae'r cydweithrediad, lle mae myfyrwyr a chydweithwyr PDC yn cymryd rhan weithredol yn sesiynau Pêl-droed Stryd Cymru, yn helpu i chwalu rhwystrau a meithrin dealltwriaeth o broblemau cymdeithasol yn y byd go iawn.

Esboniodd Jamie Grundy, Cyfarwyddwr Pêl-droed Stryd Cymru, sut mae'r elusen yn creu lle croesawgar a hygyrch i'r rhai a allai ei chael hi’n anodd ymuno â chlybiau pêl-droed prif ffrwd.

"Gall unrhyw un ddod i’r sesiynau pêl-droed rydyn ni'n eu cynnal, ond rydyn ni’n cefnogi’n bennaf bobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol am wahanol resymau, fel dibyniaeth, heriau iechyd meddwl neu, yn syml, diffyg cyfeiriad parhaol," meddai Jamie.

"Gyda chlybiau pêl-droed prif ffrwd, yn aml mae angen cyfeiriad sefydlog arnoch chi i gofrestru. Fodd bynnag, mae llawer o'n chwaraewyr ni’n byw mewn hosteli neu lety dros dro, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl iddyn nhw ymuno â'r clybiau hynny."

Mae'r bartneriaeth gyda PDC wedi dod â dimensiwn newydd i waith yr elusen. Cynhelir sesiynau pêl-droed wythnosol ym Mharc Chwaraeon PDC, gyda myfyrwyr a chydweithwyr yn gwirfoddoli ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chwaraewyr.

Trefnodd Lyn Jehu, Darlithydd PDC mewn Datblygu Pêl-droed Cymunedol, y fenter ar ôl gweld y potensial am gydweithrediad ystyrlon.

"Daeth fy niddordeb mewn Pêl-droed Stryd Cymru o safbwyntiau cymunedol ac academaidd," esboniodd Lyn.

"Rwy'n dysgu modiwl o'r enw 'Pêl-droed mewn Cymdeithas', sy'n canolbwyntio ar rwystrau i chwarae pêl-droed. Mae cael enghraifft go iawn fel Pêl-droed Stryd Cymru yn helpu fy myfyrwyr i weld y problemau hyn gyda’u llygaid eu hunain a deall yr effaith gadarnhaol y gall pêl-droed ei chael ar fywydau pobl."

Mae'r bartneriaeth eisoes wedi dangos manteision diriaethol i fyfyrwyr a chwaraewyr. Mae myfyrwyr nid yn unig yn gwirfoddoli mewn sesiynau ond hefyd yn cynnwys eu profiadau yn eu gwaith academaidd.

Meddai Lyn, "Mae gweithio gyda Phêl-droed Stryd Cymru wedi cael effaith drawsnewidiol ar safbwyntiau rhai o’m myfyrwyr. Maen nhw'n cyrraedd o dan yr argraff fod pêl-droed yn ymwneud yn bennaf â pherfformiad elît a dadansoddi data. Mae gweithio gyda Phêl-droed Stryd Cymru wedi eu helpu i weld bod hyfforddiant yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r person sydd o'ch blaen chi. Mae'n ymwneud â meithrin cysylltiadau a gwella bywydau."

Mae Chloe Black, un o raddedigion PDC, yn hyfforddwr gyda Phêl-droed Stryd Cymru. Dywedodd hi: "Mae gweithio gyda Phêl-droed Stryd Cymru i greu amgylchedd cynhwysol yn hynod werth chweil. Waeth beth yw eu cefndir, mae pawb yn dod at ei gilydd i chwarae pêl-droed. Dydyn ni ddim hyd yn oed yn cadw sgôr oherwydd does dim angen tîm buddugol. Dim ond mwynhad o'r gêm."

Mae gwaith Pêl-droed Stryd Cymru yn ymestyn y tu hwnt i sesiynau lleol. Mae'r elusen hefyd yn bartner i Gwpan Digartrefedd y Byd.

"Yn 2023, cystadlodd rhai o'n chwaraewyr yng Nghwpan Digartrefedd y Byd yng Nghaliffornia. Mae mynd â rhywun o fyw mewn hostel ym Merthyr i gystadlu ar lwyfan byd-eang yn anhygoel," meddai Jamie.

Mae Lyn yn gweld hyd yn oed mwy o botensial ar gyfer y dyfodol, gyda chynlluniau ar gyfer ymchwil ar y cyd i effaith gymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru. Mae hefyd yn gobeithio trefnu twrnamaint Pêl-droed Stryd Cymru ym Mharc Chwaraeon PDC, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a denu cefnogaeth ehangach.

"Dyma'r union fath o allgymorth ystyrlon, cymunedol y mae PDC yn rhagori ynddo," ychwanegodd Lyn. "Mae gennym ni’r cyfleusterau, yr arbenigedd, a'r ymdrech i wneud gwahaniaeth go iawn, ac mae'r bartneriaeth hon yn brawf o hynny."