Unwaith yn nofel lwyddiannus, bellach wedi'i hanghofio – pam fod William gan E.H. Young yn haeddu ailymweliad

30 Ebrill, 2025

Yr awdur Emily Hilda Young

Dr Rebecca Hutcheon, Cymrawd Ymchwil y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, yn ysgrifennu ar gyfer The Conversation ar 100 mlwyddiant y nofel William, gan E.H. Young.

Mewn blwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant sawl nofel enwog, gan gynnwys  Mrs Dalloway gan Virginia Woolf, The Great Gatsby  gan F. Scott Fitzgerald a The Trial gan Franz Kafka, mae nofel arall hefyd yn dathlu camlwyddiant yn dawel. William a gyhoeddwyd ym 1925 gan E.H. Young, a oedd unwaith yn awdur enwog, ond sydd bellach wedi'i hanghofio i raddau helaeth.

William oedd nofel fwyaf llwyddiannus Young. Gwerthwyd mwy na 68,000 o gopïau ac fe'i hailargraffwyd 20 gwaith cyn 1948. William oedd y nofel a sefydlodd Young fel awdur o fri.

Mae'n dilyn bywyd William a Kate Nesbitt a'u plant sy’n oedolion, gan adrodd eu hynt a’u helyntion wrth i fywyd modern fynd yn erbyn gwerthoedd traddodiadol. Mae un o'r merched, Lydia, yn gadael ei gŵr i fyw gyda nofelydd. Mae William, perchennog llong a chefn cadarn y teulu, yn ei chefnogi. Ond ni all Kate, sy’n gaeth i draddodiad a pharch, wneud yr un fath.

Mae dau fater wrth wraidd y nofel: rôl menywod a bywyd domestig. Trwy berthynas Kate a William, mae Young yn torri tir newydd fel awdur. Mae hi'n archwilio cyfnod diweddarach mewn bywyd, pan fo’r plant wedi tyfu i fyny. Mae'r gŵr a'r wraig yn treulio amser gyda’i gilydd heb y plant ac yn canfod eu hunain yn anghytuno.

Mae'r math hwn o nodweddu craff yn enghraifft o ysgrifennu Young. Fel gyda llawer o nofelau Young, rhan fach iawn mae cariad rhamantus yn ei chwarae. Yn hytrach, mae’r naratif yn canolbwyntio ar fathau eraill o berthnasoedd.

Gwelir bod menywod yn ysgwyddo’r prif feichiau o fywyd priodasol a theuluol. Dro ar ôl tro, mae ei chymeriadau'n gwrthwynebu bywyd benywaidd dosbarth canol a'i gonfensiynau cymdeithasol.

Lle ac enaid

Mae tensiwn canolog y nofel yn ymwneud, nid yn unig â’r teulu, ond hefyd y ddinas y maent yn byw ynddi. Mae William yn rhychwantu dociau a maestrefi dinas ffuglennol Radstowe, sy’n amlwg yn seiliedig ar Fryste.

Fel yn Mrs Dalloway, mae cysylltiad dwfn rhwng lle ac enaid. Mae Young yn defnyddio daearyddiaeth ffisegol a chymdeithasol Bryste i archwilio sut mae menywod yn symud trwy fyd o reolau answyddogol.

Bu Young yn byw ym Mryste am 15 mlynedd. Mae'r rhan fwyaf o'i nofelau wedi'u lleoli yno – neu yn hytrach yn "Upper Radstowe", ei fersiwn ffuglennol o faestref go iawn Clifton. Trodd pontydd, afonydd a rhaniadau dosbarth llym y ddinas yn drosiadau am y pwysau a roddwyd ar fenywod ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Yn William, mae ei chymeriadau'n teimlo'n real am eu bod yn amherffaith. Nid yw'r gwrthdaro rhwng gwerthoedd modern Lydia a rhai traddodiadol Kate yn cael ei ddatrys yn gyfan gwbl. Nid oes gan Young ddiddordeb mewn pregethu am foesau. Yn hytrach, mae hi'n arsylwi. Mae ei meddwl craff, ei chraffter seicolegol a'i theimlad am rythmau bywyd domestig yn gwneud William yn nofel deuluol ddifyr sy’n dawel radical.

Pwy oedd y fenyw y tu ôl i Radstowe?

Ganed Emily Hilda Young ym 1880 a bu farw ym 1949. Ysgrifennodd 11 nofel a’u darllenwyd yn eang yn ei dydd. Cafodd pedair o'i nofelau eu gwneud yn ddramâu radio y BBC. Gwnaed ei nofel o 1930, Miss Mole, yn rhaglen deledu gan y BBC ym 1980.

Fel llawer o'i chymeriadau, roedd Young yn byw bywyd anghonfensiynol. Yn ystod y rhyfel byd cyntaf bu'n gweithio fel gwas stabl ac mewn ffatri arfau. Aeth ei gŵr, cyfreithiwr o'r enw Arthur Daniell, i ffwrdd i ymladd. Ar ôl i Daniell gael ei ladd yn Ypres ym 1917, symudodd Young i Lundain a chael swydd mewn ysgol lle’r oedd ei chariad priod, Ralph Henderson, yn brifathro.

Roedd hi hefyd yn fynyddwraig frwd mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ddringwyr benywaidd. Fe wnaeth hi hyd yn oed arloesi ac arwain eraill ar hyd llwybr, a elwir bellach yn Hope, ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri ym 1915.

Mae'r radicaliaeth dawel hon yn treiddio i mewn i'w ffuglen. Mae ei chymeriadau yn aml â thafod miniog, yn annibynnol ac wedi’u siomi gan y rolau y disgwylir iddynt eu chwarae.

Mae'n anodd gosod Young mewn categori taclus, fodd bynnag. Prin y gellir disgrifio ei nofelau fel rhamantau. Mae cariad yn aml yn cael ei bortreadu fel rhywbeth dinistriol neu gaethiwol. Roedd Young yn ffeminist ac yn ymgyrchu dros bleidleisiau i fenywod, ond gwelodd fethiannau dynol mewn dynion a menywod fel ei gilydd. Roedd hi'n edmygu cryfder cymeriad er gwaethaf rhyw.

Os rhywbeth, gellid ei hystyried yn Jane Austen yr 20fed ganrif. Mae ei naratifau yn bortreadau ffraeth o fywyd cymdeithasol a theuluol gyda dyfnder seicolegol. Yn Young, fodd bynnag, mae cymysgedd o onestrwydd ac oerni, a synnwyr digrifwch sarcastig sy'n dod i'r amlwg yn ddigymell. Ar adegau, mae'n eich dal yn annisgwyl.

Fel yr awduron realaeth gorau, mae byd Young yn un cyfoethog sy’n ferw â chymeriadau difyr. Ac eto, yn wahanol i Thomas Hardy neu Leo Tolstoy, er enghraifft, nid oes gan Young ddiddordeb mewn trasiedi na melodrama. Mae trafferthion bach yn cael eu goresgyn a phobl yn ailgymodi, hyd yn oed os nad yw'n arwain at ddiweddglo hapus traddodiadol.

Mae etifeddiaeth Young wedi pylu, efallai oherwydd bod ei nofelau yn eistedd rhwng genres: heb fod yn realaeth neu’n foderniaeth pur, nac ychwaith yn nofelau rhamant. Ond wrth i benblwyddi llenyddol annog darllenwyr i ailymweld â hen ffefrynnau, mae lle i ddod â lleisiau sydd wedi mynd yn angof yn ôl.

I ddarllenwyr sydd â diddordeb mewn bywydau mewnol menywod, mewn dynameg deuluol, mewn nofelau lle mae lle a seicoleg wedi'u cydblethu, mae'n werth darganfod E.H. Young. Eleni, yn hytrach na dychwelyd i fydoedd Clarissa Dalloway a Jay Gatsby, gallech fynd i Upper Radstowe, lle mae dramâu tawel, sy’n gynhenid ddynol yn mynd yn rhagddynt.

 

Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Mae'r farn a fynegir yn erthyglau The Conversation yn rhai yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.