Ymchwil i ailddychmygu gofal diwedd oes i bobl ag anableddau dysgu

9 Ebrill, 2025

Dau berson yn eistedd yn yr awyr agored mewn parc ar ddiwrnod o hydref. Mae un fenyw, sy'n gwisgo cot wen, mewn cadair olwyn wedi'i gorchuddio â blanced goch, yn gwenu ac yn edrych ar y fenyw arall sy'n eistedd wrth ei hochr ar fainc. Mae'r ail fenyw, sy'n gwisgo cot fwrgwyn a sgarff, yn dal ffôn symudol ac yn ymgysylltu’n gynnes â'i chydymaith. Yn y cefndir mae llwybr, coed moel, a dail wedi syrt

Mae prosiect ymchwil cydweithredol newydd ar gyfer Cymru a Lloegr, dan arweiniad yr Athro Stuart Todd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi derbyn cyllid sylweddol gan Marie Curie, prif elusen gofal diwedd oes y DU.

Bydd yr astudiaeth yn archwilio sut y gall pobl ag anableddau dysgu gael profiad gwahanol o farwolaeth a marw, a sut y gall gwasanaethau gofal iechyd addasu i fodloni eu hanghenion yn fwy effeithiol.

Meddai'r Athro Todd: "Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu bod pobl ag anableddau dysgu’n marw o gyflyrau na chânt eu cydnabod yn draddodiadol fel rhai sy'n peryglu bywyd. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n aml yn wynebu canlyniadau gwahanol ar ddiwedd eu hoes, gyda llawer yn marw heb fynediad at ofal priodol.

"Nodau ein hymchwil yw gweld a oes digwyddiadau hanfodol a allai helpu i wella mynediad at gymorth priodol, gan sicrhau bod eu hanghenion unigryw yn cael eu bodloni ag urddas a thosturi ac o bosibl ddylanwadu ar sut mae gwasanaethau gofal diwedd oes yn cael eu cynnig i bobl ag anableddau dysgu ledled y DU."

Mae'r astudiaeth yn cynnwys ymchwilwyr o PDC, Prifysgol Kingston a Phrifysgol Southampton.

Meddai'r Athro Todd: "Mae tîm yr astudiaeth yn cynnwys arbenigwyr a all gynnig safbwyntiau unigryw. Er enghraifft, yn y tîm ym Mhrifysgol Kingston, mae ’na ymchwilwyr ag anableddau dysgu a fydd yn helpu i lywio’r astudiaeth.

"Rydyn ni hefyd yn cael ein cefnogi gan sefydliadau, 'Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan' ac 'Anabledd Dysgu Cymru', a fydd yn ein cynorthwyo i geisio cyngor gan unigolion ag anableddau dysgu, gofalwyr teulu a gofalwyr proffesiynol. Bydd hyn yn sicrhau bod eu lleisiau a'u profiadau’n rhan annatod o'r ymchwil, yn ogystal â'n helpu i ddeall a dehongli'r materion cymhleth sydd dan sylw."

Bydd y tîm ymchwil yn cynnal cyfweliadau manwl gyda theuluoedd mewn profedigaeth a gofalwyr cyflogedig sydd wedi colli person ag anableddau dysgu. Bydd y sgyrsiau hyn yn canolbwyntio ar ddeall misoedd olaf bywyd, gan ystyried eiliadau tyngedfennol lle gellid bod wedi rhagweld marwolaeth ond na chafodd ei chydnabod tan yn hwyr yn y broses. Bydd yr astudiaeth yn ceisio datgelu a fu cyfleoedd i drafod eu pryderon gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac a ellid bod wedi rhagweld yn gynt fod yr unigolyn yn marw.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn ymgysylltu â meddygon teulu sy'n aml yn chwarae rhan ganolog wrth reoli mynediad at ofal diwedd oes. Trwy gyfres o drafodaethau ar-lein, bydd meddygon teulu’n archwilio'r anawsterau maen nhw'n eu hwynebu wrth nodi pryd y gallai rhywun ag anableddau dysgu fod yn agosáu at farwolaeth, a sut y gallai'r sgyrsiau sensitif hyn gael eu rheoli'n well. Bydd ’na drafodaethau tebyg hefyd gyda gweithwyr anableddau dysgu proffesiynol ac ymarferwyr gofal diwedd oes.

"Bydd ein gwaith yn tynnu sylw at y ffaith fod pobl yn y boblogaeth hon yn marw'n wahanol, ac os byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r un fformiwla a ddyluniwyd ar gyfer cleifion canser neu ddementia, bydd llawer yn llithro rhwng ein dwylo," meddai'r Athro Todd.

"Mae angen i ni ailddychmygu sut mae gofal diwedd oes tosturiol, priodol yn edrych i unigolion ag anableddau dysgu. Mae hyn yn golygu cynnig gwell cymorth nid yn unig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ond hefyd i deuluoedd a gofalwyr sy'n delio â’r eiliadau hynod emosiynol a chymhleth hyn."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Cyswllt Marie Curie, Sabine Best: "Mae Marie Curie am i bawb gael y profiad diwedd oes gorau, gan adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.

"Yn aml mae gan bobl ag anableddau dysgu anghenion ychwanegol mewn gofal lliniarol a diwedd oes. Mae deall ac ystyried yr anghenion hyn yn hanfodol i sicrhau eu bod nhw’n cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

"Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi'r ymchwil hon i wella ymwybyddiaeth o anghenion pobl ag anableddau dysgu i sicrhau eu bod nhw’n cael y gofal gorau posibl tuag at ddiwedd eu hoes."