Cofio Rebecca Fudge

15 Gorffennaf, 2025

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gwenu wrth sefyll o flaen wal o frics coch. Mae hi'n gwisgo gwisg ddu gyda bathodyn enw ag arno “Swyddog Cymorth  Cymunedol yr Heddlu”, a het ddu â band glas a bathodyn arian, ac mae ganddi radio a chamera ar ei hysgwydd.

Wrth i ffrindiau, cydweithwyr a chyd-fyfyrwyr baratoi i ddathlu graddio, mae cymuned y Brifysgol hefyd yn cofio ac yn dathlu bywyd Rebecca Fudge, menyw ifanc fywiog a hynod glên, sydd wedi gadael ei hôl mewn ffordd ddofn a pharhaol ers ei chyfnod yn hyfforddi fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO).

Ymunodd Rebecca â'r gwasanaeth heddlu ar ôl gweithio fel swyddog carchar, gan ddod ag ymdeimlad cryf o ddyletswydd, moeseg gwaith cadarn iawn, a natur ofalgar gynhenid oedd yn ei gwneud hi’n berson delfrydol i wasanaethu’r cyhoedd wrth ei gwaith. Roedd hi'n adnabyddus ymhlith ei chyfoedion a'i thiwtoriaid am ei hymroddiad a'i phroffesiynoldeb, a hefyd am ei chynhesrwydd, ei hiwmor a’i brownis Nutella bythgofiadwy.

"Pan oedd hi’n cyrraedd ystafell, roedd fel pelydryn o heulwen," dywedodd Matthew Murray, un o diwtoriaid Rebecca. "Roedd hi mor gymdeithasol ac yn llawn ysbryd. Dydw i ddim yn gor-ddweud, roedd hi wir yn goleuo'r ystafell."

Roedd Rebecca yn benderfynol iawn ac am sicrhau rhagoriaeth ym mhopeth a wnâi. Ar ôl cwblhau 16 wythnos o hyfforddiant cychwynnol, aeth yn ei blaen i'w chyfnod tiwtora 12 wythnos. Hi oedd y cyntaf yn ei charfan i gwblhau ei phortffolio Cymhwysedd Gweithredol, oedd yn dyst i'w brwdfrydedd dros ei gyrfa ddewisol.

"Doedd dim ofn mynd i galon pethau arni," dywedodd Matthew. "Byddai hi’n brwydro drwy gaeau mwdlyd gyda'r gweddill ohonon ni, yn gofyn y cwestiynau oedd angen eu gofyn, ac yn meddwl yn rhagweithiol. Roedd hi'n berson oedd yn gallu datrys problemau ac roedd hi’n wych mewn tîm. Roedd hi'n gwneud y gwaith yn well i bawb oedd o'i chwmpas."

Y tu allan i'r gwaith hefyd, roedd Rebecca yn angerddol, yn hael ac yn llawen. Roedd wrth ei bodd yn pobi a byddai’n dod â danteithion i'r criw yn aml. Ar foreau tawel, byddai'n coginio brecwast yn yr hyb i Matthew ac eraill, ac yn cyflawni rôl famol ddigynnwrf o fewn y tîm. Roedd hi hefyd yn hynod ffyddlon i'w theulu a'i phartner Josh, y treuliodd amseroedd hyfryd yn ei gwmni ef a’i ferch.

Yn 2022, yn 24 oed, cafodd Rebecca ddiagnosis o diwmor cam 3 ar yr ymennydd, ar ôl cyfnod o ddioddef pen tost a meigryn. Er gwaethaf ei diagnosis ac er garwed y driniaeth, dychwelodd i'r gwaith am gyfnod, yn benderfynol o gyfrannu a pharhau i wneud yr hyn roedd hi'n ei garu.

"Chollodd hi erioed yr ysbryd dewr hwnnw," dywedodd Matthew. "Hyd yn oed pan oedd hi'n dioddef afiechyd, daeth hi ’nôl i'r gwaith. Mae hynny'n dangos pa fath o berson oedd hi – un dewr, optimistaidd, oedd bob amser yn meddwl am bobl eraill."

Mae ei habsenoldeb yn dal i bwyso’n drwm. "Mae gwagle enfawr," dywed Matthew. "Nid yn unig ymhlith y tîm, ond yn y llu cyfan, a phawb oedd yn ei hadnabod hi. Fe wnaeth hi gyffwrdd â chynifer o fywydau, swyddogion, y cyhoedd, ffrindiau. Hyd yn oed nawr, mae pobl yn gofyn amdani. Ei nod oedd bod yn gwnstabl heddlu a byddai hi wir wedi rhagori yn y rôl honno."

Efallai na chafodd Rebecca gyfle i gwblhau ei thaith drwy wasanaeth yr heddlu, ond mewn cyfnod byr, roedd hi’n bopeth y dylai PCSO fod. Roedd teulu Rebecca yn y   seremoni raddio, ynghyd â’i chyd-fyfyrwyr, yn falch o’r cyfan a gyflawnodd.