Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Athrawon ac Ymgynghorwyr 2025
18 Gorffennaf, 2025
Llongyfarchiadau i’r enillwyr a’r enwebedigion ar gyfer Gwobrau Athrawon ac Ymgynghorwyr PDC 2025.
Cynhaliwyd y seremoni yn ein Campws Trefforest, lle cyflwynwyd gwaith gwych athrawon ac ymgynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ledled y DU, sydd yn cefnogi eu myfyrwyr, gyda llawer yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl.
Derbyniodd pob enillydd wobr o £500 i’w ddefnyddio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac/neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg.
Wrth adlewyrchu ar y digwyddiad, dywedodd Christopher Edwards, Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr a Chysylltiadau: “Mae Gwobrau Athrawon ac Ymgynghorwyr yn ddigwyddiad arbennig iawn, yn ŵyl wirioneddol o’r ymroddiad a’r cymorth a ddangosir gan y rhai sy’n arwain pobl ifanc bob dydd. Mae clywed y straeon emosiynol gan fyfyrwyr a chydweithwyr yn symud iawn, ac yn atgof pwerus o ba mor fawr yw’r gwahaniaeth mae’r unigolion hyn yn ei wneud. Mae’n fraint fawr gweithio gydag athrawon ac ymgynghorwyr bob dydd, a gweld eu gwaith caled a’r gwahaniaeth a wneir ganddynt yn cael ei gydnabod.”
Yn y categori am Gefnogaeth Eithriadol i Bersonél a Lles, enillodd Holly Padfield, athrawes bioleg o Ysgol Blessed Carlo Acutis, y wobr.
Enillodd Jane Richards, Pennaeth y Gyfadran Fagloriaeth a Mentergarwch yn Ysgol Gyfun Penweddig, y wobr Athro neu Ymgynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn.
Wedi’i henwebu am ei haddysgu cadarnhaol a chynhyrchiol, dywedodd un myfyriwr:
“Fel disgybl, mae gwybod bod y lefel hon o gefnogaeth ar gael pryd bynnag y bo angen yn bwysig. Mae pob disgybl yn y dosbarth yn gwerthfawrogi’r ymdrech ychwanegol y mae’n ei rhoi i sicrhau ein llwyddiant.”
Enillodd Lizzie Tiernan-Winner, Pennaeth y Chweched Dosbarth yn Ysgol Calon Cymru, y wobr am Gefnogi Cynnydd i Addysg Uwch.
Cyflwynwyd canmoliaeth arbennig hefyd i dri athro ac ymgynghorydd, sef Andrew Vaughan, Arweinydd Pwnc (Gwyddoniaeth) yn Ysgol y Gadeirlan, Thomas Spencer, Pennaeth Ffiseg yn Ysgol Burford, a Rajdeep Waraich, Cydlynydd Llwyddiant ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13 yn Ysgol Ferched King Edward VI Lordswood a Chanolfan y Chweched Dosbarth.