O fod yn digartref i ennill Gradd Anrhydedd: Mohammed yn goresgyn dibyniaeth ar gyffuriau i raddio mewn cwnsela

16 Gorffennaf, 2025

Mae dyn sy'n gwisgo het a gown graddio yn sefyll o flaen cerflun mawr o ddraig goch. Mae wedi'i ddilladu mewn siwt dywyll gyda chyfarchion coch yn ei robach academaidd a'i wregys, yn gwisgo helygau, ac mae tatŵs ar ei ddwylo.

Mae Mohammed Hassanin, un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC), wedi goresgyn digartrefedd, dibyniaeth ar gyffuriau a heriau personol i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig.

Pan fydd Mohammed Hassanin yn derbyn ei radd yr wythnos hon, nid diwedd ei astudio fydd yr unig garreg filltir – bydd yn benllanw i daith gwbl ryfeddol.

Mae Mohammed, fu gynt yn cysgu ar y stryd ac yn gaeth i gyffuriau, erbyn hyn yn gwnselydd cymwys gydag uchelgais fawr i helpu eraill drwy eu heriau emosiynol eu hunain.

"Rydw i newydd gymhwyso gydag anrhydeddau cyntaf," dywedodd. "A dweud y gwir, dwi ddim yn siŵr os yw realiti hynny wedi taro eto!"

Cafodd Mohammed ei fagu yn Llundain ond mae wedi byw ym Mhont-y-pŵl ers pum mlynedd. Symudodd yno’n gynnar yn 2020, yn fuan ar ôl gadael yr ysbyty gyda’r hyn a dybiwyd oedd yn niwmonia, ond oedd yn fwy tebygol o fod yn COVID-19, ar adeg pan nad oedd profion ar gael.

Roedd wedi bod yn ddigartref ers pum mlynedd, yn defnyddio cyffuriau bob dydd ac yn symud o le i le yn Llundain.

"Doedd gen i ddim lle sefydlog i aros," dywedodd. "Ro’n i wedi colli fy swydd, roedd fy nghysylltiadau teuluol wedi chwalu, ac roedd y ddibyniaeth ar gyffuriau yn taflu popeth arall i’r cysgod. Daeth i feddiannu pob agwedd ar fy mywyd."

Bwriad Mohammed oedd aros am ysbaid ar fferm ei deulu ym Mhont-y-pŵl. Ond gyda chyhoeddi cyfnod clo cyntaf COVID, doedd dim modd iddo adael y fferm – na chael gafael ar gyffuriau, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd, roedd yn sobr.

"Gwnaeth hynny orfodi newid enfawr arna i, ac fe achubodd fy mywyd," dywedodd.

Yn raddol, dechreuodd eisiau adfer, daeth o hyd i grŵp Narcotics Anonymous lleol, aeth i ddosbarthiadau gwnïo, a dechreuodd ailgysylltu â'i deulu.

Dechreuodd sesiynau cwnsela, a chyn bo hir roedd y proffesiwn yn dechrau ei ddenu.

"Gofynnais i fy nghwnselydd sut aethon ni i’r proffesiwn, ac fe wnaethon nhw sôn am PDC," dywedodd. "Flwyddyn yn ddiweddarach, gwnes i gais am le yn y brifysgol."

Dechreuodd Mohammed ei BA (Anrh) mewn Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig yn PDC heb unrhyw ddisgwyliadau, dim ond parodrwydd i ddysgu a gobaith y gallai helpu pobl eraill.

Dywedodd: "Roedd y cwrs yn heriol mewn ffyrdd annisgwyl. Ro’n i'n gwybod y byddai'n ddwys yn emosiynol, ond roedd yr adfyfyrio roedd angen ei wneud yn fwy dwf nag o’n i wedi’i ddychmygu."

Roedd yr elfen academaidd yn peri trafferth iddo i ddechrau.

"Roedd darllen pob aseiniad newydd yn fy llethu i ddechrau. Roedd yr ieithwedd academaidd yn gwneud i fi deimlo bach yn dwp ac annigonol. Ond roedd y gefnogaeth wych ges i gan diwtoriaid a chyfoedion yn help aruthrol i ddal ati."

Mae'n teimlo bod grŵp datblygiad personol y cwrs, lle bydd myfyrwyr yn adfyfyrio gyda'i gilydd ar eu profiadau emosiynol, wedi ei helpu i gynyddu gwytnwch ac wedi dyfnhau ei hunan-ymwybyddiaeth.

"Roedd yr anghysur emosiynol yn anodd," dywed. "Ond dyma hefyd oedd yn gwneud i'r dysgu deimlo'n real. Roedd yn boenus ar adegau ond yn hynod werth chweil."

Bellach wedi cymhwyso’n llawn, mae Mohammed yn dal i weld cleientiaid drwy ei leoliad gwaith ac mae’n ystyried gwaith rhan amser a sefydlu ei bractis ei hun. Mae ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cwnsela, hyfforddi pobl mewn dulliau adfer, ac encilion iechyd meddwl i ddynion.

"Rwy'n teimlo galwad gref i weithio gyda dynion," meddai. " Yn enwedig o gylch materion yn ymwneud â gwrywdod, cywilydd, a lles emosiynol," dywed. "Rwy'n credu bod angen mannau ar ddynion i siarad am yr hyn mae'n ei olygu i fod yn ddyn, i fod yn gryf, i deimlo, ac i fod yn fregus weithiau."

Fel dyn Mwslimaidd mewn adferiad, mae Mohammed hefyd yn teimlo'n angerddol dros gefnogi dynion Mwslimaidd ifanc a allai fod yn cael trafferth gyda hunaniaeth, dibyniaeth, neu iechyd meddwl.

"Rwy'n gwybod sut y gall cywilydd wneud i bobl beidio â bod eisiau sôn am eu hanawsterau," esboniodd. "Bu bron i fi gadw’n dawel am bethau. Nawr dw i eisiau defnyddio fy mhrofiad i helpu pobl eraill i ddod o hyd i'w llais."

Ag yntau wedi bod yn sobor ers bron i bum mlynedd, ac yn ddeiliad gradd erbyn hyn, dywed Mohammed ei fod yn dal i fyw bywyd un cam ar y tro, ond mae ei agwedd at fywyd wedi ei thrawsnewid.

"Roedd ofn a diffyg ymdeimlad o hunan-werth yn fy atal rhag ymrwymo at unrhyw beth o’r blaen. Dydw i ddim bellach am setlo ar fywyd o anhrefn. Mae gen i bwrpas nawr, a dwi wedi dod o hyd i gymuned. Mae gen i gyfle nawr i helpu eraill i wneud yr un peth."