Clinig Ceiropracteg newydd gwerth £6m yn agor yn PDC

3 Hydref, 2025

Yr Athro David Byfield, Sarah Murphy MS, Dr Rob Orford, Dr James Gravelle

Agorwyd Clinig Ceiropracteg newydd Prifysgol De Cymru, sy’n werth £6m, yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy, AS, heddiw (ddydd Gwener 3 Hydref).

Mae'r clinig, sy'n gartref i Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIOC), yn estyniad o'r cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd ar gampws PDC yn Nhrefforest, ac mae’n dod â phob agwedd ar addysg a hyfforddiant clinigol ceiropracteg ynghyd o dan yr un to.

Wedi'i ddylunio gan Stride Treglown a'i adeiladu gan Kier Construction, mae’n adeilad deulawr 975 metr sgwâr. Bu’r adeiladwyr wrthi am 15 mis yn ei godi, ac mae'n cynnwys 26 o ystafelloedd trin, mannau i gynnal seminarau, a chyfleusterau diagnostig uwchsain a DXA (dwysedd esgyrn).

Mae cynaladwyedd wrth galon dyluniad y clinig, ac mae ganddo baneli solar a tho Glas-Gwyrdd i storio a rhyddhau dŵr glaw yn raddol, sy'n cyd-fynd ag ymrwymiad y Brifysgol i gyflawni carbon sero-net erbyn 2040.

Daeth aelodau o gyrff Ceiropracteg statudol, cyn-fyfyrwyr gradd MChiro PDC a gwleidyddion lleol at ei gilydd yn y digwyddiad heddiw, a chawsant gyfle i fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a gweld myfyrwyr yn trin cleifion fel rhan o'u hastudiaethau blwyddyn olaf.

Mae bron i 100 o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu yn y clinig bob blwyddyn, gan ddarparu gofal ceiropracteg o ansawdd uchel, drwy ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth ac o dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwysedig.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles: "Mae'n bleser agor y Clinig Ceiropracteg newydd, fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn sicrhau bod myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol yn derbyn addysg o ansawdd uchel ac yn gwasanaethu'r gymuned, gan ddarparu mwy na 25,000 o apwyntiadau i gleifion bob blwyddyn.

"Mae PDC eisoes yn cael ei chydnabod fel arweinydd yn y DU ym maes addysg ceiropracteg a bydd y cyfleusterau newydd yn cadarnhau hyn ymhellach. Rwy'n llongyfarch y brifysgol a phawb - staff, myfyrwyr a phartneriaid - sydd wedi gwneud hyn yn bosibl."

Dywedodd Rachel Elias-Lee, Prif Swyddog Cyllid a Gweithredu PDC: "Mae’r Brifysgol yn falch iawn o’n Clinig Ceiropracteg newydd. Mae’n fwy nag adeilad – mae'r clinig yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu addysg geiropracteg o’r radd flaenaf. Mae’n cynnig cyfleusterau sydd ymhlith goreuon y sector i'n myfyrwyr, yn ogystal â’r profiad go iawn sydd ei angen arnynt i ragori yn eu proffesiwn.

"Mae ein partneriaid adeiladu, Kier, wedi creu amgylchedd astudio modern, integredig, proffesiynol sy'n cefnogi'r gymuned leol gyda gofal ceiropracteg o ansawdd uchel, ac yn agor pennod newydd drawiadol yn hanes Prif Gynllun Ystadau ein campws yn Nhrefforest."

Dywedodd yr Athro David Byfield, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol yn Athrofa Ceiropracteg Cymru: "Mae cwblhau'r clinig newydd yn goron ar raglen gradd Ceiropracteg PDC, gan ddod ag addysgu cyn-glinigol a lleoliadau clinigol at ei gilydd o dan yr un to, gan wella profiad ein myfyriwr ar eu taith i ddod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

"Mae'r clinig yn rhoi cyfle i archwilio a datblygu gwasanaethau gofal iechyd cydweithredol ac ymchwil ar lefel ryngbroffesiynol er budd y cleifion rydyn ni'n eu gwasanaethu yn ein cymuned."

Dywedodd Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales: “Rydym wrth ein bodd i weld y Clinig Ceiropracteg yma yn agor ei ddrysau i fyfyrwyr a chleifion - ased gwych i Brifysgol De Cymru a'r gymuned leol.

“Yn gweithio ynghyd a'r Brifysgol a'n bartneriaid cadwyn gyflenwi, rydym wedi darparu cyfleuster modern, cynaliadwy sydd yn cefnogi rhagoriaeth academig a lles cymunedol. Mae'n brosiect rydym yn hynod o falch o fod wedi'i gyflawni, ac un bydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon am flynyddoedd i ddod.”