Menter arloesol yng Nghymru yn targedu triniaeth graffach ar gyfer salwch meddwl difrifol
9 Hydref, 2025
Mae arbenigwyr technoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn helpu cwmni newydd o Gymru i ddatblygu triniaeth arloesol ar gyfer salwch meddwl difrifol.
Mae arbenigwyr technoleg ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn helpu cwmni newydd o Gymru i ddatblygu triniaeth arloesol ar gyfer salwch meddwl difrifol.
Mae'r arbenigwyr yng Nghanolfan Ragoriaeth PDC mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET) wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni biotechnoleg arloesol Meomics ar adnodd cyn-glinigol i gyflwyno meddyginiaeth fanwl i bobl y mae sgitsoffrenia a salwch meddwl difrifol eraill yn effeithio arnynt.
Ac yntau'n gwmni sy'n deillio o Brifysgol Caerdydd, mae Meomics yn datblygu platfform a fydd yn defnyddio niwronau sy'n deillio o fôn-gelloedd cleifion sgitsoffrenia, ac yna'n eu defnyddio i ddatblygu offer sy'n paru unigolyn â thriniaeth sy'n debygol o fod yn effeithiol iddo.
“Mae ein gwaith yn dangos y gallwn nid yn unig wahaniaethu rhwng niwronau iach a niwronau yr effeithir arnynt, ond hefyd nodi isfathau o gleifion sy'n ymateb yn wahanol i feddyginiaethau,” meddai Dr Lucy Sykes, Prif Swyddog Gweithredol Meomics. “Mae hyn yn agor y drws i seiciatreg fanwl, gyda’r nod o gael y triniaethau cywir i’r bobl gywir, mor effeithlon â phosibl.”
Ar ôl datblygu'r cysyniad ar gyfer y platfform, roedd angen cymorth ar Meomics i drosi'r data crai - a gasglwyd gan y cleifion â sgitsoffrenia - i'w ddefnyddio mewn system o algorithmau manwl gywir.
Gyda chefnogaeth gan CEMET, roedd y partneriaid yn gallu dylunio a gweithredu modelau ac algorithmau uwch sy'n gallu datgodio'r gweithgaredd niwronaidd cymhleth, a datblygu fframwaith a allai ddeall ymatebion a rhagweld sut y gallai gwahanol gleifion ymateb i gyffuriau niwro-weithredol.
Roedd cynnal y gwaith yn bosibl yn sgil y Rhaglen Partneriaethau Academaidd-Diwydiant (AIP) - a ariennir ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR). Dan arweiniad PDC, daeth â diwydiant a’r byd academaidd ynghyd i nodi atebion arloesol i heriau mentrau, yn enwedig ymhlith microfusnesau, a busnesau bach a chanolig.
Yn ôl Alasdair Pettigrew, Prif Swyddog Gweithredu Meomics, roedd arbenigedd uchel CEMET mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, a modelu data, yn allweddol wrth ddatblygu'r system newydd.
“Fe wnaethon nhw ein helpu i drosi signalau biolegol cymhleth yn fodelau data defnyddiadwy, gan ein galluogi i ragweld ymatebion i driniaeth gyda chywirdeb a dibynadwyedd,” meddai.
“Roedd eu harbenigedd mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn rhywbeth na allem fod wedi’i gael heb fod yn rhan o’r Rhaglen AIP.”
Ychwanegodd Dr Sykes: “Rhoddodd CEMET yr offer a’r ystyriaethau i ni i fireinio ein model a deall ei gyfyngiadau. Roedd y mewnwelediad hwnnw’n hanfodol i ddatblygu cynnyrch y gellir ei ddefnyddio’n glinigol ac yn fasnachol.”
Gyda’r prawf cysyniad bellach wedi'i gyflwyno, mae Meomics yn paratoi i lansio ei gynnyrch masnachol cyntaf a chynhyrchu refeniw drwy bartneriaethau.
“Ein gweledigaeth yw trawsnewid y driniaeth ar gyfer salwch meddwl difrifol,” meddai Mr Pettigrew. “Mae angen enfawr heb ei ddiwallu, ac rydym yn benderfynol o helpu i gael y cyffuriau cywir i’r bobl gywir, yn gyflymach.”
Dywedodd Clayton Jones, sy'n Rheolwr Rhaglen CEMET, fod y prosiect hwn yn dangos grym cydweithio go iawn.
“Drwy gyfuno ymchwil arloesol Meomics mewn biotechnoleg â’n gwybodaeth dechnegol ni am ddysgu peirianyddol a systemau data, roeddem yn gallu trawsnewid signalau biolegol crai yn fewnwelediadau a allai arwain triniaeth wedi'i phersonoli.
“Dyna’n union y math o effaith rydyn ni’n ymdrechu i’w chyflawni yn CEMET."