PDC yn sicrhau cyllid Rhaglen Cydweithio Diwydiannol Royce tuag at brosiect AI i atal briwiau pwyso

16 Hydref, 2025

David Odesola, myfyriwr PhD yn USW a Pheiriannydd Meddalwedd @ 3 Sided Cube; Athro Janusz Kulon; Dr Scott Dean, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Sensore™ gan Graphene Trace Ltd; a Joshua Sandat, Rheolwr ADnD, Sensore™ gan Graphene Trace Ltd

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o brosiect sy'n ceisio defnyddio AI i drawsnewid triniaeth ar gyfer briwiau gorwedd, ac a allai arbed biliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn.

Gyda chyllid o £94,000 gan Raglen Cydweithio Diwydiannol Sefydliad Henry Royce, bydd y prosiect dichonoldeb yn ceisio cyfuno synwyryddion pwysedd e-decstilau sy'n seiliedig ar graffîn ag AI i ddatblygu atebion ar gyfer atal a thrin briwiau pwyso.

Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Graphene Trace Ltd, cwmni newydd o Brydain sy'n datblygu’r genhedlaeth nesaf o ffabrigau synhwyro, a'r Uned Peirianneg Adsefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET), sydd wedi'i lleoli yn PDC, hefyd yn cyfrannu at y prosiect drwy ddarparu arbenigedd mewn datblygu apiau symudol, dylunio, a phrofi caledwedd.

Mae Janusz Kulon, Athro Peirianneg Fiofeddygol a Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol yn PDC, yn Arweinydd Academaidd ac yn Gyd-Ymgeisydd yn y prosiect.

Mae dimensiwn clinigol y prosiect yn cael ei gyflwyno ar y cyd â'r Uned Peirianneg Adsefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, dan arweiniad yr Athro Colin Gibson, gyda Dr Stephanie Wentworth yn darparu arbenigedd arbenigol mewn mapio pwysedd clinigol.

“Mae briwiau pwyso, a elwir yn aml yn friwiau gorwedd, yn anafiadau i'r croen a'r meinwe sylfaenol sy’n cael eu hachosi gan bwysedd estynedig yn erbyn wyneb fel gwely neu gadair - fe allan nhw fod yn wanychol, yn araf yn gwella, ac weithiau fe allan nhw beryglu bywyd,” meddai'r Athro Gibson.

“Mae symudedd cyfyngedig, colli teimlad, ac ystum gwael y corff i gyd yn ffactorau risg, gydag ymchwil yn awgrymu bod mwy na 700,000 o bobl yn cael eu heffeithio gan friwiau pwyso mewn lleoliadau gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

“Mae'r her nid yn unig yn glinigol ond hefyd yn economaidd: mae briwiau pwyso yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r gwariant iechyd blynyddol yn y Deyrnas Unedig - gydag amcangyfrifon mor uchel â £2.1 biliwn y flwyddyn - er y ffaith bod modd osgoi llawer o’r achosion hyn.

“Gallai dull Graphene Trace o fonitro pwysedd yn barhaus gael effaith drawsnewidiol ar y gallu i atal a rheoli briwiau pwyso yn effeithiol, tra'n gyrru gwelliannau mesuradwy yn ansawdd gofal cleifion.”

Ychwanegodd yr Athro Kulon fod y prosiect yn enghraifft go iawn o drosi arloesedd deunyddiau yn dechnoleg iechyd a all gael effaith yn y byd go iawn.

“Trwy baru ffabrigau synhwyro hynod denau ag AI amser real, rydyn ni’n gobeithio gwella dulliau atal briwiau pwyso yn sylweddol. Mae hyn yn rhywbeth a allai achub miliynau i'r GIG, ac, yn bwysicach, gallai newid bywydau,” meddai'r Athro Kulon.

“Rydyn ni’n llawn cyffro i gyfrannu fel Arweinydd Academaidd, gan helpu i fynd â'r prosiect hwn o gysyniad i brototeip. Mae'r cydweithio hwn yn dangos sut y gall ffabrigau craff ac AI newid y ffordd rydyn ni’n atal briwiau pwyso yn sylfaenol.

“Mae'n adlewyrchu ymrwymiad PDC i ymchwil gyda phwrpas, a gwyddoniaeth sy'n darparu gwelliannau mesuradwy ar gyfer iechyd, gofal a chymdeithas.”

Mae Graphene Trace Ltd, a sefydlwyd yn 2020, yn fusnes newydd o Brydain sy'n canolbwyntio ar dechnoleg synhwyro gwisgadwy wedi'i alluogi gan graffîn. Trwy ddefnyddio electroneg wedi'i hargraffu â sgrin, mae Graphene Trace yn cynhyrchu synwyryddion tenau, hyblyg a chost isel y gellir eu hintegreiddio'n ddi-dor i seddi neu ddillad gwely er mwyn monitro pwysedd yn barhaus. 

Yn wahanol i systemau masnachol presennol, sy'n aml yn swmpus ac yn rhy ddrud, gall ateb Graphene Trace gael ei gyflwyno ar raddfa fwy, mae’n fforddiadwy, ac mae wedi'i ddylunio i'w ddefnyddio'n eang mewn lleoliadau clinigol a chymunedol.

Dywedodd Dr Scott Dean, Prif Weithredwr Graphene Trace Ltd: “Rydyn ni wrth ein bodd o gyhoeddi bod Sensore wedi derbyn grant cystadleuol iawn drwy Raglen Cydweithio Diwydiannol Sefydliad Henry Royce mewn cydweithrediad â Grŵp Ymchwil Peirianneg Fiofeddygol a Chyfrifiadura yr Athro Janusz Kulon ym Mhrifysgol De Cymru.

“Mae'r garreg filltir hon yn gam cyntaf mewn cywaith cyffrous a phellgyrhaeddol rhwng Sensore a grŵp yr Athro Kulon, y bydd ei arbenigedd mewn dadansoddi cyhyrysgerbydol wedi'i yrru gan AI yn allweddol wrth ddatblygu model dysgu peirianyddol i nodi ystumiau cymhleth y corff, rhagweld risg o bwysedd a darparu atebion personol i osgoi briwiau pwyso sy'n gweithio i gleifion go iawn mewn amser real.”

Mae'r prosiect yn adeiladu ar hanes cryf PDC mewn deallusrwydd artiffisial cymhwysol ar gyfer peirianneg fiofeddygol ac asesu osgo.

Mae'r Athro Kulon a'i dîm wedi arloesi yn yr arfer o ddefnyddio dysgu peirianyddol ym maes gofal iechyd trwy fapio pwysedd a dadansoddi ystum y corff. Mae eu hymchwil yn cynnwys dylunio rhwydweithiau niwral troelliadol (CNNs) sy'n gallu dosbarthu ystumiau eistedd mewn amser real, defnyddio technegau ychwanegu data i wneud modelau AI yn fwy cadarn, a chreu fframweithiau sgorio ystumiol newydd sy'n addasu dulliau ergonomig i asesu risg clinigol.

O fewn y prosiect newydd hwn, bydd PDC yn arwain ar ddatblygu ffrwd dysgu peirianyddol wedi'i phersonoli a fydd yn darparu offer i glinigwyr fonitro a rhagweld yn ddeinamig y risg o friwiau pwyso. Bydd elfen allweddol o'r gwaith hwn yn cynnwys integreiddio data arbrofol o synwyryddion e-decstilau newydd Graphene Trace a meincnodi eu perfformiad yn erbyn matiau pwysedd safonol y diwydiant.

Dyfarnwyd cyllid i'r prosiect o dan Raglen Cydweithio Diwydiannol Royce, sy'n cefnogi prosiectau arloesi byr sy'n canolbwyntio ar effaith ac sy'n pontio'r byd academaidd a diwydiant.

Rhaglen Cydweithio Diwydiannol Sefydliad Henry Royce yw menter flaenllaw y Deyrnas Unedig ar gyfer hybu arloesedd ym maes deunyddiau. Mae’n ariannu prosiectau sy'n cael eu cynnal ar y cyd gan ymchwilwyr academaidd a phartneriaid diwydiannol i gyflymu'r broses o drosi deunyddiau datblygedig yn atebion yn y byd go iawn.

 

Capsiwn: David Odesola, myfyriwr PhD yn USW a Pheiriannydd Meddalwedd @ 3 Sided Cube; Athro Janusz Kulon; Dr Scott Dean, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Sensore™ gan Graphene Trace Ltd; a Joshua Sandat, Rheolwr ADnD, Sensore™ gan Graphene Trace Ltd