Adolygiad cenedlaethol ar isafbris ar gyfer alcohol
20 Ionawr, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/01-january/GettyImages-629578614.jpg)
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) a Phrifysgol Wrecsam wedi cyfrannu at adolygiad pedair blynedd a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru o gyflwyno isafbris (MPA) ar gyfer alcohol yng Nghymru.
Nod yr adolygiad oedd darparu dadansoddiad a gwerthusiad cyffredinol o weithredu, effaith ac ystyriaethau cychwynnol o isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru, a gyflwynwyd gyntaf ym mis Mawrth 2020. Cafodd y gost o 50c yr uned ei gytuno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r gyfraith hon yn berthnasol i bob busnes, sefydliad ac unigolyn y mae'n ofynnol iddynt feddu ar drwydded ar gyfer alcohol. Bydd unrhyw fanwerthwr sy'n gwerthu neu'n cyflenwi, neu'n awdurdodi gwerthu neu gyflenwi, alcohol o dan yr isafbris yn torri'r gyfraith a gallai gael dirwy.
Mae'r gwerthusiad hefyd yn ceisio asesu'r cyfraniad y mae gweithredu isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru wedi'i wneud i unrhyw newidiadau mewn canlyniadau ymddygiadol, yfed a manwerthu sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae academyddion Prifysgol Wrecsam, Wulf Livingston, Athro Astudiaethau Alcohol ac Iolo Madoc-Jones, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol a Throseddol, yn rhan o'r tîm sydd wedi gweithio ar yr adolygiad, ochr yn ochr â Katy Holloway, Athro Troseddeg, Dr Marian Buhociu, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a Shannon Murray, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil, ym Mhrifysgol De Cymru, a Gwasanaethau Ymgynghori Figure 8, yn Dundee.
Terfyna'r adroddiad gyda nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau a thriniaeth, gan gynnwys:
- Dylai Llywodraeth Cymru adnewyddu yn hytrach na cholli'r opsiwn o MPA fel mesur polisi alcohol yng Nghymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i ystyried adolygiad o'r lefel pris 50c fesul uned presennol.
- Mae angen cynnydd mewn pris i o leiaf 65c yr uned er mwyn cynnal gwerth presennol y polisi ac unrhyw effeithiau cadarnhaol a welwyd hyd yn hyn.
- Dylai Llywodraeth Cymru gymryd sylw o effaith andwyol y polisi ar rai poblogaethau ar incwm isel ac yfwyr trwm, a dylai, yn ei thro, sicrhau bod ei thriniaeth, ei pholisi a'i darpariaeth alcohol yn diwallu anghenion y grŵp hwn.
- Dylai unrhyw barhad o'r polisi gyd-fynd â gwerthusiad parhaus a phellach. Dylai hyn gynnwys ystyried effaith MPA ar blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Dylai Llywodraeth Cymru gymryd sylw gweithredol bod anghydraddoldeb ac amddifadedd dilynol yn ffactor hanfodol o ran canlyniadau iechyd.
- Dylai gwasanaethau a thriniaethau gyfathrebu'n gliriach â staff a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau am bolisi MPA.
- Dylai darparwyr gwasanaethau a thriniaeth fod yn glir wrth gynnig cyngor lleihau niwed penodol ynghylch y niwed posibl o newid o un cynnyrch alcohol i'r llall a/neu sylweddau eraill.
Dywedodd yr Athro Holloway: “Diolch i'r tîm anhygoel o ymchwilwyr yr wyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â nhw, ac i'r rhai a gyfwelwyd â llawer ohonynt ar sawl achlysur dros y cyfnod astudio pum mlynedd gan gynnwys ar anterth pandemig COVID-19.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r holl ymatebwyr a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg yn aml mewn cryn fanylder. Gobeithiwn y bydd yr argymhellion sy'n deillio o'n hadroddiadau yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac, yn y pen draw, y bydd hyn yn helpu i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru.
“Mae ein hastudiaeth wedi dangos bod MPA yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cael gwared â chynhyrchion alcohol rhad iawn - mae pris seidr gwyn cryf wedi cynyddu'n sylweddol yn dilyn cyflwyno MPA ac mae bellach yn absennol i raddau helaeth o silffoedd siopau. Fodd bynnag, mae effeithiau ehangach MPA yn gymysg ac ymddengys bod poblogaethau penodol yn fwy agored i'w effeithiau negyddol nag eraill. Er ein bod wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau ar gyfer parhad MPA yng Nghymru, rydym hefyd wedi argymell eu bod yn gweithredu cyfres o gamau cyflenwol i wneud y mwyaf o effeithiolrwydd MPA a lleihau unrhyw ganlyniadau anfwriadol."
Dywedodd yr Athro Livingston: “Mae'r adolygiad wedi datgelu nifer o themâu a negeseuon allweddol gan gynnwys y ffaith bod gweithredu'r polisi yn gyffredinol wedi bod yn llwyddiannus - ac yn gyffredinol, mae pobl yn cytuno â'r polisi.
“Fodd bynnag, mae pryder am grwpiau penodol o unigolion, sy'n cynnwys yfwyr dibynnol yn bennaf sy'n ceisio cynnal fforddiadwyedd trwy fynd, er enghraifft, heb fwyd neu beidio â thalu biliau. Mae hynny'n bendant yn achos pryder ac mae angen cefnogaeth ar eu cyfer.”
Ychwanegodd yr Athro Livingston: “Mae'r gwerthusiad cyffredinol hwn o gyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru yn gam pwysig mewn taith hirdymor ynghylch deall mesurau polisi alcohol a'u heffaith.
“Wrth ddwyn ynghyd yr hyn a wyddys am yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru ers mis Mawrth 2020, a chymharu hyn â phrofiadau rhyngwladol ehangach, yn enwedig rhai'r Alban, mae wedi tynnu sylw at y rôl y gall prisiau a newidiadau mewn prisiau ei chwarae mewn patrymau yfed alcohol.
“Mae'r adroddiad yn dangos bod profiad Cymru wedi adlewyrchu llawer o'r disgwyliadau a'r cyfrifon mewn mannau eraill, sy'n dangos y gall dulliau isafbris effeithio mewn gwirionedd ar werthu ac yfed cynhyrchion alcohol rhad.
“Ymhellach, dengys bod hon yn stori gymhleth ac anodd ei ddatrys, gyda phrofiadau gwahanol i wahanol grwpiau o yfwyr, mecanweithiau ymdopi wedi'u haddasu, canlyniadau anfwriadol a dylanwadau byd ôl-Covid a'r heriau parhaus oherwydd costau byw.”