Cyn-fyfyrwyr PDC yn helpu i adeiladu cyfleuster cyfrifiadurega, peirianneg a thechnoleg newydd
16 Ionawr, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/01-january/newyddion-Ionawr-bam-cyn-fyfyrwyr.jpg)
Mae tîm tad a mab ymhlith cyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru (PDC) sy'n ymwneud ag adeiladu cyfleuster newydd mawr ar Gampws Trefforest y Brifysgol.
Mae cysylltiad teuluol Chris a Callum Murray â PDC yn cael ei gryfhau ymhellach gan fod mab arall Chris, Cody, ym mlwyddyn olaf ei radd Rheoli Prosiect Adeiladu yn y Brifysgol.
Mae Chris a Callum yn gweithio i BAM, y cwmni adeiladu a benodwyd yn gynharach eleni i adeiladu'r adeilad Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg pum llawr newydd ar y campws.
Bydd y cyfleuster uwchdechnoleg newydd yn cynnwys mannau dysgu ac ymchwil, labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, gallu realiti rhithwir, a mannau arddangos. Mae'r gwaith adeiladu eisoes ar y gweill ac mae disgwyl iddo gymryd dwy flynedd i'w gwblhau.
Roedd y penderfyniad i benodi'r cwmni adeiladu BAM i ddarparu'r adnodd uwchdechnoleg newydd yn golygu y byddai nifer o staff y cwmni yn dychwelyd i safle eu hastudiaethau.
Mae Chris, Rheolwr Syrfëwr y prosiect, yn goruchwylio elfennau cynllunio costau a masnachol y prosiect, tra bod Callum yn rhan o'r tîm fel syrfëwr ar y safle.
Mae Chris, sy'n gyn-fyfyriwr PDC (pan yr oedd o’r enw Prifysgol Morgannwg) ac a gwblhaodd radd Tirfesur Meintiau yn 2002, wedi rheoli'r prosiect o'r cyfnod cyn adeiladu ac mae'n parhau i ddarparu goruchwyliaeth ddyddiol. Mae dychwelyd i PDC eisoes wedi bod yn brofiad gwych iddo:
"Mae gweithio gyda'r Brifysgol ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, yn enwedig ar brosiect o'r raddfa hon, wedi bod yn brofiad boddhaus," meddai Chris.
"Mae'n werth chweil dod â chysylltiad personol yn ogystal ag arbenigedd proffesiynol i'r prosiect.
"Rwyf wedi bod yn awyddus drwy'r prosiect cyfan i gael cyfleoedd i bobl ifanc ar y mentrau hyn a mentrau tebyg oherwydd rwy'n gwybod, o'r profiad gyda fy nheulu, pa mor anodd y gall fod i sicrhau rôl yn y diwydiant."
Hefyd yn gweithio ar y prosiect, ochr yn ochr â Callum fel Uwch Syrfëwr, mae Sophie Hawker.
Fodd bynnag, mae Sophie wedi dilyn llwybr ychydig yn wahanol i'w rôl bresennol. Ar ôl graddio o Forgannwg yn 2010 gyda gradd yn y Gyfraith, penderfynodd newid trywydd a dilyn gyrfa mewn adeiladu, a chwblhaodd HND mewn arolygu yn 2013.
Ers hynny, mae Sophie wedi adeiladu gyrfa lwyddiannus fel syrfëwr prosiect, ac mae bellach yn goruchwylio rheolaeth isgontractwyr, goruchwyliaeth ariannol a rhyngweithiadau â chleientiaid, fel rhan o brosiect PDC.
"Mae'n swreal bod yn ôl ar y campws, ond mewn ffordd mor wahanol," meddai.
"Rwy'n falch iawn o gyfrannu at PDC fel hyn, gan drosglwyddo o fod yn fyfyriwr yma i arwain prosiect y bydd myfyrwyr y dyfodol yn elwa ohono."
Hefyd yn ymwneud â'r prosiect mae Kingsley Davies, sy'n Rheolwr Dylunio ar gyfer BAM Construction. Mae'r rôl hon yn cynnwys cydlynu a rheoli tîm dylunio amlddisgyblaethol, gan gynnwys penseiri, peirianwyr sifil, penseiri tirwedd, a pheirianwyr mecanyddol a thrydanol, ac mae hefyd yn sicrhau bod dyluniad y prosiect yn cyd-fynd â llinellau amser adeiladu, caffaeliad deunyddiau, a safonau adeiladu.
Wrth fyfyrio ar ei ddychweliad i'r Brifysgol, lle bu'n astudio Rheoli Prosiect (Adeiladu), dywedodd Kingsley: "Mae'n teimlo fel fy mod yn cwblhau'r cylch. Pan oeddwn yn fyfyriwr, dim ond cysyniadau oedd llawer o'r datblygiadau campws a adeiladwyd, ac fel myfyrwyr, roeddem yn eu gwerthuso fel rhan o'n dysgu.
"Mae'n anhygoel gweld y syniadau hyn o 15-20 mlynedd yn ôl yn cael eu gwireddu ac i fod yn rhan o hyn, gyda'r adeilad cyfrifiadureg, peirianneg a thechnoleg newydd nesaf ar y rhestr.
"Gan fod gen i gysylltiad personol â'r Brifysgol, mae elfen benodol o falchder wrth weithio ar brosiect ar gyfer y campws hwn."
Dywedodd Mike Bessell, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau'r Brifysgol: "Mae saith o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn gweithio yn BAM ar ddatblygiad yr adeilad Cyfrifiadureg, Peirianneg a Thechnoleg newydd, sy'n wych.
"Mae'n wych cael ein cyn-fyfyrwyr i gyfrannu, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u profiad, at adeiladu cyfleuster a fydd o fudd i genedlaethau o fyfyrwyr i ddod.
"Mae ein cyn-fyfyrwyr hefyd yn rhannu eu gwybodaeth gyda'n myfyrwyr presennol, gan helpu i gyflwyno darlithoedd gwadd a chynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ennill profiad hanfodol yn y byd go iawn, a fydd yn parhau drwy gydol y cyfnod adeiladu."
Yn y llun mae Cody Murray, Kingsley Davies, Chris Murray, Sophie Hawker, a Callum Murray