Defnyddio realiti estynedig i greu trefn ddyddiol mwy chwareus

9 Ionawr, 2025

Enghraifft o ddefnyddio realiti estynedig

Mae gwaith ymchwil gan academydd o PDC yn archwilio defnydd realiti estynedig - profiad rhyngweithiol sy’n cyfuno’r byd go iawn a chynnwys 3D a grëir gan gyfrifiadurol - o ran gwneud ein bywyd bob dydd yn fwy chwareus.

Mae Dr Ben Gwalchmai, darlithydd Arloesedd Digidol yn Academi Dysgu Dwys PDC, wedi cyfrannu pennod at y llyfr ‘Ambient Stories’, sydd wedi’i gyhoeddi gan Bloomsbury yn ddiweddar.  

Mae’r bennod, sydd â’r teitl Here. Now. Ours: Interrogating the use of situated augmented reality, yn archwilio chwarae amgylchol - ffurf ‘yn y fan a’r lle’ ar ryngweithio - a sut gallwn wneud ein trefn ddyddiol yn chwarae mewn ffordd di-strwythur.  

Mae ymchwil Ben yn canolbwyntio ar y syniad o ddinasoedd y gellir eu chwarae; hynny yw, cysylltu maes realiti estynedig gyda’r data agored sydd eisoes ar gael, i greu rhyngweithiadau chwareus a barddonol ar gyfer eu cymunedau.

Ceir yn y bennod enghreifftiau o sut gallwn wneud ein taith i’r gwaith yn fwy hwyliog, ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer sefydliadau cyhoeddus ar sut i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion mewn drwy ryngweithio mwy chwareus ac amgylchynol, a fydd yn rhoi cyfle iddynt fynegi barn a rhannu awgrymiadau.

Dywedodd: “Yn y bôn, mae fy nghyfraniad at y llyfr yn dangos y bydd pobl yn ymgysylltu mwy ac yn rhoi mwy o adborth os ydyn nhw’n cael cyfle i ddeall rhywbeth - ac yn fy achos i, roedd hynny’n digwydd drwy chwarae.

“Roedd fy PhD yn canolbwyntio’n benodol ar fanteisio ar chwarae amgylchynol fel hyn; gweld a fyddai’n gwneud i bobl ymgysylltu mwy â cheisiadau cynllunio heriol a allai waredu eu mannau gwyrdd a pharciau. Daeth i’r amlwg po fwyaf yr oeddent yn ymgysylltu, y mwyaf o boen iddynt i Gyngor y Ddinas o ran eu hatal rhag adeiladu meysydd parcio dros fannau gwyrdd. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl, a gobeithio y bydd yn dangos i sefydliadau sector cyhoeddus bod pobl yn fwy tebygol o ymgysylltu drwy gael cyfle chwareus a rhyngweithiol i wneud hynny.”

Mae Ben wedi cael gyrfa amrywiol, yn dechrau fel gwas ffarm yng nghefn gwlad Cymru a gweithio fel dylunydd gwefannau ar yr un pryd. O fanno, trodd ei law at ysgrifennu nofelau a llyfrau barddoniaeth a chreu profiadau trochol - hyn oll arweiniodd at ei benderfyniad i astudio PhD.

Diolch i ysgoloriaeth lawn gan Google ac IBM, dechreuodd Ben astudio ei PhD yn 2016 ym Mhrifysgol Galway (Prifysgol Cenedlaethol Iwerddon Galway gynt). Cwblhaodd ei PhD yn 2021.

Gyda diddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, tyfodd angerdd Ben at ddemocratiaeth yn ystod ei PhD wrth iddo fynd i’r afael â strwythurau penderfynu sefydliadau sector cyhoeddus, a phenderfynodd ymgeisio i’r Senedd yn 2020.

Daeth yn ymgeisydd Llafur Cymru yn 2021, a sylweddolodd bod ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymarfer gwleidyddol wrth iddo weld pa mor angenrheidiol ac effeithiol oedd gwaith gwleidyddol ar fywydau pobl.

Yn 2024 cafodd ei ddewis yn Bencampwr Digidol Trefi Clyfar ei dref enedigol, Y Trallwng, a llwyddodd i arwain prosiect i osod y gwasanaeth WiFi am ddim cyntaf yn y dref.

“Ro’n i’n teimlo’n gryf bod angen y gwasanaeth yn Y Trallwng,” dywedodd Ben. “Mae’n golygu bod unrhyw un sy’n dioddef tlodi data yn gallu mynd i’r dref i wneud beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae effaith felly yn hollbwysig, ond mae hefyd yn berthnasol i’m gwaith fel darlithydd yn Academi Dysgu Dwys PDC ar yr MSc Arwain Trawsnewid Digidol. Rydw i’n darlithio ar feddwl dylunio a dylunio ar sail profiad y defnyddiwr, felly dw i’n cynnwys pobl wrth wraidd y gwaith, ond dw i hefyd yn arfarnu effaith y tri charfan gyntaf o’r MSc ar lefel data, meintiol yn bennaf. Disgwylir i’r ymchwil ddod i ben ar ddechrau 2025.”