Graddedigion y garfan gyntaf mewn cwrs seicoleg arloesol
23 Ionawr, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/01-january/MSc-Psychology-conversion-1.jpg)
Yn 2022, lansiodd Prifysgol De Cymru (PDC) gwrs ôl-raddedig seicoleg newydd ac arloesol. Yr wythnos hon, mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr y cwrs MSc Seicoleg (Trosi) yn dathlu wrth groesi'r llwyfan yn eu cap a'u gŵn.
Mae'r cwrs trosi yn llwybr i fyfyrwyr sydd â gradd Anrhydedd israddedig mewn pwnc heblaw seicoleg, sy'n dymuno newid eu llwybr gyrfa i gynnwys seicoleg.
Un o'r graddedigion yw Ndi John, Arweinydd Datblygu Cynnwys y GIG, gyda chefndir mewn microbioleg ac iechyd y cyhoedd. Mae llwybr Ndi i faes seicoleg yn adlewyrchu ei hawydd i fynd i'r afael â heriau iechyd meddwl, yn enwedig i blant ac oedolion ifanc, ac mae hyn wedi’i harwain tuag at yrfa mewn seicoleg gwnsela.
Yn wreiddiol o Nigeria, daeth Ndi i Brydain am y tro cyntaf ddau ddegawd yn ôl i ddilyn gradd meistr ym maes iechyd y cyhoedd. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi meithrin cyfoeth o brofiad academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys gradd meistr mewn gweinyddu busnes, ond bu’r alwad i faes seicoleg yn gryf.
Gan fyfyrio ar ei phenderfyniad i ymgymryd â'r cwrs trosi, meddai Ndi: "Ni chafodd fy ngradd israddedig mewn microbioleg ei chydnabod ar gyfer mynediad i seicoleg gwnsela. Yr MSc hwn oedd y cam cyntaf, a nawr rwy'n bwriadu parhau â chymhwyster doethurol mewn seicoleg gwnsela, hefyd yn PDC.
Yn ystod y cwrs, canolbwyntiodd Ndi ei hymchwil ar werthuso menter Gwirfoddolwyr Rhithwir Heddlu De Cymru. Mae'r rhaglen arloesol hon yn galluogi cyfranogwyr i gyfrannu at ymdrechion atal troseddu o bell, gan ganolbwyntio ar faterion fel troseddau sy'n gysylltiedig ag AI, twyll rhamant, a chynlluniau smyglo arian. Archwiliodd ymchwil Ndi y cymhellion a'r rhwystrau sy'n wynebu cyfranogwyr, gan gynnig dealltwriaeth i helpu i fireinio ac ehangu'r fenter.
Wrth iddi baratoi i raddio, mae Ndi yn myfyrio ar arwyddocâd ei chyflawniad. "Yn nesáu at fy hanner cant, rwyf wedi profi i mi fy hun nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion," meddai. Er gwaethaf y ffaith bod ganddi sawl gradd, mae gan yr un hon ystyr arbennig fel cam tuag at ei nod yn y pen draw.
Meddai Rachel Taylor, Arweinydd y Cwrs: "Mae ein cwrs trosi ar-lein yn berffaith i bobl, fel Ndi, sydd eisiau llwybr amgen i faes seicoleg.
"Mae'r cwrs yn cynnig Sylfaen Graddedig ar gyfer Siarteriaeth gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain, sef y cam cyntaf hanfodol wrth ddod yn seicolegydd cofrestredig.
"Llongyfarchiadau i'r garfan gyntaf i raddio yn y cwrs. Rydych chi i gyd wedi gweithio mor galed ac wedi ysbrydoli newid go iawn gyda'n partneriaid allanol. Rwy'n falch iawn ohonoch."