PDC yn codi 59 lle yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet

8 Ionawr, 2025

Logo People and Planet 2024-25

Mae Prifysgol De Cymru wedi codi 59 lle yn nhabl Cynghrair Prifysgolion People and Planet ar gyfer 2024-25, sef safle 23 yn gyffredinol ymhlith 149 o sefydliadau yn y DU a 4ydd yng Nghymru.

Mae Cynghrair Prifysgolion People and Planet yn dabl annibynnol a chynhwysfawr o brifysgolion y DU sy’n seiliedig ar berfformiad amgylcheddol a moesegol yn unig. Fe'i llunnir yn flynyddol gan y rhwydwaith ymgyrchu myfyrwyr, People & Planet, ac fe'i defnyddir gan ddarpar fyfyrwyr sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd eu haddysg.

Bellach wedi’i graddio fel prifysgol dosbarth 1af, sgoriodd PDC 100% ar gyfer Polisi Amgylcheddol, Ymgysylltu a Chynaliadwyedd Staff, ac mae yn safle 4 ymhlith yr holl brifysgolion ar gyfer Ffynonellau Ynni, safle 7 ar gyfer Lleihau Carbon, safle 12 ar gyfer Rheoli Carbon a safle 21 ar gyfer Gwastraff ac Ailgylchu.

Dywedodd Neil Bradley, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Ynni yn PDC: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyflawni cynnydd mor enfawr yn nhabl Cynghrair Prifysgolion People & Planet, o safle 82 i 23 mewn blwyddyn. Mae'r canlyniad hwn yn dangos gwaith caled cydweithwyr ymroddedig sy'n helpu i sbarduno newid cadarnhaol a chynaliadwy ar draws y Brifysgol.

“Rydym yn falch o’r mesurau cynaliadwyedd rydym wedi’u rhoi ar waith hyd yn hyn, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol gwell, mwy cynaliadwy i’n myfyrwyr a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ar ein taith i Sero Net erbyn 2040.

“Byddwn yn defnyddio’r llwyddiant hwn fel sbardun i gyflawni gwelliannau pellach dros y 12 mis nesaf, a fydd yn parhau i wella ein proffil cynaliadwyedd yng Nghymru a ledled y DU.”

Mae Polisi Amgylchedd a Chynaliadwyedd PDC a'n Strategaeth Carbon 2020-2030 yn arwain ein camau gweithredu a'n dull at ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd ac yn ysgogi gwelliant parhaus yn ein perfformiad amgylcheddol.

Mae ein Pwyllgor Cynaliadwyedd yn darparu llywodraethu, cyfeiriad a chraffu ar ein gweithgareddau cynaliadwyedd ac yn adolygu ac yn monitro cynnydd yn erbyn strategaeth Sero Net y Brifysgol o bryd i’w gilydd i sicrhau bod y gwaith parhaus o leihau carbon yn cael ei gyflawni.

Mae dadansoddiad llawn o sgôr PDC yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet ar gael yma.