Sut ydych chi'n goroesi effaith asteroid? Disgyblion ysgol yn dysgu'r gwersi hanfodol

30 Ionawr, 2025

Grŵp o ddisgyblion a fynychodd y sesiynau STEM yn gwisgo masgiau nwy wedi'u gwneud o boteli plastig

Mae ein tîm allgymorth STEM wedi cyflwyno cyfres o bum sesiwn Clwb STEM un awr i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Mihangel Sant yn Nhrefforest.

Darparwyd y sesiynau - yn seiliedig ar adnoddau Dysgu STEM  'A allech chi oroesi effaith asteroid?' - gan naw myfyriwr o Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth y Brifysgol, sydd oll yn Llysgenhadon STEM hyfforddedig.

Roedd y sesiynau yn caniatáu i'r disgyblion wneud masgiau nwy allan o boteli, cynllunio bwydlen yn seiliedig ar bryfed bwytadwy a rhoi cynnig ar bryfed bwytadwy eu hunain, cyfrifo maint craterau effaith asteroid, astudio effeithiau glaw asid, a gwneud eu telesgopau eu hunain.

Darparwyd yr adnoddau ar gyfer y sesiynau gan y Brifysgol, a gall disgyblion fynd â'u gwaith adref ar ddiwedd pob sesiwn.

Dywedodd Glen Payne, Cydlynydd STEM Ysgol Gynradd Mihangel Sant: “Mae'r Clwb STEM yn wych. Mae'r cyfathrebu cyn y sesiynau yn amserol ac yn ddefnyddiol iawn.

“Mae'r Llysgenhadon yn frwdfrydig, gwybodus ac yn fodelau rôl cadarnhaol iawn. Maent wedi mwynhau addysgu'n fawr, ac mae'r disgyblion wedi ymateb iddynt o ran eu hymgysylltiad, eu cyffro a'r gwerth cyffredinol o'r profiadau y maent wedi'u hennill.

“Rwy'n ddiolchgar iawn i Laura am drefnu, a'r myfyrwyr am gynnal sesiynau mor rhagorol. Mae'r disgyblion, a minnau, yn siomedig eu bod yn dod i ben a byddwn yn edrych i gymryd rhan eto yn y dyfodol.”

Dywedodd Laura Roberts, Swyddog Allgymorth STEM PDC: “Mae'r Llysgenhadon myfyrwyr STEM wedi bod yn anhygoel wrth gyflwyno'r sesiynau hyn, gan eu gwneud yn hwyl ac yn ennyn diddordeb y disgyblion, rwy'n hynod falch ohonynt.

“Mae mwy o Glybiau STEM wedi'u trefnu ar gyfer tymor yr haf gyda dwy ysgol gynradd arall, ac mae cais Cronfa Cenhadaeth Ddinesig wedi'i gyflwyno a fydd yn ehangu nifer y Clybiau STEM y gallwn eu cynnig y flwyddyn academaidd hon mewn cydweithrediad â Choleg y Cymoedd a Choleg Merthyr Tudful.”

Os oes gan unrhyw ysgolion ddiddordeb mewn archebu Clwb STEM neu Weithdai STEM eraill gyda'r tîm Allgymorth STEM (cyn-16) cysylltwch â [email protected].