Arbenigwr o PDC yn gweithio gydag arbenigwyr Asiaidd i ddiogelu rhywogaethau bregus
28 Mai, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/05-may/news-may-sunbear.jpg)
Mae arbenigwr cadwraeth o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr yn Ne-ddwyrain Asia ar brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiogelu’r rhywogaeth leiaf o eirth ar y blaned.
Mae Dr David Lee, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg Bywyd Gwyllt yn PDC, wedi bod yn cynnal ymchwil i fywydau eirth Malaia mewn coedwigoedd corsydd mawn ar ynys Sumatra yn Indonesia, mewn cydweithrediad â Restorasi Ekosistem Riau (RER), prosiect dan arweiniad y sector preifat sy'n anelu at warchod ac adfer ardaloedd cadwraeth ecolegol bwysig yn y rhanbarth.
Yn llai nag un metr o daldra, Eirth Malaia yw'r lleiaf o’r wyth o rywogaeth o eirth yn y byd ac mae ganddynt flew o liw oren hufennog ar eu brest y dywedir ei fod yn debyg i haul sy'n codi. Dyna darddiad yr enw Saesneg arnynt, sef y ‘Sun Bears’. Mae'r anifeiliaid hyn fel arfer yn byw’n bennaf ar eu pennau eu hunain ac mae ganddyn nhw grafangau sydd wedi haddasu'n arbennig ar gyfer dringo coed a chloddio am fwyd. Maen nhw’n byw ar bryfed, fel morgrug, gwenyn a morgrug gwyn, a mêl a ffrwythau amrywiol. Mae ganddyn nhw dafod hir - yr hiraf o unrhyw rywogaeth o eirth - sy'n eu galluogi i gyrraedd pryfed a mêl y tu mewn i holltau mewn coed.
Fe'u ceir yng nghoedwigoedd trofannol De-ddwyrain Asia, gan gynnwys Malaia, Indonesia, Gwlad Thai, a Fietnam, ac maen nhw’n cael eu hystyried yn rhywogaeth fregus oherwydd dirywiad, colled a darnio cynefinoedd, hela a masnacha anghyfreithlon, a marwolaethau'n codi o’r rhyngweithio rhyngddyn nhw a phobl.
Ffocws ymchwil Dr Lee yw deall statws yr Eirth Malaia o ran eu poblogaeth, eu hanghenion o ran cynefinoedd, a’u dosbarthiad. Trwy weithio ochr yn ochr â RER, mae'n anelu at gau’r bwlch gwybodaeth ynghylch ecoleg Eirth Malaia a chyfrannu at adfer a rheoli'r coedwigoedd sy'n eu cynnal.
Mae'r bartneriaeth gyda RER a'r Institut Pertanian Bogor, sy’n cael ei adnabod fel Prifysgol IPB, wedi bod o fudd i'r ddwy ochr, yn meithrin doniau lleol, gan gynnwys myfyriwr Meistr sy'n gwneud gwaith ymchwil maes, a gwella'r gallu ar gyfer mentrau cadwraeth hirdymor.
"Mae'r bartneriaeth rhwng PDC ac RER yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio rhyngwladol gryfhau ymdrechion cadwraeth," medd Dr Lee.
"Mae'r prosiect yn cynnig cyfleoedd datblygu gwerthfawr i ecolegwyr cadwraeth ifanc, sy'n derbyn mentora a phrofiad ymarferol yn y maes, ac mae’r cydweithrediad wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo dealltwriaeth RER o ble mae Eirth Malaia, i lywio penderfyniadau o ran eu strategaethau rheoli ecosystemau.
"Trwy gyfuno ein harbenigedd ni ag arbenigedd IPB a chadwraethwyr RER, rydym yn creu fframwaith cynaliadwy ar gyfer ymchwil a chadwraeth Eirth Malaia a fydd o fudd i'r rhywogaeth a hefyd i'r cymunedau lleol sy'n dibynnu ar yr ecosystemau hyn."
Disgwylir i ganfyddiadau'r prosiect, yn enwedig ynghylch presenoldeb a dosbarthiad Eirth Malaia mewn gwahanol gynefinoedd coedwig, chwarae rhan allweddol yn rheoli ecosystemau RER.
Bydd y data, sy'n cynnwys delweddau o dros 30 o gamerâu cudd mewn gwahanol gynefinoedd coedwig, yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o sut mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio ar boblogaethau Eirth Malia, ac yn penderfynu pa elfennau o'r dirwedd sydd fwyaf hanfodol ar gyfer cadwraeth yr anifail.
Mae'r cydweithio â PDC yn galluogi RER i integreiddio ymchwil arloesol i’w rhaglenni cadwraeth.
Dywedodd Yoan Dinata, Rheolwr Ymchwil a Monitro RER: "Mae RER yn rheoli ardal o tua 150,000 hectar, sy'n cynnwys coedwig corsydd mawn yn bennaf. Mae'r ardal yn gallu amsugno carbon a byddai niwed i'r ardal yn cael effaith sylweddol ar y newid byd-eang yn yr hinsawdd."
Arbenigwr o PDC yn gweithio gydag arbenigwyr Asiaidd i ddiogelu rhywogaethau bregus
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/05-may/news-may-sunbear.jpg)