Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys | “Astudio’n rhan-amser oedd y dewis gorau i mi”

12 Mai, 2025

Mae Owen Nash, myfyriwr nyrsio oedolion, yn sefyll yn dderbynfa Ysbyty gan wisgo dillad nyrsio porffor a chortyn coch gydag ID Prifysgol De Cymru yn hongian o’i wddf. Mae ganddo datŵs ar y ddwy fraich, sbectol a barf, ac mae’n gwenu gyda’i ddwy law yn ei boced.

Mae Owen Nash, myfyriwr Nyrsio Oedolion, 40 mlwydd oed o Borth, ar fin cwblhau ei radd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), gan brofi y gall penderfyniadau gwytnwch baratoi’r ffordd i lwyddiant, dim ots o’ch cefndir.

Ni ddilynodd Owen y llwybr traddodiadol i’r brifysgol. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, roedd diffyg cefnogaeth academaidd wedi ei adael heb y cymwysterau i barhau â’i addysg. Yn lle hynny, aeth i fyd gwaith – yn gyntaf mewn gwaith bar ac yna i faes diogelwch, cyn dod o hyd i rôl ym maes gofal iechyd a newidiodd gwrs ei fywyd.

“Fe wnes i sylweddoli fy mod i’n dwlu ar weithio gyda chleifion,” eglurodd Owen. “Anogodd fy nghydweithwyr fi i ennill cymwysterau pellach ac i anelu’n uwch oherwydd fy agwedd a’r ffordd ro’n i’n gofalu am gleifion.”

Enillodd Owen brofiad ym maes gofal iechyd gan weithio ym maes adsefydlu’r asgwrn cefn yn Ysbyty Rockwood ac yna yn y gardioleg yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd. Ysbrydolodd y ddwy swydd ef i ddilyn gyrfa ym mes nyrsio. Dychwelodd Owen at astudio wrth weithio’n llawn amser - cyfuniad heriol a oedd yn anodd iddo ar y dechrau.

“Roedd cydbwyso gwaith llawn amser ac astudio ar ôl ugain mlynedd i ffwrdd o addysg yn anodd dros ben,” meddai. “Fodd bynnag, unwaith y symudais o’r Dystysgrif mewn Addysg Uwch i mewn i’r rhaglen radd, gwnaeth cael mwy o amser astudio pwrpasol wahaniaeth enfawr. Mae’r cwrs wedi cymryd chwe blynedd i’w gwblhau, ond mae’r amser wedi hedfan heibio. Astudio’n rhan-amser oedd y dewis gorau i mi, heb os.”

Drwy gydol ei astudiaethau, mae Owen wedi cydbwyso llu o gyfrifoldebau, gan gynnwys gofalu am ei chwech o blant. Er gwaethaf y pwysau hwn, mae wedi ffynnu, gan ddod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ac yn Gadeirydd y Grŵp Cyswllt Cwrs Myfyrwyr a Staff.

Wrth nesáu at ddiwedd ei radd, mae Owen yn edrych ymlaen at ddyfodol ym maes gofal critigol, ar ôl gwneud cais am swyddi yn yr Uned Gofal Dwys ac yn yr Uned Gofal Ôl-Anesthetig. Ar ôl profiad gwerthfawr ar leoliad yn yr uned gofal dwys, darganfu Owen angerdd dros weithio gyda chleifion mwyaf bregus yr Ysbyty.

“Rwy’n hoffi’r her o weithio ym maes gofal critigol,” meddai. “Mae’n rhaid i chi aros yn effro, mae’n rhaid i chi feddwl yn gyflym, ac mae’r gefnogaeth yn y maes hwn yn anhygoel.”

Wrth edrych yn ôl ar ei daith, dyma’r cyngor mae Owen yn ei awgrymu i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa ym maes nyrsio;

“Ystyriwch gael profiad fel cynorthwyydd gofal iechyd yn gyntaf. Nid yw nyrsio’n foethus – mae’n ymwneud â gofal gwirioneddol, o ymolchi cleifion i feddwl yn feirniadol. Peidiwch â gadael i oed nac i’ch cefndir eich atal. Nid yw byth yn rhy hwyr.”