Partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r GIG yn dargyfeirio gwastraff meddygol ac yn arbed miloedd

13 Mai, 2025

Symbol ailgylchu gwyrdd sy'n cynnwys tri saeth sy'n ffurfio triongl.

Mae prosiect arloesol rhwng Prifysgol De Cymru (PDC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi llwyddo i ailosod eitemau meddygol gan arbed dros £20,000 a lleihau gwastraff clinigol yn sylweddol o fewn chwe mis yn unig.

Wedi sefydlu mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Datgarboneiddio GIG Cymru, nod y fenter yw ffurfioli ffrwd wastraff cynaliadwy sy’n dargyfairio eitemau meddygol nag defnyddiwyd oddi wrth eu llosgi ac i fyfyrwyr gofal iechyd ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda theatrau llawdriniaethau yn Ysbytai Brenhinol Morgannwg a’r Tywysog Siarl. Gyda’i gilydd, maent wedi creu system lle mae nwyddau traul meddygol glân, heb eu defnyddio, ac yn aml yn dal i fod yn ddi-haint, fel menig, chwistrellau, a dresin, yn cael eu casglu cyn iddynt gael eu taflu oherwydd dod i ben au’u hailgyfeirio at ddefnydd addysgol.

Mae’r eitemau yma yn cael ei ail-bwrpasu’n ddiogel ar gyfer myfyrwyr ar y radd BSc Ymarfer yr Adran Lawdriniaeth, gan roi iddynt brofiad ymarferol dilys o ddefnyddio offer byd go iawn sy’n union yr un fath â’r hyn y maent yn dod a rei draws mewn lleoliadau clinigol.

“Mae’r fenter hon yn fuddiol i bawb”, meddai Ashley Davies, Darlithydd mewn Ymarfer Adran Lawdriniaeth. “Rydyn ni’n lleihau gwastraff, yn gwella ansawdd ein hyfforddiant, ac yn gwneud cyfraniad pendant at dargedau cenedlaethol cynaliadwyedd cenedlaethol.

“Rwyf yn edrych i ehangu’r prosiect i ofal critigol, obstetreg, damweiniau, ac achosion brys, a wardiau, a allai wedyn gyflenwi’r holl gyrsiau gofal iechyd PDC.”

Hyd yn hyn, mae dros 95% o’r eitemau hen a nodwyd i’w gwaredu gan CTMUHB wedi’u hintegreiddio’n llwyddiannus i restr addysgu’r brifysgol. Roedd hyn nid yn unig yn arbed £20,297 mewn costau offer i PDC ond hefyd yn torri costau rheoli gwastraff CTMUHB o tua £4000.

Mae’r manteision amgylcheddol yr un mor sylweddol. Trwy leihau dibyniaeth ar losgi ynni-ddwys a lleihau trafnidiaeth trwy ymweliadau lleoliad myfyrwyr, mae’r prosiect wedi helpu’r ddau sefydliad i fynd i’r afael ag allyriadau Cwmpas 3, yn aml yn gyfrannwr mwyaf anwybyddes ond sylweddol at ôl troed carbon.

Er bod gwerthusiad ffurfiol yn parhau, mae adborth myfyrwyr wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae llawer wedi canmol realaeth well eu hyfforddiant, sy’n eu paratoi’n well ar gyfer ymarfer ac yn adeiladu hyder.

Dywedodd Craig Holley, Arweinydd Clinigol - Anaestheteg (ODPs/Nyrsys) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; “Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y byd academaidd a darparwyr gofal iechyd yn gweithio gyda’i gilydd gyda gweledigaeth a rennir o gynaliadwyedd ac addysg. Mae’n cryfhau ein perthynas â PDC wrth gefnogi ein staff a gweithlu’r dyfodol i fod yn barod i ddarparu’r gofal gorau i gleifion.”

Yn cyd-fynd â strategaeth ehangach PDC 2030, mae’r prosiect ar fin ehangu. Mae’n sefyll fel model ar gyfer sefydliadau eraill sy’n ceisio integreiddio egwyddorion economi gylchol mewn addysg uwch a phartneriaethau gwasanaeth cyhoeddus.