Sut mae deuawd deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid cymorth i oroeswyr trais domestig
15 Mai, 2025
Mae dwy system deallusrwydd artiffisial a ddatblygwyd yn Ne Cymru yn gweithio ar y cyd i gefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan drawma: mae un yn offeryn hyfforddi arbenigol sydd wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr proffesiynol i lywio sgyrsiau sensitif ynghylch trais a chamdriniaeth, tra bod y llall yn cynnig cymorth iechyd meddwl cynnil i bobl mewn rhanbarthau lle mae siarad yn agored yn parhau i fod yn her.
Mae ANA – system deallusrwydd artiffisial a ddatblygwyd gan Brifysgol De Cymru (PDC) i gynorthwyo gyda phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl sy'n byw mewn rhanbarthau'r byd lle mae trafod pynciau o'r fath yn parhau i fod yn dabŵ – ac mae AVA – system deallusrwydd artiffisial arall a ddatblygwyd gan Goggleminds o Gaerdydd, yn cydweithio ar y fenter cymorth trais a chamdriniaeth.
Mewn prosiect dan arweiniad Dr Mabrouka Abuhmida, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg a Gwyddorau Mathemategol yn PDC, datblygwyd ANA i gefnogi heriau iechyd meddwl pobl sy'n byw mewn cymunedau lle mae trafod materion o'r fath yn cael ei wrthwynebu.
"Mae yna lefydd yn y byd lle nad yw pobl, yn enwedig dynion, yn gallu trafod eu hiechyd meddwl – mae codi’r mater, neu hyd yn oed yn waeth siarad amdano ymhellach, yn cael ei ystyried yn dabŵ," meddai Dr Abuhmida.
"Fe wnaethon ni ddatblygu ANA i fod yn glust astud yn y cymdeithasau patriarchaidd hyn, ac i gynnig cyfle i'r rhai oedd ei angen godi materion a siarad amdanynt heb ofni cael eu barnu'n llym."
Cafodd AVA ei ddatblygu gan Goggleminds mewn ymateb i alwad gan Swyddfa Weithredol Gogledd Iwerddon a'i Bwrdd Buddsoddi Strategol, a oedd yn chwilio am atebion arloesol a allai harneisio technoleg i fynd i'r afael â phla trais yn erbyn menywod a merched. Dyfarnwyd y contract i Goggleminds i greu system sydd wedi'i chynllunio i gefnogi hyfforddiant proffesiynol yn y maes hanfodol hwn.
Esboniodd Azize Naji, a sefydlodd Goggleminds, sut mae'r system deallusrwydd artiffisial wedi'i datblygu i gefnogi'r rhai sydd yn y rheng flaen wrth ryngweithio â menywod a merched sy'n oroeswyr trais a chamdriniaeth.
"Mae AVA wedi'i gynllunio'n benodol i efelychu rhyngweithiadau’r byd go iawn, gan helpu gweithwyr proffesiynol i fireinio eu sgiliau sgwrsio mewn senarios lle mae yna lawer yn y fantol," meddai.
"Yn draddodiadol, mae hyfforddiant yn y maes hwn wedi dibynnu ar oroeswyr yn rhannu eu profiadau, sy'n peri pryderon moesegol ynghylch ail-drawma, tra bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, swyddogion gorfodi'r gyfraith, addysgwyr, a chynrychiolwyr y system farnwrol yn aml wedi cael trafferth ymdrin â thrafodaethau mor sensitif.
"Mae AVA yn darparu dewis arall cyfrifol y gellir ei ehangu, gan alluogi gweithwyr proffesiynol i fireinio eu sgiliau heb roi goroeswyr trwy drallod dro ar ôl tro."
Ar ôl canolbwyntio i ddechrau ar ddefnyddio realiti rhithwir i hyfforddi gweithwyr proffesiynol meddygol, ers hynny mae Goggleminds wedi ehangu i atebion sy'n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial. Esboniodd Azize y gwahaniaethau rhwng y ddwy system.
"Yn wahanol i hyfforddiant sy'n seiliedig ar realiti rhithwir, sy'n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth weledol a chyd-destunol, mae AVA yn hollol wybyddol, gan bwysleisio gwrando gweithredol, empathi, a mecanweithiau ymateb priodol," meddai.
"Wrth iddo ddatblygu, mae AVA wedi gallu dysgu sut i ymateb yn ddeinamig, gan ddeall awgrymiadau emosiynol pob sgwrs i ddarparu atebion realistig, sy’n taro deuddeg yn emosiynol.
"Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Abuhmida yn cyd-fynd yn berffaith â'n system, ac roedd eu defnyddio gyda'i gilydd yn gwneud synnwyr llwyr, gyda deallusrwydd artiffisial PDC yn gallu darparu'r gwasanaethau cymorth, a'n system yn darparu profiad y goroeswyr, a oedd yn golygu y gallai'r ddau ddatblygu eu harbenigedd."
Y cydweithrediad deallusrwydd artiffisial hwn rhwng PDC a Goggleminds yw partneriaeth dechnoleg ddiweddaraf y pâr, a ddechreuodd pan helpodd Canolfan Rhagoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (CEMET) PDC i ddatblygu technoleg realiti rhithwir Goggleminds ar gyfer hyfforddi meddygon a myfyrwyr. Digwyddodd gydweithrediad pellach pan helpodd academyddion PDC i ddatblygu system ar gyfer Goggleminds sy'n darparu hyfforddiant sgiliau clinigol ym maes realiti rhithwir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Uganda.
Mae gan y prosiect diweddaraf hwn gysylltiadau pellach â PDC, gyda nifer o raddedigion gradd Meistr Deallusrwydd Artiffisial y Brifysgol yn cael eu cyflogi yn adran deallusrwydd artiffisial newydd Goggleminds.
Mae'r cysylltiadau cryf hyn wedi cefnogi datblygiad y system hyfforddiant trais a chamdriniaeth, ac wedi bod o gymorth mawr i Azize wrth iddo geisio ehangu’r datrysiad.
"Ar ôl gweithio'n agos gyda PDC ar nifer o brosiectau blaenorol, roeddwn i'n gwybod o lygad y ffynnon am yr arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol," meddai.
"Mae gallu dod ag ANA ac AVA at ei gilydd wedi cryfhau'r cysylltiadau hyn ymhellach, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gryfhau ein cydweithrediadau yn y dyfodol."
Ysgryfennig: Mae'r AI yn graddio o'r Brifysgol De Cymru gyda Azize Naji (yr ail ar y dde) a Dr Mabrouka Abuhmida