Dysgu gan yr arbenigwyr | Denise yn cael profiad gwerthfawr mewn gwaith rhagsefydlu canser

21 Mawrth, 2025

Denise has short, light brown hair and glasses. She stands with her arms crossed in a gym. She is wearing a black and red University of South Wales sports jacket with the University logo on the chest. Behind her are weightlifting racks, barbells, and other gym equipment.

Mae myfyrwraig o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn ennill profiad o gefnogi cleifion fel rhan o'i lleoliad mewn clinig rhagsefydlu canser arbenigol.

Mae Denise Cuer, sydd ar hyn o bryd yn astudio BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Rhagsefydlu ar gyfer cleifion â chanser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae'r lleoliad wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy iddi ar sut y gall ymarfer corff, maeth a chymorth seicolegol helpu cleifion i baratoi ar gyfer triniaethau canser mawr fel llawdriniaeth, cemotherapi, a radiotherapi. 

Wedi'i denu’n wreiddiol at y cwrs i wella ei pherfformiad nofio cystadleuol ei hun, mae taith academaidd Denise wedi mynd ar drywydd trawsnewidiol. "Dechreuais y radd i ddysgu am effeithiau ymarfer corff ar y corff, er mwyn fy helpu i nofio'n gyflymach. Fodd bynnag, wrth i fi symud yn fy mlaen drwy'r cwrs, es i'n fwy angerddol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth i helpu pobl eraill, yn enwedig oedolion hŷn a'r rhai sy'n sâl, yn dioddef gan anafiadau, neu â diffyg symudedd," dywedodd.

Mae'r Gwasanaeth Rhagsefydlu yn cael ei arwain gan Ddietegydd, Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Iaith a Lleferydd, a Ffisiotherapydd gyda chymorth Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol. Yn cynnal clinigau ledled y rhanbarth, eu nod yw gwella iechyd a lles cleifion cyn iddyn nhw gael triniaeth.

"Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi canllawiau sy’n dangos bod gan ragsefydlu ar gyfer pobl sydd â diagnosis canser lawer o fanteision. Gall wella ffitrwydd, lleihau hyd arhosiad yn yr ysbyty a chymhlethdodau, a gwella adferiad ac ansawdd bywyd," esboniodd Denise. "Fy rôl i oedd cysgodi'r tîm yn ystod asesiadau cleifion gan helpu i gynnal profion ffitrwydd fel dadansoddi cryfder gafael a'r prawf eistedd i sefyll 5x, a'r prawf cerdded chwe munud. Mae'r asesiadau hyn yn pennu lefelau ffitrwydd a chryfder claf ac yn llywio'r rhaglen ymarfer corff wedi'i theilwra ar gyfer pob claf."

Roedd Denise hefyd yn cysgodi dosbarthiadau ymarfer corff cleifion. Dywedodd: "Roedd yn braf iawn gallu estyn cymorth i gleifion â gwahanol lefelau ffitrwydd, o'r rhai oedd  angen cymorth gyda chydbwysedd i'r rhai oedd yn gallu cyflawni gweithgarwch mwy dwys."

Mae profiad Denise ar leoliad hefyd o fudd uniongyrchol i'w hymchwil ar gyfer ei thraethawd hir, y bydd yn ei gyflwyno i'r tîm rhagsefydlu. "Rwy'n ymchwilio i sut mae canlyniadau rhagsefydlu’n wahanol i gleifion â gwahanol fathau o ganser. Mae yna lawer o ymchwil ar ganser y colon a'r rhefr, er enghraifft, ond llai ar fathau eraill o ganser, felly bydd fy astudiaeth yn cyfrannu at y maes."

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Denise yn dilyn gradd Meistr i ddatblygu ei harbenigedd mewn ymarfer corff ac iechyd. "Mae'r profiad hwn wedi cynyddu fy awydd i ymchwilio ymhellach a helpu pobl i wella eu ffitrwydd a'u hiechyd, yn enwedig mewn lleoliadau clinigol. Byddwn i wrth fy modd yn parhau i weithio yn y maes rhagsefydlu yn y dyfodol."

Dywedodd Martyn Perry-Hopton, Ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Denise oedd y fyfyrwraig gwyddor chwaraeon gyntaf i ni ei chael yma erioed, ac mae wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr iddi hi a'n tîm.

"Mae rhagsefydlu yn dal i fod yn faes cymharol newydd mewn meddygaeth, ond rydyn ni eisoes yn gweld manteision sylweddol i gleifion, yn lefelau ffitrwydd gwell cyn triniaeth i amser adfer cyflymach ar ôl triniaeth. Mae cael myfyrwyr fel Denise yn cyfrannu at y gwaith yn helpu i ddatblygu'r maes hwn ymhellach ac hefyd yn tynnu sylw at y rôl hanfodol mae ymarfer corff yn ei chwarae wrth baratoi cleifion."

Dywedodd Rhian Collins, Arweinydd Canser Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth PDC, am ddarparu myfyrwyr i ni ar leoliad, ac hefyd am ganiatáu i ni ddefnyddio eu cyfleusterau i gyflawni ein gwasanaeth.

"Mae cryfhau'r partneriaethau hyn o fudd i'r bwrdd iechyd a'r Brifysgol, gan eu bod yn ein galluogi i rannu gwybodaeth, gwella deilliannau cleifion, a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

"Mae'r cydweithio’n sicrhau bod myfyrwyr yn ennill profiad yn y byd go iawn mewn lleoliad clinigol ac hefyd yn cyfrannu ymchwil werthfawr sy'n helpu i lunio dyfodol y maes rhagsefydlu. Rydyn ni’n gobeithio parhau i ddatblygu’r cysylltiadau hyn ac archwilio cyfleoedd newydd i wella gofal cleifion a chyfleoedd hyfforddi i weithwyr proffesiynol y dyfodol."

Grŵp o chwech o bobl yn sefyll ochr yn ochr mewn campfa, yn gwenu ar y camera. Maen nhw'n gwisgo gwisgoedd glas a du tebyg gyda logos arnynt. Y tu ôl iddynt mae baner las ag arni arddangos logo Gwasanaeth Rhagsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gwybodaeth am y gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg.