Yr ymgyrch dros gydraddoldeb: Mae aelodau tîm Formula Student benywaidd PDC yn rasio i chwalu rhwystrau.

7 Mawrth, 2025

Aelodau benywaidd tîm Formula Student y Brifysgol

Mae chwe myfyriwr benywaidd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn arwain y maes chwaraeon moduro wrth iddynt ymdrechu i ddod â chydraddoldeb rhywedd i’r maes.

Maent yn rhan o dîm Fformiwla Myfyrwyr y Brifysgol sydd wedi'i sefydlu gyda'r nod o gystadlu yn anterth y prosiect pan gaiff ei gynnal yn Silverstone, cartref Grand Prix Prydain, o 16-20 Gorffennaf.

Fformiwla Myfyrwyr, sy'n cael ei redeg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac a ddathlodd ei ben-blwydd yn 25 oed yn 2023, yw cystadleuaeth peirianneg addysgol fwyaf sefydledig Ewrop. Mae’n herio timau i ddylunio, adeiladu a rasio car rasio un sedd a'i gyflwyno i gwmni gweithgynhyrchu damcaniaethol.

Gyda chefnogaeth peirianwyr â phroffil uchel yn y diwydiant, nod y gystadleuaeth yw datblygu peirianwyr ifanc mentrus ac arloesol ac annog mwy o bobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg, ac mae mwy na 100 o dimau prifysgol yn cymryd rhan bob blwyddyn. Mae'r prosiect fel arfer yn rhan o brosiect lefel gradd ac mae'r diwydiant chwaraeon moduro yn ei ystyried fel y safon i raddedigion peirianneg ei fodloni, gan eu pontio o'r brifysgol i'r gweithle.

Ymhlith y tîm o 32 mae chwech o fenywod sy'n edrych i adael eu holion ar y gystadleuaeth - sef Andrea Delgado, myfyriwr BA Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi) yn y drydedd flwyddyn; Ellie Jones- Parfitt ac Ella Flower, sydd ill dau yn nhrydedd flwyddyn eu graddau BEng Peirianneg Awyrenegol; Rosie Roberts, sy'n astudio ar gyfer gradd BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig; Seren Nelson, myfyriwr Newyddiaduraeth Chwaraeon yn ei thrydedd flwyddyn; a myfyriwr BSc (Anrh) Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau, Kiera Lyons.

Mae Ellie am fod yn Beiriannydd Rasys ac mae Leena Gade, y peiriannydd rasys benywaidd cyntaf i ennill y ras 24 awr yn Le Mans, yn ysbrydoliaeth iddi. Esboniodd Ellie pam y cymerodd hi ran yn nhîm Fformiwla Myfyrwyr yn PDC.

"Rwyf bob amser wedi bod ag angerdd am chwaraeon moduro ac roedd cael y cyfle i ymuno â Fformiwla Myfyrwyr yn golygu fy mod wedi cael y gallu i ennill profiad ymarferol wrth wneud rhywbeth rwyf wrth fy modd gyda fe," meddai.

"I mi, mae menywod mewn STEM yn golygu cael y cyfle i ragori mewn diwydiannau sy'n cael eu dominyddu gan ddynion. Mae'n golygu cael y cyfleoedd i archwilio meysydd gwyddonol a bwydo chwilfrydedd.

"Mae gweld Menywod mewn STEM yn rhagori wedi fy ysbrydoli i yn fy arddegau i ddilyn gyrfa mewn peirianneg, ac mae gwybod y gallaf ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, yn golygu bod llwyddo yn y maes hwn yn golygu cymaint mwy."

Ychwanegodd Ella, sy'n anelu at ddod yn beiriannydd systemau gofod, ei bod wedi ymuno â Fformiwla Myfyrwyr oherwydd ei hangerdd dwfn am beirianneg a chwaraeon moduro, ac oherwydd ei bod eisiau profiad ymarferol mewn prosiectau yn y byd go iawn.

"Roedd yr amgylchedd tîm cydweithredol yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu sgiliau technegol a meddal hanfodol wrth groesawu heriau mewn lleoliad cystadleuol," meddai Ella. Ei hysbrydoliaeth yw Katherine Johnson - y mathemategydd NASA a oedd yn ganolbwynt i'r ffilm nodwedd Hidden Figures - am ei chyfraniad i faes archwilio'r gofod.

"I mi, mae menywod mewn STEM yn cynrychioli cryfder, ysbrydoliaeth, a chynnydd. Mae'n golygu torri rhwystrau a phrofi y gall menywod ragori mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, meysydd sydd yn aml wedi cael eu dominyddu gan ddynion.

"Mae gweld menywod yn llwyddo yn y meysydd hyn yn fy ysgogi i ddilyn fy niddordeb fy hun mewn STEM. Mae'n dangos i ferched ifanc ym mhobman eu bod yn gallu dilyn eu diddordebau, dilyn gyrfaoedd heriol, a gwneud gwahaniaeth yn y byd."

Ychwanegodd Andrea, rheolwr logisteg addawol, mai Marie Curie yw ei model rôl 'oherwydd sut y goresgynnodd rywiaeth a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr heddwch Nobel'; tra bod Kiera, sydd am ddod yn beiriannydd awyrennau neu chwaraeon moduro, yn tynnu sylw Bernie Collins, dadansoddwr strategaeth Fformiwla Un ar gyfer Sky Sports a F1TV, a Ruth Buscombe,  peiriannydd a chyflwynydd chwaraeon moduro Prydeinig ar gyfer F1 TV, fel ei hysbrydoliaeth.

Dywedodd Rosie, sydd am ddod yn dwrnai patent ar ôl graddio, mai Florence Nightingale, Marie Curie, a mathemategydd NASA Katherine Johnson, yw ei modelau rôl; tra bod Seren, sy'n anelu at gael effaith ar y byd teledu fel cyflwynydd neu ddarlledwr, yn dweud mai Gabby Logan neu'r cyflwynydd teledu llawrydd Gabriella Jukes yw ei hysbrydoliaeth.

Dywedodd Joshua Bullock, sy'n Bennaeth Tîm ar gyfer Fformiwla Myfyrwyr PDC a’n fyfyriwr Peirianneg Awyrenegol yn y bedwaredd flwyddyn, fod amrywiaeth y tîm yn gryfder a fydd, gobeithio, yn eu harwain at lwyddiant.

"Mae'n wych i ni elwa o ystod mor eang o arbenigedd a gallu nid yn unig helpu i chwalu rhwystrau i aelodau benywaidd y tîm presennol, ond y rhai a fydd, gobeithio, yn dilyn eu holion traed," meddai.

"Yn draddodiadol, mae chwaraeon moduro wedi cael ei ystyried yn weithgaredd i ddynion yn unig, ond, fel y dengys aelodau benywaidd ein tîm, mae'r farn honno'n hen ffasiwn, ac yn un sy'n anwybyddu'r rôl hanfodol y gall grŵp amrywiol ei chwarae wrth yrru tuag at lwyddiant. 

"Rydym eisoes wedi cael ein cydnabod yn allanol, gan gytuno ar bartneriaeth gyda chwmni saernïo, ac rydym yn gweithio tuag at gwblhau dyluniad siasi’r car, ac ym mis Mawrth rydym yn cynnal ein digwyddiad allgymorth STEM cyntaf.

"Ni fyddai hyn yn bosibl heb fewnbwn gan holl aelodau'r tîm, y mae eu gwybodaeth a’u profiadau gwahanol yn hanfodol ar gyfer ein hymdrechion i sicrhau fod tîm Fformiwla Myfyrwyr PDC yn llwyddo."