Lleisiau lleol yn siapio dyfodol canolfan iechyd a lles gwerth £25m yng Nghasnewydd

12 Medi, 2025

Grŵp o dri o bobl yn gwisgo laniard, yn eistedd gyda'i gilydd mewn lle anffurfiol, yn gwenu ac yn sgwrsio dros goffi.

Mae prosiect ymchwil Prifysgol De Cymru (PDC) wedi rhoi lleisiau lleol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles £25 miliwn yng Nghasnewydd, gan sicrhau bod y cyfleuster newydd yn adlewyrchu gofynion gwirioneddol y gymuned y bydd yn ei gwasanaethu.

Wedi'i chomisiynu gan Gwmni Buddiant Cymunedol 19 Hills gyda chefnogaeth cyllid o Gronfa Gweithgareddau Dinesig PDC a Chyngor Dinas Casnewydd, archwiliodd yr astudiaeth sut y gallai trigolion lleol weithredu fel ‘ymchwilwyr wedi’u gwreiddio yn y gymuned’, gan helpu i lunio gwasanaethau o ddechrau’r broses.

Dan arweiniad Dr Juping Yu a’r Athro Roiyah Saltus, recriwtiodd y prosiect aelodau'r gymuned a’u hyfforddi i redeg grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda chymdogion, gan gasglu adborth onest a manwl am ddyluniad, gwasanaethau, a’r amgylchedd arfaethedig ar gyfer y ganolfan.

Meddai Dr Yu: “Mae Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn llawer mwy na meddygfa. Mae wedi'i chynllunio fel canolfan ar gyfer iechyd, lles, cyngor, a bywyd cymunedol. Drwy hyfforddi preswylwyr i arwain sgyrsiau, fe wnaethom lwyddo i gysylltu â phobl na fyddent fel arfer yn dewis codi eu llais, a sicrhau bod eu prif flaenoriaethau’n cael eu clywed.”

Roedd awgrymiadau gan y cyfranogwyr yn cynnwys fferyllfa ar y safle, gofal mân anafiadau, clybiau ieuenctid, gofod i bobl hŷn gymdeithasu, a gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Ar draws pob grŵp, roedd galwad gref am amseroedd aros byrrach, system apwyntiadau hawdd ei defnyddio, preifatrwydd yn y dderbynfa, a rhyngweithio sy'n sensitif i ddiwylliant.

Nododd yr ymchwil hefyd fod y bobl leol am i'r ganolfan fod yn fywiog ac yn gynhwysol, gan gynnig gweithgareddau, clybiau, a digwyddiadau i bobl o bob oedran a ffydd. Yn bwysig, maen nhw wedi pwysleisio mai dim ond y cam cyntaf yw gwrando, ac mae angen gweithredu i fynd i'r afael â phryderon a chynnal ymddiriedaeth.

Meddai’r Athro Saltus: Mae'r prosiect hwn yn dangos grym ymgysylltu ystyrlon. Drwy gynnwys ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â'r gymuned yn y broses, rydyn ni wedi casglu safbwyntiau amhrisiadwy ar gyfer Canolfan 19 Hills ond rydyn ni hefyd wedi creu model y gellir ei ddefnyddio ledled Cymru i gynllunio gwasanaethau gyda'r bobl fydd yn ei defnyddio.”

Dywedodd Dr Jonny Currie, Meddyg Teulu: Mae'r buddsoddiad o £28 miliwn yng ngwasanaethau'r GIG yn nwyrain Casnewydd yn gyfle mawr i integreiddio gwasanaethau, gan wneud i'n gwasanaethau ganolbwyntio mwy ar y gymuned, ac archwilio dulliau newydd, mwy holistaidd ar gyfer iechyd. Ond, i wneud hyn yn iawn, mae angen i ni glywed lleisiau a phrofiadau trigolion rydyn ni’n eu hadnabod. Pan fyddwn ni'n ymgysylltu â nhw'n iawn, gallant drawsnewid yr hyn a wnawn er gwell. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r GIG, y cyngor, a'r gymuned ehangach i barhau ar y daith hon i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn rhai sy'n cael eu harwain fwy gan y gymuned.

Mae Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn dod â dwy feddygfa, gwasanaethau cymunedol GIG, a chefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd ynghyd dan un to. Agorodd ar ddechrau 2025.