Myfyrwyr yn meithrin profiad proffesiynol drwy raglenni mentora FAW

17 Medi, 2025

Person gyda gwallt tywyll byr, yn gwisgo hwt coch, yn edrych ar y camera gyda gwên.

Mae myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddi pêl-droed Prifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn cael profiadau ac arweiniad gwerthfawr drwy raglen fentora PAWB Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).

Nod y rhaglen, a lansiwyd fel rhan o waith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant FAW, yw cefnogi hyfforddwyr a phobl broffesiynol ym maes pêl-droed sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder, a'u rhwydweithiau yn y gêm.

Mae Julian Syiemlieh, o Shillong yn rhanbarth gogleddol India, wedi symud i Gymru y llynedd i ddechrau ei astudiaethau. Mae'n dweud bod y croeso cynnes y mae wedi ei gael wedi gwneud y newid yn haws.

"Dydw i erioed wedi teimlo fel rhywun estron yng Nghymru. Mae pobl bob amser wedi bod yn groesawgar iawn. Mae brwdfrydedd eraill i ddysgu am fy niwylliant i'n cyfateb i’m brwdfrydedd innau i ddysgu am eu diwylliant nhw,” meddai.

Ac yntau wedi'i fagu mewn ardal lle mae pêl-droed wedi'i wreiddio'n ddwfn yn y gymuned, mae angerdd Julian am y gamp wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd. Ymunodd â charfan o fyfyrwyr cyntaf PAWB FAW ddechrau eleni.

Dywedodd: Mae'n rhaglen wych sydd wedi agor fy llygaid i'r llawer o lwybrau gyrfa gwahanol ym maes pêl-droed, o hyfforddi i ddadansoddi perfformiad, y cyfryngau a thu hwnt.

Drwy gyfarfodydd ar-lein rheolaidd, mae Julian wedi bod yn gweithio'n agos gyda'i fentor penodol i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu, rhywbeth a nododd fel maes allweddol ar gyfer datblygu.

“Mae Saesneg yn drydedd iaith i mi. Mae’r acen Gymraeg a’r patrymau llafar yn newydd i mi,” mae'n egluro. Os ydych chi'n hyfforddwr pêl-droed, mae angen sgiliau cyfathrebu cryf arnoch chi. Mae fy mentor wedi fy helpu i weithio ar fy rhythm, tôn, a hyder. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi dod yn siaradwr llawer mwy hyderus.

Mae Julian eisoes wedi gallu cymhwyso'r hyn y mae wedi’i ddysgu drwy'r rhaglen yn ei rôl gydag academi bêl-droed yn India, lle mae ei syniadau a'i safbwyntiau wedi cael eu croesawu gan gydweithwyr.

Wrth fyfyrio ar werth y rhaglen, dywedodd Julian: “Mae mentora'n rhywbeth y mae pawb ei angen. Mae pob un ohonom yn meddwl y gallwn ni wneud popeth ar ein pen ein hunain, ond gyda'r bobl iawn yn ein tywys, mae'r daith yn dod yn llai llafurus ac yn fwy gwerth chweil.”

Dywedodd Ioan Paval,  Arweinydd y Cwrs Hyfforddi a Pherfformio Pêl-droed: Rydyn ni’n hynod falch o'n holl fyfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y Rhaglen Mentora PAWB. Maen nhw wedi dangos ymrwymiad go iawn i ddysgu gan eu mentoriaid ac archwilio'r llawer o lwybrau gyrfa ym maes pêl-droed. Bydd y profiadau a'r cysylltiadau proffesiynol maen nhw'n eu gwneud nawr yn fuddiol iddynt am flynyddoedd i ddod. Maen nhw eisoes yn dod â syniadau newydd yn ôl i'w hastudiaethau a'u cymunedau.”

Dywedodd Jason Webber, Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant FAW: Rydyn ni’n gwybod, yn hanesyddol, bod pobl o gefndiroedd treftadaeth Du, Asiaidd, a chymysg heb gael eu cynrychioli'n ddigonol yn y gêm. Mae'r rhaglen hon yn bwysig i helpu i rymuso pobl o'r cefndiroedd hynny, i roi hyder iddynt a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu, ac i ddangos cyfleoedd ym maes pêl-droed, boed hynny gyda’r FAW neu glybiau ledled Cymru.

Mae ymchwil yn dangos bod profiadau a chefndiroedd cymysg yn gyrru arloesedd a dealltwriaeth. Os yw pawb yn dod o'r un cefndir, byddant yn cyrraedd yr un atebion. Mae meddylfryd a chefndiroedd amrywiol yn hanfodol i ni fod yn gymdeithas fodern, flaengar ar gyfer y dyfodol.

PDC x CBDC: Llunio Dyfodol Pêl-Droe

A football match is taking place on the indoor pitch at USW Sport Park.