Prifysgol De Cymru yn ennill cyllid arloesi Llywodraeth Cymru i drawsnewid diwylliant gwasanaethau cyhoeddus
19 Medi, 2025
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cyllid Cymorth Arloesi Hyblyg SMART gan Lywodraeth Cymru i arwain rhaglen ymchwil newydd uchelgeisiol i fynd i'r afael â diwylliant ac ymddygiad yn y gweithle ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Bydd y dyfarniad yn galluogi Grŵp Ymchwil ac Arloesi Hydra PDC i ddatblygu cynllun arloesi gyda'r nod o wella'r ffordd y mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn ymateb i broblemau sefydledig fel rhywiaeth, hiliaeth ac amgylcheddau gwaith gwenwynig.
Yn ganolog i'r gwaith hwn mae'r efelychydd Hydra, system ymdrochol a gydnabyddir yn rhyngwladol a ddatblygwyd yn wreiddiol ar ôl trychineb Hillsborough ac Ymchwiliad Stephen Lawrence. Mae Hydra yn rhoi cyfranogwyr mewn senarios realistig, pwysau uchel ac yn caniatáu iddyn nhw brofi, ystyried a gwella penderfyniadau a diwylliant tîm mewn amgylchedd diogel.
Yn ddiweddar, cafodd PDC ei henwi fel y sefydliad arweiniol o ran ymchwil ac arloesi Hydra, gan weithio gyda Hydra Foundation i ddefnyddio'r system bwerus hon y tu hwnt i'r byd academaidd. Gyda fersiwn o bell a fersiwn cwmwl newydd, gall Hydra bellach ddod â thimau at ei gilydd ledled Cymru, a thu hwnt, i fynd i'r afael â heriau sefydliadol cyffredin.
Fel rhan o'r prosiect, bydd yr ymchwilwyr yn cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu cymunedol mawr ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan bobl yr effeithiwyd arnynt gan ddiwylliant gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd y lleisiau hyn yn cyfrannu at adolygiad o ddiwylliant ac ymddygiad yn y gweithle ar draws awdurdodau lleol, iechyd, addysg, gwasanaethau tân ac achub, ac adrannau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Claire Parmenter, Cyfarwyddwr Ymarfer Proffesiynol PDC, "Mae'r cyllid hwn yn bleidlais enfawr o ffydd yn ein cenhadaeth i wneud gwahaniaeth diriaethol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Trwy gyfuno dysgu ymdrochol blaenllaw gyda lleisiau cymunedol go iawn, gallwn ni helpu sefydliadau i adeiladu ymddiriedaeth, gwella lles, a chreu gweithleoedd diogelach a thecach i staff a'r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu."
"Mae gwasanaethau cyhoeddus yn cyflogi dros saith miliwn o bobl ledled y DU, gyda miloedd yng Nghymru yn unig. Ond mae gormod o bobl yn dal i wynebu ymddygiadau a diwylliannau annerbyniol yn y gweithle sy'n tanseilio lles a hyder y cyhoedd. Trwy'r prosiect arloesol hwn, bydd PDC yn helpu i lunio atebion ymarferol, gan sicrhau bod gwersi o'r gorffennol yn arwain at ddyfodol gwell i staff a chymunedau fel ei gilydd."
Canolfan Ymchwil ac Arloesi Hydra PDC