Myfyrwyr ffilm yn cipio uchafbwyntiau gŵyl Tafwyl

24 Mehefin, 2025

Gwyl Tafwyl

Mae myfyrwyr ffilm ym Mhrifysgol De Cymru wedi creu ffilm sy'n cipio uchafbwyntiau gŵyl Tafwyl eleni – dathliad blynyddol o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg.

Gweithiodd y myfyrwyr – Lilwen North, Osian Coleman a Daisy da Gama Howells – ochr yn ochr â myfyrwyr Prifysgol Bangor Emily Pierce, Sîon Dafydd a Huw Morris-Jones i greu'r ffilm, gan ganolbwyntio ar yr ŵyl ddeuddydd a gynhelir ym Mharc Bute, Caerdydd.

Mae Tafwyl yn cynnwys pum llwyfan cerddoriaeth sy'n cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid, ardal chwaraeon, pentref plant, stondinau bwyd stryd a marchnad, gan groesawu pobl o bob oed a chefndir i'r digwyddiad am ddim.

Mae eu ffilm yn cynnwys cyfweliadau ag wynebau adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, fel y gantores a'r cyfansoddwraig gwlad Bronwen Lewis, yr artist indie-electro-pop Tara Bandito, a llawer mwy, ochr yn ochr â mynychwyr rheolaidd yr ŵyl ac ymwelwyr tro cyntaf â Tafwyl.

Gwnaed y prosiect yn bosibl gan Academi Sgrin Cymru – partneriaeth rhwng PDC a Screen Alliance Wales i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent ffilm a theledu yng Nghymru – gyda chyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n helpu i ysbrydoli myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg drwy greu a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi ac astudio.

Mae Lilwen North, 19 oed, o Gaerdydd, yn ei blwyddyn gyntaf o radd BA (Ffilm) yn PDC. Dywedodd: “Dewisais y cwrs i ddysgu mwy am y sgiliau ymarferol y tu ôl i’r llenni. Apeliodd prosiect Tafwyl ataf oherwydd ei fod yn brofiad ymarferol gwych, a chymerais ran yn yr ŵyl sawl gwaith yn ystod yr ysgol gynradd. Roedd yn gyffrous gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gydag eraill, a defnyddio fy sgiliau ymarferol wrth wrando ar fandiau newydd!”

Mae Osian Coleman, 21 oed, o Ystrad Mynach, ar fin graddio o’r cwrs BA (Ffilm). Dywedodd: “Rwy’n caru gwneud ffilmiau ac eisiau bod yn wneuthurwr ffilmiau annibynnol, ac felly pan ddaeth y cyfle i weithio ar Tafwyl, fe’i cymerais gan ei bod hi’n brin fy mod i’n cael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rwy’n falch o’r ffilm rydyn ni wedi’i chreu.”

Mae Daisy Da Gama Howells, 21 oed, o Sir Benfro, yn ei hail flwyddyn o’r cwrs BA (Ffilm), ac ychwanegodd: “Rydw i wedi bod eisiau gweithio ar gynhyrchiad Cymraeg ers dechrau yn y brifysgol, ond doeddwn i ddim wedi cael y cyfle – nes i brosiect Tafwyl ddod. Roedd cael y cyfle i weithio’n gyfan gwbl yn y Gymraeg gyda’r criw yn hwyl fawr, ac yn ffordd wych o gynnal fy sgiliau iaith ar ôl yr ysgol uwchradd.

“Roeddwn i wrth fy modd yn profi’r amrywiaeth enfawr o genres cerddoriaeth Gymreig ac yn ymgolli yn niwylliant Cymru. Rwyf wedi ei chael hi mor bleserus – hyd yn oed yn rhyddhaol – siarad Cymraeg yn amlach, felly rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn.”

Tafwyl 2025

Llun o fideo Tafwyl