Wythnos Anabledd Dysgu | Prifysgolion Americanaidd a Cymreig yn uno i hyrwyddo cynhwysiant gofal iechyd

17 Mehefin, 2025

Grŵp o saith menyw yn sefyll ochr yn ochr mewn ystafell gyfarfod, i gyd yn gwisgo bathodynnau adnabod ar laniad glas. Maen nhw’n gwneud at y camera o flaen sgrin fawr a chypyrddau ffeilio.

Fel rhan o’i hymrwymiad i addysg gofal iechyd cynhwysol a byd-eang, mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ffurfio partneriaeth unigryw gyda Phrifysgol Massachusetts. Gyda’i gilydd, maent yn archwilio materion iechyd byd-eang drwy lens nyrsio, gan ganolbwyntio’n gryf ar bobl ag anableddau dysgu.

Teithiodd Yr Athrawes Gynorthwyol Melissa Desroches, o Brifysgol Massachusetts, i Brifysgol De Cymru i gyflwyno darlithoedd ac archwilio ymarfer clinigol. Wedi’i hariannu drwy raglen Taith Llywodraeth Cymru, sef cynllun sy’n cefnogi cyfnewidiadau addysgol rhyngwladol, ymwelodd y Darlithydd Uwch mewn Nyrsio Anabledd Dysgu, Dr Stacey Ress, a Massachusetts yn ddiweddarach ar gyfer addysgu a chynnwys ymarferol cyfatebol.

Aeth y cyfnewid hwn ymhell y tu hwnt i ymweliadau academaidd. Roedd y cydweithrediad yn cynnwys sefydlu ‘cymuned ymarfer’ rhwng myfyrwyr nyrsio yn y ddau sefydliad. Cafodd myfyrwyr o bob gradd nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru eu paru gyda myfyrwyr nyrsio cyffredinol trydedd flwyddyn o Brifysgol Massachusetts. Gyda’i gilydd, fe archwilion nhw sut mae materion byd-eang yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru a’r Unol Daleithiau, gan rannu eu hymchwil a’u mewnwelediadau yn ystod digwyddiad eiriolaeth ar-lein ym mis Mawrth.

“Fe aeth y digwyddiad yn dda iawn,” meddai Dr Rees. “Fe wnaeth y myfyrwyr ei fwynhau’n fawr. Cafwyd cyfranogiad gan academyddion a chlinigwyr yn y ddwy wlad, ac fe agorwyd ac fe gaewyd y digwyddiad gan Joe Powell, Cyfarwyddwr All Wales People First ac yn fyfyriwr ôl-raddedig presennol ym Mhrifysgol De Cymru, yn ogystal ag yn berson awtistig.”

Yn hollbwysig, fe wnaeth y bartneriaeth hon roi cipolwg i’r myfyrwyr ar y gwahaniaethau rhwng systemau iechyd rhyngwladol, gan atgyfnerthu’r ffaith bod y rhwystrau sy’n wynebu pobl ag anabledd dysgu yn rhai cyffredin ar draws gwledydd.

“Dydy’r myfyrwyr yn America ddim yn arbenigo mewn nyrsio anabledd dysgu fel rydyn ni’n ei wneud,” eglurodd Dr Rees. “Maen nhw’n dilyn rhaglen gyffredinol ac yn gwneud lleoliadau mewn sawl maes, gan gynnwys anabledd dysgu. Felly roedd hyn yn gyfle gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth a rhannu profiadau.”

Fe feithrinodd y prosiect gyfeillgarwch newydd a rhwydweithiau proffesiynol, gyda’r myfyrwyr yn parhau a’u sgyrsiau ar draw llwyfannau digidol. “Roedd yn adlewyrchiad gwirioneddol o ysbryd partneriaeth fyd-eang”, ychwanegodd Dr Rees. “Roedd y myfyrwyr nyrsio anabledd dysgu yn arbennig wedi’u grymuso, roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu clywed ac yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cyfoedion.”

Er o’r fenter gyflwyno heriau ymarferol, yn enwedig calendr academaidd a phartha amser gwahanol, mae llwyddiant y digwyddiad yn golygu bod Prifysgol De Cymru yn bwriadu ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf gyda chydlynu mwy manwl a chynhwysiant ehangach fyth.

Y tu hwnt i’r manteision academaidd, mae Dr Rees yn gweld rhywbeth dyfnach; newid yn y naratif, “Yn aml mae naratif negyddol ynghylch nyrsio anabledd dysgu, camddealltwriaeth am gyfleoedd swydd, neu deimlad o beidio â chael eich gwerthfawrogi. Ond dangosodd hyn iddyn nhw fod eu harbenigedd yn arwyddocaol ar raddfa fyd-eang, ac mae hynny wedi gwneud rhyfeddodau i’w hyder a’u cymhelliant.”