Cwrs BA Cwnsela yn derbyn achrediad mawreddog BACP
17 Rhagfyr, 2025
Mae’r cwrs BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn archediad llawn gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn dilyn adolygiad manwl a ganmolodd y cwrs am ei addysgu rhagorol, ei arloesedd a’i brofiad myfyrwyr blaenllaw yn y diwydiant.
Cynhaliodd aseswyr BACP werthusiad cynhwysfawr o’r rhaglen, gan archwilio deunyddiau addysgu, asesiadau, lleoliadau, adroddiadau arholwyr allanol, canlyniadau graddedigion, yn ogystal â thrafodaethau gyda myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff.
Amlygodd eu hadborth:
- Addysgu a dysgu rhagorol
- Asesu arloesol a chynhwysol
- Lleoliadau o ansawdd uchel a phartneriaethau proffesiynol cryf
- Ymrwymiad i ehangu cyfranogiad a chynhwysiant
- Profiad myfyrwyr rhagorol
- Dylunio cwricwlwm cyfoes sy’n canolbwyntio ar y diwydiant
- Arloesedd mewn ymarfer, gan gynnwys gwaith ar gynhwysiant, AI a dulliau therapiwtig cyfoes
Dywedodd Anna Fox, Arweinydd y Cwrs: “Mae hwn yn garreg filltir fawr i ni. Mae’r achrediad wedi dod gyda’r ymateb mwyaf disglair gan BACP heb unrhyw sylwadau negyddol gan y panel. Mae’n cydnabod gwaith caled anhygoel tîm y cwrs, eu harbenigedd, ac integreiddio profiad diwydiant drwy gydol y rhaglen. Mae’r cyflawniad hwn yn gadael i’r byd wybod pa mor eithriadol yw’r cwrs hwn.”
Mae’r achrediad yn golygu y bydd graddedigion yn gadael gyda chymhwyster proffesiynol cydnabyddedig sy’n caniatáu iddynt symud ymlaen yn uniongyrchol i aelodaeth gofrestredig o BACP. Mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa cryf mewn marchnad swyddi gystadleuol ac yn gwella rhaglen sydd eisoes yn adnabyddus am ganlyniadau graddedig rhagorol.
I fyfyrwyr cwnsela presennol, ar gampws Casnewydd PDC, mae’r effaith yn glir. Dywedodd fyfyrwraig blwyddyn olaf, Elizabeth Baines, y bydd yr achrediad yn drawsnewidiol ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Dywedodd: “I mi, mae graddio gydag achrediad BACP ar fy CV yn golygu popeth, mae’n caniatáu i mi gael fy mhig i mewn, ond bydd hefyd yn caniatáu i mi gael fy nghydnabod mewn dau ddiwydiant rwy’n gobeithio gweithio ynddynt. Mae gen i’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnaf i fod yn llwyddiannus.”
Mae profiad myfyriwr blwyddyn olaf arall, Nikka Claassens, ar y cwrs wedi rhagori ei disgwyliadau. Dywedodd: “Roedd y cwrs yn apelio ataf yn fawr oherwydd roeddwn yn gwybod bod yr achrediad BACP ar y gweill. Doedd y cyrsiau eraill yr edrychais arnynt ddim yn gwneud synnwyr o ran pa gymwysterau y byddwn i’n graddio â nhw.
“Gan ddod i mewn fel myfyriwr aeddfed gyda blynyddoedd ers roeddwn i mewn addysg ac yn fam brysur iawn, teimlais fy mod yn cael fy nghefnogi’n fawr. Mae popeth wedi’i strwythuro mor ofalus. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un, heb os.”