Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol: Degawd o bontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a gyrfa
19 Chwefror, 2026
Un o raddedigion cwrs gradd arloesol a lansiwyd ddegawd yn ôl fu’n sôn am sut y gwnaeth hynny ei helpu i adeiladu gyrfa lwyddiannus ym myd seiberddiogelwch.
James John – un o raddedigion cyntaf y cwrs BSc (Anrh) mewn Fforensig Digidol, y radd gyntaf a addysgwyd yn Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol Prifysgol De Cymru (PDC) – fu’n sôn am ‘frwdfrydedd’ ei staff addysgu, sut roedd y cwrs yn ‘cyd-fynd i’r dim’ â’i ddiddordebau, ac am y ‘cyfleusterau rhagorol’ yn y Brifysgol.
A’r Brifysgol eisoes wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol ym meysydd diogelwch rhwydwaith, fforensig cyfrifiadurol a dadansoddi bygythiadau, aeth PDC ati i sefydlu’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ar ei Champws yng Nghasnewydd yng ngwanwyn 2016. Gan weithio mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, rhoddodd yr Academi gyfle i fyfyrwyr weithio ar brosiectau yn y byd go iawn a osodwyd gan y partneriaid, gan edrych ar heriau newydd yn yr amgylchedd seiberddiogelwch a mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r bwlch sgiliau seiber a nodwyd yng Nghymru.
Roedd hefyd yn rhoi i’r diwydiant fynediad uniongyrchol i garfan o raddedigion a oedd wedi'u hyfforddi i'r safonau uchaf, ac a oedd â dealltwriaeth glir o fygythiadau seiber.
Ar ôl dechrau gydag 16 o israddedigion, mae'r Academi wedi tyfu i gynnwys tua 90 o fyfyrwyr bob blwyddyn ac mae dros 500 o gyn-fyfyrwyr wedi graddio o’r Academi.
Dywedodd Sharan Johnstone, Cyfarwyddwr Canolfan er Rhagoriaeth Academaidd Seiber Prifysgol De Cymru, fod y cyfuniad unigryw o ddysgu ymarferol, datblygiad proffesiynol, a chydweithrediad cryf â'r diwydiant, wedi golygu bod yr Academi wedi prysur ddod yn fodel ar gyfer addysg sy'n barod ar gyfer y dyfodol.
“Wrth wraidd llwyddiant yr Academi mae ei hymrwymiad i integreiddio diwydiant. Bob blwyddyn, mae’r myfyrwyr yn mynd i'r afael â phrosiectau ar draws meysydd allweddol seiberddiogelwch, gan ennill profiad ymarferol hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ymgymryd â lleoliadau gwaith neu interniaethau traddodiadol,” meddai.
“Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn graddio gyda phortffolio o waith o’r byd go iawn”.
“Mae’r brifysgol hefyd wedi buddsoddi mewn cyfleusterau pwrpasol, gan ddarparu labordai unigryw i fyfyrwyr yr Academi. Mae'r mannau hyn yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a phroffesiynoldeb, gan ganiatáu i'r myfyrwyr fireinio eu sgiliau a chwblhau prosiectau hanfodol, wedi'u cefnogi gan system gymorth gydweithredol, oddi mewn i’r Brifysgol a chan ein partneriaid yn y diwydiant.”
Roedd sefydlu'r Academi hefyd yn gychwyn ar gyfnod newydd o lwyddiant i PDC ym maes seiberddiogelwch, wrth i nifer o wobrau gael eu hennill yn y blynyddoedd ers hynny.
Yn 2022, enwyd Prifysgol De Cymru, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn Brifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol, sy’n rhoi cydnabyddiaeth i'r rhai sydd wedi ymrwymo i arloesedd seiber, lleihau seiberdroseddu, a diogelu dinasyddion ar-lein. Hefyd, Prifysgol De Cymru oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei henwi'n Ganolfan er Rhagoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth (GCHQ).
Dyfarnwyd hefyd i Mrs Johnstone Wobr Menyw Ragorol mewn Technoleg yng Ngwobrau WISE ledled y DU, sy'n dathlu menywod eithriadol sy'n gwneud camau rhyfeddol yn y diwydiant technoleg, ynghyd â theitl Menyw STEM y Flwyddyn.
“Mae’r anrhydeddau’n adlewyrchu gwaith caled y tîm cyfan, ac nid unigolion yn unig,” meddai Mrs Johnstone. “Pan awgrymwyd y syniad ar gyfer yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol gyntaf dros ddegawd yn ôl, ni allem fod wedi dychmygu sut y gallai’r syniad fod wedi bod mor llwyddiannus – mae wedi cael effaith sylweddol.
“Ond mae’r model partneriaeth, wedi’i ategu gan yr ymdrechion a wnawn i ddatblygu gyrfaoedd – fel ffug-gyfweliadau, gweithdai CV, a sesiynau gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, y mae llawer ohonyn nhw’n gyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru – yn chwarae rhan hanfodol wrth roi mantais i’r myfyrwyr o ran cyflogaeth yn y dyfodol.
“Ac mae wedi arwain at newid diwylliannol amlwg ymhlith myfyrwyr, sydd bellach â mwy o synnwyr o broffesiynoldeb ac ymroddiad wrth astudio.”
'Roedd gweithio ar groesffordd technoleg, diogelwch a chyfiawnder yn teimlo fel y llwybr perffaith i mi a fy niddordebau a fy nghryfderau'.
Mae James John, un o raddedigion yr Academi, yn priodoli ei benderfyniad i ymuno â PDC i ddiddordeb mewn seiberddiogelwch a ddeilliodd o raglenni teledu fel NCIS a CSI Miami.
Ac yntau bellach yn rheolwr ymateb i ddigwyddiadau seiber gyda Darparwr Gwasanaeth Diogelwch Rheoledig (MSSP), ac yn canolbwyntio'n benodol ar amddiffyn seilwaith cenedlaethol hanfodol y DU, bu’n astudio yn PDC rhwng 2013 a 2018, gan gwblhau ei radd sylfaen, ei radd israddedig, a blwyddyn ryngosod.
“Dewisais astudio Fforensig Cyfrifiadurol ar ôl cael pang o ysbrydoliaeth yn ystod fy nosbarth TG Safon Uwch. Roeddwn i wastad wedi bod wrth fy modd â thechnoleg a chyfrifiaduron ers oeddwn i’n ifanc, gan chwarae gyda chaledwedd a datrys problemau meddalwedd i ffrindiau a pherthnasau,” meddai.
“Er fy mod i’n sicr mai gyrfa yn canolbwyntio ar dechnoleg oedd fy ngalwedigaeth, doeddwn i ddim wedi dod o hyd i’r union lwybr a fyddai’n wirioneddol yn cyd-fynd â fy ffordd ddadansoddol o feddwl a fy awydd i wneud gwahaniaeth go iawn.
“Pan glywais i gyntaf am y cwrs Fforensig Cyfrifiadurol yn PDC, fe wnaeth danio fy nychymyg ar unwaith. Fel llawer, roeddwn i wedi bod yn chwilfrydig am yr ymchwiliadau fforensig dramatig a bortreadwyd mewn cyfresi fel NCIS a CSI Miami, ond roedd y posibilrwydd o gymhwyso'r egwyddorion ymchwiliol hynny i amgylcheddau digidol, datgelu tystiolaeth ddigidol, olrhain seiberdroseddwyr, ac amddiffyn systemau hanfodol, yn apelio ataf i ar lefel ddyfnach.
“Yr hyn wnaeth fy nenu’n benodol at y cwrs hwn oedd y syniad o fod yn fath o dditectif digidol - roedd gweithio ar y groesffordd rhwng technoleg, diogelwch a chyfiawnder yn teimlo fel y llwybr perffaith i fy niddordebau a fy nghryfderau i.”
Er bod cwrs PDC wedi helpu James i ddysgu hanfodion seiberddiogelwch, gwnaeth y staff a'r cyfleusterau yn PDC sicrhau ei fod yn gallu gwireddu ei uchelgeisiau o ran gyrfa.
“Gwnaeth eu brwdfrydedd, eu hangerdd a’u profiad go iawn yn y diwydiant drawsnewid cysyniadau damcaniaethol yn gymwysiadau atyniadol yn y byd go iawn,” meddai.
“Fe wnaeth dysgu gan weithwyr proffesiynol a oedd wedi cynnal ymchwiliadau fforensig ar ran asiantaethau gorfodi’r gyfraith, wedi ymgynghori ar ddigwyddiadau seiber mawr, ac wedi helpu i lunio polisïau diogelwch ar gyfer seilwaith hanfodol, roi dealltwriaeth na fyddai modd ei chael mewn gwerslyfrau. Roedd eu straeon o faes y gad a'u cyngor ymarferol yn creu amgylchedd dysgu a oedd yn mynd ymhell y tu hwnt i theori academaidd.
“Yn ail, roedd y cyfleusterau yn PDC yn wirioneddol rhagorol. Nid yn aml y mae myfyrwyr israddedig yn cael datblygu eu sgiliau mewn Canolfan Gweithrediadau Diogelwch o'r radd flaenaf neu labordy Fforensig Digidol gweithredol sy'n adlewyrchu amgylcheddau proffesiynol.
“Roedd y mannau pwrpasol hyn yn cynnig profiad dysgu ymdrochol a oedd yn efelychu pwysau a heriau senarios o ymateb i ddigwyddiadau go iawn.
“Fe wnaeth y cyfle i ennill profiad ymarferol gyda chynhyrchion a meddalwedd masnachol, trwyddedig sy’n cael eu defnyddio yn y maes roi mantais aruthrol i mi wrth gyfweld am swyddi.
“Yn hytrach na thrafod gwybodaeth ddamcaniaethol yn unig, fe allwn i fod yn hyderus wrth ddangos profiad ymarferol o ddefnyddio offer safonol y diwydiant, gan siarad iaith darpar gyflogwyr a thynnu sylw at ba mor barod oeddwn i i gyfrannu o’r diwrnod cyntaf.
Ar ôl priodoli cyfran dda o'i lwyddiant i'r cymorth a gafodd yn PDC, mae James yn dweud y dylai unrhyw un sydd am ddilyn yn ôl ei droed ystyried astudio yn y Brifysgol fel sylfaen i ddatblygu gyrfa lwyddiannus.
“Fe fyddwn yn sicr yn argymell astudio yn PDC i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymateb i ddigwyddiadau seiber. Mae'r maes yn parhau i ddod yn fwyfwy pwysig wrth i'n seilwaith digidol wynebu bygythiadau cynyddol soffistigedig,” meddai.
“Wedi dweud hynny, mae angen mwy na gwybodaeth dechnegol yn unig i lwyddo ar y llwybr gyrfa yma. Mae angen i chi ddatblygu meddwl dadansoddol cryf, y gallu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig wrth egluro cysyniadau technegol cymhleth i randdeiliaid annhechnegol yn ystod digwyddiadau critigol.
“Byddwch yn barod i ddysgu’n barhaus y tu hwnt i’r brifysgol, wrth i faes bygythiadau a thechnolegau amddiffynnol esblygu’n gyflym. Gall dilyn cymwysterau proffesiynol ochr yn ochr â'ch gradd hefyd gryfhau eich rhagolygon.”