Papur gwyn newydd yn rhybuddio bod bioleg ddynol yn ffactor allai gyfyngu ar archwilio'r gofod dwfn

12 Chwefror, 2026

Golwg o’r blaen ar ofodwr mewn siwt ofod wen yn erbyn cefndir llwyd golau plaen. Mae fisor yr helmed yn ddu ac yn adlewyrchol.

Ar ôl degawd o gydweithredu rhyngwladol, mae gwyddonwyr o bob cwr o'r byd yn galw am ailystyried iechyd gofodwyr yn sylfaenol ar drothwy teithiau i'r Lleuad a'r blaned Mawrth.

Damian Bailey, Cymrawd Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol ac Athro Ffisioleg a Biocemeg Prifysgol De Cymru, yw prif awdur papur gwyn rhyngwladol newydd a phwysig  sy'n cynnwys rhybudd clir.

Wrth i asiantaethau gofod gynllunio ar gyfer presenoldeb dynol parhaus ar y Lleuad a theithiau i'r blaned Mawrth yn y pen draw, mae'r papur yn dadlau efallai nad peirianneg neu roboteg yw'r rhwystr mwyaf, ond terfynau bioleg y ddynol ryw.

Wedi'i gyhoeddi yn 'Nature Microgravity' gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), mae'r papur yn dwyn ynghyd arbenigedd gan fwy na 300 o wyddonwyr o 22 o aelod-wladwriaeth ESA. Mae’r neges yn glir: nid yw’r ffyrdd presennol o ofalu am iechyd gofodwyr, a gafodd eu datblygu i raddau helaeth ar gyfer teithiau byr yn orbit isel y Ddaear, yn ddigonol ar gyfer realiti archwilio'r gofod dwfn.

Ers degawdau, mae meddygaeth sy’n ymwneud â’r gofod wedi bod â ffocws ar broblemau fel dirywiad esgyrn a chyhyrau ac amlygiad i ymbelydredd, i gyd wedi’u cyfyngu i’w gwahanol feysydd. Mae'r awduron yn dadlau nad yw'r dull hwn bellach yn addas at y diben.

Yn hytrach, mae'r awduron yn cyflwyno dau gysyniad i ddod â’r materion iechyd hyn at ei gilydd:

  • amlygawd y gofod – cyfuniad o bob straen amgylcheddol mae gofodwyr yn eu hwynebu, gan gynnwys microddisgyrchiant, ymbelydredd, caethiwed, tarfu ar gylchoedd cysgu-deffro a phellter eithafol o'r Ddaear
  • interawd y gofod – ymateb integredig y corff cyfan i'r straen hyn i gyd, yn cynnwys organau, metaboledd, imiwnedd, yr ymennydd ac ymddygiad.

 

"Nid yw'r gwahanol fathau hyn o straen yn gweithredu ar wahân i’w gilydd," eglura'r Athro Bailey. "Maen nhw’n rhyngweithio mewn ffyrdd cymhleth, anllinellol na allwn eu rhagweld yn llawn eto, ond mae'n rhaid i ni ddysgu ar frys sut i’w rheoli.

Mae'r papur yn nodi dros 30 o risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â phresenoldeb hirdymor yn y gofod, nifer ohonynt eisoes wedi'u dynodi gan NASA yn 'risgiau lefel coch', sy’n annerbyniol heb liniaru ar waith.

Ymhlith y mwyaf difrifol mae:

  • risg uwch o ganser gydol oes oherwydd ymbelydredd y gofod dwfn,
  • newidiadau i’r golwg a’r ymennydd yn gysylltiedig â hylifau’n symud o waelod y corff tua phen uchaf y corff oherwydd microddisgyrchiant,
  • dirywiad esgyrn a chrebachiad cyhyrol,
  • datgyflyru cardiofasgwlaidd, cerrig ar yr arennau, a chamweithrediad imiwnedd,
  • straen seicolegol wedi'i yrru gan ynysu hir ac oedi werth gyfathrebu â'r Ddaear.

 

Ar deithiau sy'n para hyd at dair blynedd, fel taith i'r blaned Mawrth ac yn ôl, gall y risgiau hyn waethygu mewn ffyrdd nad oes yr un bod dynol erioed wedi'u profi.

Mae dyfeisiau ymarfer corff, strategaethau maeth a meddyginiaethau wedi bod yn effeithiol ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Ond mae'r papur yn rhybuddio y gallai llawer o’r rhain fod yn anymarferol, yn annigonol ac yn anghynaliadwy ar gyfer teithiau archwilio’r gofod dwfn yn y dyfodol.

Mae'r awduron felly yn galw am symud at weithredu gwrthfesurau manwl, wedi'u teilwra at fioleg unigryw pob gofodwr. Mae datblygiadau mewn ffisioleg ac iechyd digidol bellach yn ei gwneud hi'n bosibl monitro ymatebion unigol dros amser ac addasu ymyriadau.

Y nod, maen nhw'n dadlau, yw cadw pob gofodwr mewn 'man aur/Goldilocks' ffisiolegol personol - dim gormod o straen, dim rhy ychydig - ond digon i gadw gwytnwch a swyddogaeth.

Mae’r papur yn cynnwys ambell syniad dadleuol. Yn eu plith mae’r syniad o roi’r corff mewn cyflwr o gysgadrwydd, cyflwr tebyg i aeafgysgu, a allai leihau gofynion metabolig, difrod ymbelydrol defnydd adnoddau yn fawr yn ystod teithiau hirdymor.

Mae dulliau o'r fath, fodd bynnag, yn codi cwestiynau moesegol a rheoli mawr. Faint o risg sy'n dderbyniol? Pwy sy'n penderfynu? A sut y dylid hysbysu gofodwyr pan fydd teithiau’n gwthio y tu hwnt i safonau iechyd galwedigaethol confensiynol?

Mae'r awduron yn pwysleisio bod yn rhaid i bawb gytuno ar y risg sy’n dderbyniol, a rhannu’r cyfrifoldeb, yn ofodwyr, yn asiantaethau gofod, yn llunwyr polisïau, a’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Er mai ar y gofod mae ffocws y papur gwyn, mae hefyd yn trafod manteision sylweddol a fyddai i ofal iechyd ar y Ddaear. Gallai technolegau sydd â’r nod o fonitro a diogelu gofodwyr drawsnewid gofal ar gyfer poblogaethau sy'n heneiddio, cleifion â chlefydau cronig a phobl mewn mannau diarffordd neu lle mai cyfyng yw’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.

Yn y bôn, mae'r papur yn galw am gydweithredu rhyngwladol dyfnach, am rannu data’n  agored ac am fuddsoddi parhaus mewn ymchwil ddynol integreiddiol. Wrth i’r ddynol ryw ymbaratoi i fentro ymhellach o'r Ddaear nag erioed o'r blaen, mae'r awduron yn dod i'r casgliad y gall deall terfynau a photensial y corff dynol fod yn dyngedfennol.

 

Mae cyfnod yr Athro Bailey fel Cadeirydd y Gweithgor Gwyddorau Bywyd ar fin dod i ben, ac mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Gwyddor Teithio ac Archwilio Gofod yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Mae'n aelod o Banel Bioleg yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd-Archwilio Dynol a Robotaidd a Phwyllgorau Ymgynghorol Archwilio'r Gofod Asiantaethau Gofod Cenedlaethol y DU a Sweden.