Sut mae rhaglen Noddfa yn helpu Milad i gyflawni ei uchelgeisiau academaidd

2 Chwefror, 2026

Milad y graddedig yn sefyll yn ei gap a'i gŵn

Mae myfyriwr a wynebodd heriau cythrwfl gwleidyddol mawr yn ogystal â'r pandemig nawr yn dathlu ennill ei radd Meistr o Brifysgol De Cymru (PDC).

Ac ymrwymiad PDC i gefnogi myfyrwyr tramor sydd wedi wynebu treialon personol mawr, drwy raglen Prifysgol Noddfa, sydd wedi golygu bod Milad Mirzaee o Affganistan wedi gallu gwireddu ei freuddwyd academaidd.

Ac yntau wedi'i eni a'i fagu yn Affganistan, mae llawer o ddewisiadau bywyd Milad wedi’u siapio gan ei angerdd at beirianneg.

“Roedd gen i ddiddordeb yn y mecanweithiau y tu ôl i bopeth - cemeg, ffiseg, sut mae dyfeisiau'n gweithio, a sut i'w gwneud nhw’n ddiogel,” meddai.

Dechreuodd Milad ar ei daith academaidd ym Mhrifysgol Kabul, gan astudio Peirianneg Fecanyddol, ond gwnaeth yr hyn a ddylai fod wedi bod yn gwrs pedair blynedd ymestyn i fod yn gwrs chwe blynedd oherwydd heriau lleol a rhyngwladol.

“Rhaglen bedair blynedd oedd hi i fod, ond cymerodd chwe blynedd oherwydd COVID-19 a chwymp y llywodraeth,” meddai.

Ac yntau’n benderfynol o barhau â'i addysg, symudodd Milad o Affganistan i Brydain ym mis Hydref 2023.

“Fel ceisiwr lloches roeddwn yn ffodus i dderbyn Ysgoloriaeth Noddfa gan PDC,” meddai. Rhoddodd yr ysgoloriaeth hon gyfle iddo ddechrau ar ei gwrs Meistr ym mis Medi 2024.”

Drwy'r Ysgoloriaeth Noddfa, rhoddodd PDC gymorth ymarferol ac ariannol a alluogodd Milad i ganolbwyntio ar ei astudiaethau ac ymgartrefu ym mywyd yn y brifysgol.

Ar ôl graddio gyda rhagoriaeth, mae Milad bellach yn gobeithio gwneud PhD ac mae'n edrych ymlaen at yrfa mewn peirianneg, gyda'r nod o ddefnyddio ei sgiliau i ddatrys problemau'r byd go iawn a chyfrannu'n gadarnhaol at ddiwydiant yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd fod ymgartrefu yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol: “Mae'r bobl yn gyfeillgar, ac mae'r tywydd yn addas i mi. Dydw i ddim yn hoffi tywydd poeth, felly mae hyn yn berffaith.”

Addasodd yn gyflym i fywyd ar y campws gan ganolbwyntio ar ei astudiaethau.

“Fy mwriad yw gweithio ym maes peirianneg mewn diwydiant - unrhyw faes cyn belled â'i fod yn berthnasol i beirianneg fecanyddol. Rwy eisiau cymhwyso'r hyn rydw i wedi'i ddysgu i broblemau go iawn,” meddai.

Ei nod hirdymor yw adeiladu gyrfa yn y Deyrnas Unedig.

“Mae addysg wedi rhoi ffordd i mi sianelu fy niddordeb yn y ffordd mae pethau'n gweithio i rywbeth cadarnhaol. Nawr rwy eisiau defnyddio'r sgiliau hynny i gyfrannu - yn ddiogel, yn adeiladol - mewn diwydiant,” meddai.

Dywedodd yr Athro Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn Brifysgol Noddfa ac o fod wedi chwarae rhan gadarnhaol yng nghyflawniad academaidd Milad, a phob ysgolor noddfa arall.

“Mae addysg yn rhoi gobaith i bobl sy'n dianc rhag rhyfel neu erledigaeth ac yn ceisio adeiladu bywydau newydd mewn gwlad newydd. Mae addysg yn galluogi pobl i ddefnyddio'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw, i wireddu eu potensial academaidd a thrwy hynny allu gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymdeithasau newydd.

“Mae helpu pobl sy'n ceisio noddfa i barhau â'u haddysg o fudd i ni i gyd - a dymunaf bob llwyddiant i Milad yn ei ddyfodol fel peiriannydd yng Nghymru.”

Mae PDC wedi ymrwymo i greu diwylliant o groeso i bobl sy'n ceisio lloches. Trwy fentrau fel Ysgoloriaeth Noddfa, mae PDC yn helpu i sicrhau bod addysg yn parhau i fod yn llwybr at obaith a chyfle, gan gefnogi uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa i bawb sy'n dewis ei gwneud yn gartref iddyn nhw.