Wythnos Prentisiaethau | O ddiffyg hyder i radd anrhydedd dosbarth cyntaf
9 Chwefror, 2026
Graddiodd Beverley Beck gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol De Cymru yn ddiweddar, gyda BSc mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Cwblhaodd y radd ar yr un pryd â chyflawni ei rôl lawn amser fel swyddog heddlu trwy lwybr prentisiaeth gyda Heddlu Dorset.
Roedd graddio yn fwy na diwedd gradd. Roedd yn benllanw taith y dechreuodd Beverley gyda diffyg hyder ynddi ei hun, ond a drodd yn ddyfalbarhad, ac yn ymrwymiad llwyr i ddilyn gyrfa yr oedd hi wedi bod yn ei hystyried ers amser maith.
Cyn ymuno â'r heddlu, bu Beverley yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau gweinyddol yn y Gwasanaeth Sifil. Ar ôl pori gwefan recriwtio, daeth y penderfyniad i ddechrau newid gyrfa, er y bu’n rhaid goresgyn ambell rwystr i wneud hynny.
"Fe ges i brofiadau cadarnhaol o rwydweithio gyda’r heddlu pan oeddwn i’n blentyn. Roedd hi’n amlwg i fi erioed eu bod yn gwneud gwahaniaeth ac roedd yn yrfa oedd yn apelio ataf. Ond aeth bywyd yn ei flaen a doedd hi byth yn teimlo fel yr adeg iawn i wneud cais," dywedodd.
Roedd Beverley yn 46 oed pan ymunodd â'r brentisiaeth gradd, a dechrau astudio tra'n gweithio'n llawn amser gyda’r Heddlu.
"Roedd trefnu popeth yn gallu bod yn straen. Mae bod yn swyddog heddlu yn swydd anodd. Rydych chi'n cael diwrnodau wedi’u neilltuo i astudio ond weithiau roedd gofynion y swydd yn golygu bod yn rhaid gweithio, felly roedd rheoli amser a dyfalbarhad yn allweddol," meddai.
"Hefyd, roeddwn i wedi bod allan o addysg amser llawn ers amser maith. Yn hirach nag y mae rhai o fy nghydweithwyr wedi byw. Roeddwn i’n dweud wrtha i fy hun drwy’r amser y byddai pasio’n ddigon. Ond doedd hynny ddim yn wir mewn gwirionedd – roeddwn i eisiau gradd dosbarth cyntaf. Doeddwn i ddim yn meddwl ar y dechrau y byddai modd i fi gyflawni hynny, ond dyna wnes i yn y pendraw!"
"Doedd hi ddim yn siwrnai hawdd," ychwanegodd. "Mae wedi bod yn waith caled."
Ond rhoddodd y brentisiaeth rywbeth i Beverley nad oedd hi'n ei ddisgwyl - hyder yn ei gallu ei hun. "Mae'n rhywbeth fydd gyda chi am byth," dywedodd. "Rwy'n hynod falch fy mod wedi cwblhau gradd a chyflawni swydd heriol ar yr un pryd. All neb fynd â hynny oddi wrthoch chi."
Mae gwaith academaidd Beverley eisoes wedi cael effaith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Ffocws ei thraethawd hir blwyddyn olaf oedd y menopos, cyfraddau cadw staff ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn plismona. Roedd yn archwilio sut mae diffyg cefnogaeth sefydliadau yn effeithio ar fenywod sy'n gweithio mewn proffesiwn sydd wedi ei ddominyddu gan ddynion yn hanesyddol. Ers hynny, mae'r ymchwil wedi sbarduno sgyrsiau ehangach, ac wedi arwain at ymchwil bellach o fewn Heddlu Dorset, y mae lluoedd eraill wedi dangos diddordeb ynddi.
Dywedodd Beverley: "Dechreuodd y cyfan fel prosiect academaidd ond mae wedi troi'n rhywbeth a allai wir wneud gwahaniaeth."
I Beverley, mae’r ymdeimlad hwnnw o wneud gwahaniaeth yn un o hanfodion plismona. "Rydych chi'n gweld pobl ar eu gorau ac ar eu gwaethaf, a thrwy’r cyfan, rydych chi'n gwneud gwahaniaeth. Mae hynny'n bwysig," dywedodd.
Gyda’r Wythnos Prentisiaethau yn tynnu sylw at y llwybrau niferus y mae modd eu dilyn i addysg uwch a gyrfaoedd proffesiynol, mae stori Beverley yn ein hatgoffa nad ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn unig y mae prentisiaethau, ac nad yw byth yn rhy hwyr i’ch herio eich hun, newid cyfeiriad, a llwyddo.
"Fe wnes i hyn ar adeg yn fy mywyd pan nad oeddwn i'n gwbl hyderus y gallwn i lwyddo," dywed. "Ac rwy'n hynod falch fy mod wedi gwneud."