Datganiad mewn ymateb i stori newyddion Newyddion

28 Ebrill, 2026

Y tu allan i adeilad Tŷ Crawshay ar Gampws Trefforest ym Mhontypridd

Mae'n flin gennym fod unigolion yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu trin yn deg. Rydyn ni’n condemnio pob math o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Mae honiadau'n cael eu trin o ddifri ac rydyn ni’n sicrhau ymchwilio'n drylwyr iddyn nhw, gan gynnwys gan ymchwilwyr allanol annibynnol pan fo'n briodol. Yn ogystal â hyn, rydyn ni’n darparu cefnogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt ac yn rhoi camau pendant ar waith, i sicrhau amgylchedd gwaith diogel a pharchus.

Dydyn ni ddim yn cytuno â'r honiadau ond allwn ni ddim cynnig sylwadau ar fanylion y ddau gyn-aelod o staff y siaradodd S4C â nhw oherwydd y camau cyfreithiol sy’n mynd rhagddynt. 

Fel gyda’r sector Addysg Uwch cyfan, mae amrywiaeth o heriau sylweddol yn ein hwynebu ar hyn o bryd. Mewn ymateb i hyn, rydyn ni wrthi’n weithredol yn ail-lunio ein darpariaeth addysgol ac yn addasu ein dulliau cyflwyno i fodloni gofynion diwydiant, yr economi a’r gymdeithas yn well. Mae'r broses hon o addasu ac esblygu wedi golygu ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Rydyn ni wedi gwneud popeth posibl i gyfyngu ar yr effaith ar gydweithwyr. Fodd bynnag, fe fu diswyddiadau gwirfoddol a gorfodol, yn anffodus, ac mae'n ddrwg gennym am hyn.

Ein blaenoriaeth bob amser yw sicrhau tegwch a thryloywder. Rydyn ni wedi cynnal trafodaethau adeiladol gyda'n undebau llafur cydnabyddedig ar bob cam, gyda'r nod o liniaru'r effaith ar gydweithwyr. Rydyn ni hefyd wedi siarad yn agored ac yn onest â chydweithwyr am raddfa'r newid sydd ei angen a'r dull rydyn ni'n ei roi ar waith ar gyfer hyn. Rydyn ni’n ymrwymedig at wrando, er mwyn i ni allu gwella ein prosesau a deall pa gefnogaeth bellach y gallwn ei chynnig.

Rydyn ni’n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'n cenhadaeth wreiddiol ers ein sefydlu, o fod yn sefydliad sydd â ffocws ar alwedigaethau, ar gynnal y safonau academaidd uchaf, ar ddarparu'r profiad a'r cyfleoedd gorau posibl i fyfyrwyr a staff, ac ar feithrin amgylchedd cynhwysol i bawb.

Mae sefydliad cymhleth sy'n cyflogi dros 2,000 o bobl yn gofyn yn golygu bod yn rhaid cael rheolaeth ragweithiol a chynhwysol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cyflwyno Strategaeth Pobl newydd,  rhaglenni hyfforddi ar gyfer arwain a pholisïau fel y Polisi  Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad cryf i feithrin amgylcheddau gweithio, dysgu ac addysgu diogel, cynhwysol a chefnogol i'n cymuned gyfan. Ar y cyd â’r Undebau Llafur, mae'r Brifysgol yn parhau i fonitro ein hamgylchedd gwaith ar gyfer cydweithwyr, sy’n cynnwys dulliau rheoli straen, i sbarduno gwelliannau parhaus i lesiant  gweithwyr. Mae wastad fwy i'w wneud, ac rydyn ni’n ymrwymedig at wneud y gwaith hwnnw. 

Yn 2023, fe wnaethon ni gyflwyno system Adrodd a Chymorth i alluogi staff a myfyrwyr i gyflwyno unrhyw bryderon am fwlio, aflonyddu neu wahaniaethu, gan ddefnyddio eu henwau neu’n ddienw, ynghyd â phrosesau a strwythurau i ymateb i bryderon. Rydyn ni’n annog pawb sy'n dioddef unrhyw fath o fwlio ac aflonyddu i roi gwybod amdano er mwyn i ni allu eu cefnogi, mynd i'r afael ag unrhyw faterion a roi camau priodol ar waith. Ochr yn ochr â hyn, mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr, o dan ofal darparwr allanol, yn cynnig mynediad i gydweithwyr at adnoddau cyfrinachol a diduedd i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Cafodd ein dyfarniad efydd Athena SWAN ei adnewyddu y llynedd, gan gadarnhau ein hymrwymiad parhaus at hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol. Fe wnaethon ni hefyd sicrhau dyfarniad efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE y llynedd – sydd â’r nod o helpu prifysgolion yn eu gwaith i wella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig mewn addysg uwch.

Mae ein huwch dîm arwain hefyd wedi esblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, i  adlewyrchu cyfeiriad ac ymrwymiad o'r newydd i'n gwerthoedd. Gydag Is-Ganghellor newydd yn ymuno yn ystod y dyddiau nesaf, mae ffocws ein harweinwyr yn gadarn ar ddarparu'r safonau uchaf a'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr a chydweithwyr.

Mae llawer o waith cadarnhaol yn parhau i gael ei wneud, ac mae sgoriau o'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddar yn dangos gwelliant i'r Brifysgol o ran boddhad a phositifrwydd cyffredinol myfyrwyr. Roedd y Brifysgol hefyd yn safle 43 (o blith 123 o brifysgolion) yn y Guardian University Guide diwethaf – ein safle uchaf erioed. Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr a chynrychiolwyr myfyrwyr i wrando ar adborth a gweithredu arno a sicrhau bod myfyrwyr wrth galon ein penderfyniadau.

Fel prif brifysgol ehangu mynediad Cymru, rydyn ni’n hynod falch o'r cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig a'r effaith gadarnhaol mae'r Brifysgol yn ei chael yn gymdeithasol ac yn economaidd yn ein rhanbarth.