Myfyrwyr ffasiwn yn helpu i ysbrydoli ffotograffwyr ifanc sy'n dod i'r amlwg

20 Ebrill, 2026

Y Galeri Luniau

Mae myfyrwyr ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi ymddangos mewn rhaglen S4C sy'n gweld ffotograffydd ifanc sy'n dod i'r amlwg yn brwydro i ddod yn enw mawr nesaf yn y diwydiant.

Mae Y Galeri Luniau yn sioe iaith Gymraeg sy'n dilyn pobl ifanc talentog wrth iddynt deithio o amgylch Cymru i ymgymryd â heriau amrywiol a osodwyd gan y cyflwynydd Leah Gaffey, yng nghwmni ffotograffwyr proffesiynol.

Aeth pennod 2 â phedwar cystadleuydd – Casi, Charlie, Dan a Gracie – i gampws Caerdydd PDC ar gyfer yr her ffotograffiaeth ffasiwn, lle cawsant gyfarfod â'r ffotograffydd Betsan Evans, a myfyrwyr Hyrwyddo Ffasiwn Kitty Williams, Anna Naish, Vittorio Olivari, a McCalldin Lambert.

Ar ôl dosbarth meistr gan Betsan ar gysylltu â phobl a'u cyfarwyddo i ddal eu onglau gorau, aeth y cystadleuwyr i weithio yn y stiwdio ffotograffiaeth Ffasiwn, lle modelodd y myfyrwyr wisgoedd ail-law fel rhan o bartneriaeth PDC ag Oxfam Cymru.

Yn dilyn sesiwn tynnu lluniau cyflym 10 munud gyda phob un o'r ffotograffwyr, helpodd Anna a Vittorio i ddewis y ddelwedd fuddugol – a dynnwyd gan Casi – a fydd yn cael ei harddangos mewn ffenestri siopau Oxfam ledled Cymru, gan annog pobl i brynu dillad ail-law yn hytrach na chyfrannu at effaith amgylcheddol gynyddol ffasiwn cyflym.

Mae Anna Naish, 18 oed, o Gaerdydd, yn fyfyrwraig Hyrwyddo Ffasiwn yn ei blwyddyn gyntaf yn PDC a chafodd ei chyfweld ar y rhaglen. Dywedodd: “Roedd fy mhrofiad ar Y Galeri Luniau yn anhygoel. Cefais gymaint o hwyl yn modelu ac yn helpu i feirniadu'r delweddau terfynol.

“Roedd hefyd yn gyffrous gallu defnyddio'r iaith Gymraeg i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr a phobl greadigol yn y diwydiant ffasiwn, gobeithio, wrth helpu'r iaith i ffynnu. Roedd yn bwysig i ni ddangos ein cyfleusterau gwych i'r bobl ifanc – fe wnaethon nhw fwynhau defnyddio'r offer proffesiynol yn fawr a gobeithio y gallen nhw gymryd y wybodaeth honno i'w prosiectau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Elin Jones, Cynhyrchydd Cyfres yn Boom Cymru, gwneuthurwyr Y Galeri Luniau: “Mae rhoi cyfleoedd i bobl ifanc fod yn greadigol yn bwysig iawn, trwy greu lle diogel iddyn nhw arbrofi. Mae ganddyn nhw gymaint o awydd i roi cynnig ar ddysgu pethau newydd, ac felly roedd y cyfle i ddod i'r Brifysgol a chydweithio â myfyrwyr mewn stiwdio broffesiynol yn agoriad llygad go iawn. Gobeithiwn y bydd yn eu sbarduno i barhau mewn meysydd creadigol yn y dyfodol.

“Mae'r cyfryngau a'r diwydiannau creadigol yn ehangach yn ffynnu yng Nghymru, ac mae'r gallu i siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn adnodd arbennig o ddefnyddiol. Roedd yn hyfryd gallu cyfweld â myfyrwyr Ffasiwn PDC yn y rhaglen, gan roi llwyfan iddyn nhw drafod eu hangerdd dros y diwydiant yn y Gymraeg. Gobeithio y bydd ganddyn nhw ddylanwad cadarnhaol ar unrhyw un sy'n gobeithio defnyddio mwy o'u Cymraeg neu ddechrau eu taith o ddysgu'r Gymraeg.”

Mae pennod lawn Galeri Luniau ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer: https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0n1j2ny/y-galeri-luniau-pennod-2