PDC yn derbyn cydnabyddiaeth am gynnydd cynaliadwyedd cryf yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet
21 Ebrill, 2026
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cydnabyddiaeth am gynnydd sylweddol mewn cynaliadwyedd ac ymarfer moesegol yn y Gynghrair Prifysgolion People & Planet diweddaraf, sy'n asesu sefydliadau ledled y DU ar berfformiad amgylcheddol a moesegol.
Mae'r canlyniadau'n tynnu sylw at nifer o feysydd lle mae PDC yn perfformio'n gryf, yn enwedig ym meysydd gyrfaoedd moesegol, defnydd ynni, a lleihau defnydd dŵr, gan adlewyrchu gwaith parhaus ar draws y Brifysgol i ymgorffori cynaliadwyedd mewn gweithrediadau bob dydd.
Un o'r cyflawniadau amlwg yw Gyrfaoedd Moesegol, lle mae PDC yn gydradd ail yng Nghymru ac yn gydradd 11eg yn y DU. Mae hyn yn nodi gwelliant sylweddol, wedi'i yrru gan gyflwyno Polisi Gyrfaoedd Moesegol newydd a ddatblygwyd gan dîm Gyrfaoedd y Brifysgol. Mae'r polisi yn nodi ymrwymiadau clir i osgoi ymgysylltu â diwydiannau nad ydynt yn cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd a moesegol, gan helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gyrfa gwybodus. O ganlyniad, mae sgôr PDC yn y categori hwn wedi codi'n sylweddol o 14% i 90%.
Mae PDC hefyd wedi perfformio'n gryf ym maes Ffynonellau Ynni, gan ddod yn ail yng Nghymru ac yn gydradd 19eg yn y DU. Mae hyn yn adlewyrchu buddsoddiad parhaus mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gosod systemau solar ffotofoltaidd (PV) ar draws y campysau, gan gynyddu cyfran y trydan a gynhyrchir ar y safle a lleihau dibyniaeth ar ffynonellau ynni allanol. Ar ben hynny, mae ein cynnydd yn cael ei atgyfnerthu gan ymrwymiad deuol i fentrau effeithlonrwydd ynni a diwylliant campws gyfan o ymddygiad sy'n ofalus ynghylch yr amgylchedd ymhlith cydweithwyr a myfyrwyr.
O ran Lleihau Defnydd Dŵr, mae'r Brifysgol yn gydradd ail yng Nghymru ac yn gydradd 35ain yn y DU. Mae'r cynnydd hwn wedi'i gefnogi gan ystod o fesurau ar draws y campysau. Mae systemau casglu dŵr glaw, gan gynnwys ar Gampws y Parc Chwaraeon, yn casglu ac yn ailddefnyddio dŵr ar gyfer cyfleusterau fel fflysio toiledau, gan leihau'r galw am ddŵr o’r prif gyflenwad. Ochr yn ochr â hyn, mae gwelliannau mewn gosod is-fesuryddion awtomatig yn caniatáu i'r Brifysgol nodi ardaloedd defnydd uchel a gollyngiadau posibl yn gyflymach; tra bod cynnal a chadw parhaus, uwchraddio dŵr-effeithlon, a mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff a myfyrwyr, oll wedi cyfrannu at leihau'r defnydd cyffredinol o ddŵr.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gyda chynlluniau ar waith i fynd i'r afael â meysydd i'w gwella cyn yr asesiad nesaf yn 2026.
"Mae'n wych gweld PDC yn gwneud mor dda yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet," meddai Neil Bradley, Rheolwr Cynaliadwyedd ac Ynni PDC.
"Rydym yn ymrwymedig i arddangos y camau trawsnewidiol rydyn ni'n eu gwneud ym maes cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol. Mae sicrhau safleoedd mor uchel ar gyfer y categorïau hyn yn y gynghrair hon yn dyst i angerdd ac ymdrechion ein cymuned brifysgol - cyflawniad sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin ac un y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo.
"Ni fydd y gwelliannau hyn yn stopio yma - byddwn yn parhau i ganolbwyntio ein hymdrechion gyda'r nod o fod yn sefydliad blaenllaw yn y Gynghrair hon yn y blynyddoedd i ddod."
Gallwch weld sut y sgoriodd y Brifysgol ym mhob categori trwy https://peopleandplanet.org/university-league/2025/u1687/university-of-south-wales