Ddylai gwersi Saesneg ddim cael eu defnyddio fel prawf ar gyfer mewnfudo – pam mae perygl y gallai polisi newydd y DU allgáu pobl ymhellach
22 Ionawr, 2026
Yr Athro Mike Chick, Athro ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ym Mhrifysgol De Cymru, a Dr Declan Flanagan, darlithydd mewn Astudiaethau Ieithyddol a Rhyngddiwylliannol Cymhwysol ym Mhrifysgol Dinas Dulyn, yn ysgrifennu ar gyfer The Conversation ar bolisi mewnfudo newydd arfaethedig llywodraeth y DU ynghylch gofynion iaith Saesneg.
Beth sy'n digwydd pan fydd dysgu Saesneg yn newid o deimlo fel pont i gymdeithas i deimlo fel prawf perthyn y gallwch chi ei fethu?
Dyna'r cwestiwn sy’n cael ei godi gan bolisi mewnfudo newydd arfaethedig llywodraeth y DU, a fyddai'n cynyddu gofynion Saesneg ar gyfer y rhan fwyaf o lwybrau fisa, gyda'r nod o gwneud i bobl integreiddio’n well a bod yn fwy parod ar gyfer ymuno â’r gweithlu.
Mae hyn yn gosod mwy nag erioed o bwyslais ar hyfedredd iaith. Byddai'n rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedredd uwch o ran siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando. Byddai safonau profi llymach a llai o eithriadau yn creu cysylltiad annatod rhwng mewnfudo a sgiliau cyfathrebu cryf ar gyfer cyflogaeth a chyfranogiad cymunedol.
Mae gweinidogion yn dweud y bydd y polisïau arfaethedig yn hyrwyddo "integreiddio" a "chyfleoedd". Ond mae peryglu mai’r gwrthwyneb y gwnân nhw, trwy droi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn ffordd o gadw pobl dan oruchwyliaeth yn hytrach na’u cynnwys.
Rydyn ni’n rhan o'r Glymblaid dros Addysg Iaith, rhwydwaith o academyddion, athrawon a sefydliadau. Mae'r grŵp yn dadlau bod y polisi arfaethedig yn trin y gallu i siarad Saesneg fel mwy o fecanwaith rheoli mewnfudo nag o ffordd o rymuso pobl.
Trwy gysylltu preswyliad hirdymor a dinasyddiaeth â chynnydd mewn dysgu Saesneg, mae'r polisi yn ail-fframio iaith nid fel rhywbeth sydd er lles cyhoeddus pawb, ond fel amod cael eich derbyn. Mae'r Saesneg mewn gwirionedd yn cael ei throi yn ffin rhwng pobl.
Mae iaith yn cael effaith fawr ar sut rydyn ni'n byw gyda'n gilydd. Dyma sut mae pobl yn adeiladu perthnasoedd, yn dod o hyd i waith, yn cymryd rhan mewn cymunedau ac mewn democratiaeth. Ond gall iaith hefyd gael ei defnyddio i rannu pobl ac eithrio.
I siaradwyr nad ydynt yn rhai brodorol, mae dysgu Saesneg wedi bod yn fater o helpu pobl i lywio bywyd bob dydd, i’w mynegi eu hunain a theimlo'n gartrefol. Mae cynigion y llywodraeth, fodd bynnag, yn gosod hyfedredd Saesneg fel prawf perthyn – rhywbeth i'w brofi, ei fesur a'i fonitro.
Prawf sy’n para degawd yn mesur pa mor werth chweil mae rhywun
O dan y cynllun, byddai'n ofynnol i ymfudwyr sy'n ceisio setliad neu ddinasyddiaeth ddangos cynnydd parhaus gyda’r Saesneg, gan symud o lefelau sylfaenol i lefelau canolradd-uwch dros gyfnod o ddeng mlynedd. Byddai cynnydd yn yr iaith yn gysylltiedig â system bwyntiau sydd hefyd yn olrhain cyflogaeth a chyfranogiad dinesig.
Nid yw caffael iaith, fodd bynnag, yn llinol. Mae cynnydd yn cael ei siapio gan drawma, iechyd, cyfrifoldebau gofalu, patrymau gwaith ac addysg flaenorol. I ffoaduriaid ac eraill sydd wedi cael eu dadleoli neu sydd wedi cael oedi i’w haddysg, gall y disgwyliad o welliant cyson, a phrawf o hynny, fod yn afrealistig a theimlo fel cosb.
Mae lleihau'r teithiau dysgu cymhleth hyn i feincnodau blychau ticio yn troi dysgu Saesneg yn ymarfer cydymffurfio. Mae gallu ieithyddol yn cael ei droi’n rhywbeth sy’n gysylltiedig ag ymdrech, moesoldeb a theyrngarwch hyd yn oed. Mae llwyddo mewn profion yn cael ei ystyried yn brawf o ymdrechu'n galed, felly mae methiant yn awgrymu diffyg ymdrech a diogi. Mae rhuglder yn dod yn gysylltiedig â bod yn ymfudwr "da" neu "haeddiannol". Mae hyfedredd yn yr iaith yn troi’n arwydd o ymrwymiad i hunaniaeth genedlaethol, a gallu is yn cael ei fframio fel gwrthwynebiad.
Nid â’r DU yn unig mae hyn yn ymwneud. Ledled y byd, mae addysg iaith wedi dod yn fwyfwy cysylltiedig â rheoli mewnfudo. Yr hyn sy'n newydd gyda'r cynnig hwn yw pa mor agored y mae gallu yn y Saesneg yn cael ei fframio fel rhywbeth i'w fesur.
Yn y DU, mae presenoldeb, canlyniadau profion a thargedau dilyniant mewn perygl o droi’n bwyntiau data sy’n cael eu defnyddio i fonitro ymddygiad, yn hytrach nag i gefnogi dysgu. Mae athrawon yn cael eu gwthio i flaenoriaethu dangosyddion perfformiad dros ddeialog, meithrin hyder ac ymgysylltiad cymunedol.
Pan fydd iaith yn dod yn rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio i reoli pobl, mae’n ail-lunio natur dinasyddiaeth ei hun, gan brofi pobl yn erbyn delfryd ieithyddol gul ac erydu gwerthoedd democrataidd. Mae cydraddoldeb, tegwch, cynhwysiant a chyfranogiad yn erydu pan fydd iaith yn dod yn offeryn sy’n rheoli pwy a ganiateir drwy’r drws. Mae safonau ieithyddol cul yn eithrio siaradwyr amrywiol, ac yn atal mynediad cyfartal i ddinasyddiaeth a hawliau dinesig.
Polisi wedi'i ddatgysylltu oddi wrth realiti
Y tu hwnt i'w ideoleg, mae'r polisi arfaethedig hefyd yn methu ar sail ymarferol. Mae darpariaeth ESOL ledled y DU eisoes wedi'i thanariannu ac yn anghyson. Mae disgwyl ar ddarparwyr cymunedol a gwirfoddol, sy'n helpu llawer o'r dysgwyr sydd fwyaf ar yr ymylon, i gyflawni canlyniadau uchel gydag adnoddau cyfyngedig.
Ond nid oes ymrwymiad at hyfforddi athrawon, gwarantu cyflog, na mynediad i fenywod, ffoaduriaid, neu ddysgwyr gwledig. Does fawr ddim cydnabyddiaeth o'r rhwystrau mae llawer o ddysgwyr yn eu hwynebu, gan gynnwys trawma, cyfrifoldebau gofalu neu ddiffyg mynediad at ofal plant a thrafnidiaeth. Nid oes unrhyw ymgysylltiad difrifol â dulliau addysgu'n seiliedig ar drawma neu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Yn hytrach, mae'r polisi’n gwreiddio’r model technocratig sy'n ystyried yr hyn y gellir ei fesur yn bwysicach na’r hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth hyd yn oed yn ddyfnach.
Dylai iaith helpu pobl i ymgysylltu, nid plismona eu hawl i aros. Ni ellir gorfodi integreiddio trwy wneud i bobl fod ag ofn methu neu gael eu gwahardd. Mae integreiddio’n digwydd pan fo addysg yn groesawgar, yn dangos parch, ac yn cael yr adnoddau sydd eu hangen.
Nid problem i’w datrys yw amrywiaeth ieithyddol. Mae'n adnodd cyhoeddus sy'n cyfoethogi cymunedau ac yn cryfhau democratiaeth. Mae Saesneg yn cael ei dysgu orau pan fo’r addysgu’n mae'n adeiladu ar yr hyn mae dysgwyr eisoes yn ei wybod, yn hytrach nag yn trin eu hieithoedd fel rhwystrau i'w goresgyn.
Yn hytrach na chlymu dysgu iaith â gorfodi mewnfudo, dylai'r llywodraeth fuddsoddi mewn darpariaeth sy'n seiliedig ar drawma, sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr ac sy'n diwallu anghenion dysgwyr. Mae angen ailfeddwl yr asesu hefyd. Dylai flaenoriaethu cyfathrebu a chyfranogiad yn y byd go iawn, nid meincnodau haniaethol sydd yn y pendraw yn tawelu lleisiau.
Yn bwysicaf oll, rhaid deall integreiddio fel proses ddwy ffordd. Mae gan gymunedau sefydlog lawn cymaint i'w ddysgu â’r newydd-ddyfodiaid.
Os yw'r llywodraeth yn credu mewn grymuso, yna dylai addysg chwyddo lleisiau, nid eu tawelu. Dylai polisi iaith agor drysau, nid eu cloi.
Trwy osod y pwyslais ar amodau perthyn, yn hytrach nag ystyried iaith fel offeryn i hwyluso hawliau a chyfranogiad ac i rymuso ymfudwyr i ddeall ac arfer eu hawliau a chymryd rhan mewn bywyd dinesig, mae perygl y bydd y polisi arfaethedig yn atgyfnerthu anghydraddoldeb yn hytrach na'i leihau. Mae cyflwyno meistrolaeth ieithyddol fel prawf o werth cenedlaethol yn tanseilio’r gwerthoedd democrataidd y dylai addysg iaith eu cynnal.
Dylai iaith uno, nid rhannu. Pan fydd yr iaith Saesneg yn cael ei throi'n offeryn i reoli, mae holl hanfod democratiaeth, a’r ffordd y caiff ei gyfleu, yn cael ei wanhau. Nid "adfer rheolaeth" dros iaith yw'r dasg sydd o'n blaenau, ond adfer ymddiriedaeth – mewn dysgwyr, mewn athrawon ac yng ngrym amrywiaeth ieithyddol i ddod â phobl at ei gilydd.
Mae'r erthygl wedi’i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Gallwch ddarllen yr erthygl wreiddiol yma.
Barn yr awdur/on yw’r farn a fynegir yn erthyglau The Conversation ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.