Dyfarnu £3m o gyllid i un o ymchwilwyr PDC a'i enwi'n Gymrawd Dyfodol Gwyrdd fel rhan o ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd

9 Ionawr, 2026

Dr Jaime Massanet-Nicolau yn gweithio mewn lab

Mae academydd o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi’i enwi’n un o Gymrodyr Dyfodol Gwyrdd cyntaf erioed yr Academi Beirianneg Frenhinol, a bydd ymhlith 13 o arloeswyr peirianneg fydd yn dderbyn £3 miliwn yr un i ddatblygu atebion sy'n mynd i'r afael â’r amryfal ffactorau sy’n achosi’r argyfwng hinsawdd, sy’n lliniaru effaith yr argyfwng, ac sy’n hwyluso addasu i’r effaith honno.

Bydd Dr Jaime Massanet-Nicolau, Athro Cysylltiol Biogynhyrchu Cemegol yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC, yn arwain y tîm y mae rhan o fuddsoddiad hirdymor gwerth £150 miliwn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn ei ariannu. Bydd y tîm yn cynnwys yr Athro Alan Guwy a Dr Rhys Jones, sy'n dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd mewn bioburo i'r prosiect.

Mae'r 13 o Gymrodyr Dyfodol Gwyrdd wedi derbyn cyllid i fwrw ymlaen i droi syniadau uchelgeisiol a pheirianneg arloesol yn dechnolegau masnachol hyfyw dros y degawd nesaf, a sicrhau y byddant yn cael effaith barhaol ar yr argyfwng hinsawdd.

Nod y prosiect y bydd Dr Massanet-Nicolau yn ei arwain – BIO-VISTA – yw mynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu diwydiant, yn y DU ac yn fyd-eang: sut i leihau dibyniaeth ar gemegau ffosil a lleihau allyriadau carbon.

Bydd BIO-VISTA yn datblygu biotechnoleg sy'n gallu trosi sawl math o ddeunydd gwastraff yn asidau brasterog anweddol (ABAau/SVFAs) - cemegau hynod hyblyg sy’n cael eu defnyddio i adeiladu blociau mewn deunyddiau ym meysydd plastigau, tecstilau, fferylliaeth, bwyd anifeiliaid, trin dŵr gwastraff, a thechnolegau gwyrdd sy'n dod i'r amlwg fel bio-blastigau. Mae'r farchnad ABA fyd-eang yn werth tua £10 biliwn y flwyddyn ac mae'n tyfu.

"Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o gemegau organig yn dod o olew a nwy, ac mae'r sector cemegol yn cynhyrchu tua 6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd," dywedodd Dr Massanet-Nicolau.

"Ar yr un pryd, mae symiau enfawr o wastraff, o weddillion bwyd i slwtsh carthion a nwyon diwydiannol, yn cynnwys carbon nad yw’n cael ei ddefnyddio i bob pwrpas.

"Mae gweledigaeth BIO-VISTA yn syml: troi'r carbon gwastraff hwn yn gemegau o werth uchel, sy’n gynaliadwy, ac y mae diwydiant eu hangen. Drwy hynny, bydd economi gylchol yn cael ei chreu, lle bydd gwastraff yn adnodd yn hytrach na’n broblem."

Gan ddechrau'r flwyddyn nesaf, bydd prosiect BIO-VISTA yn dod ag arloesiadau allweddol at ei gilydd i ddefnyddio llai o ynni a chynyddu effeithlonrwydd a gwella cynnyrch ABA. Drwy hyn oll, daw manteision economaidd ac amgylcheddol y dechnoleg bioburo hon, sy’n gweithio ar dymheredd isel, i’r amlwg. Bydd hyn yn helpu prosesau i drosi gwastraff yn gemegau gwerthfawr yn y ffordd orau bosibl; yn datblygu adweithyddion newydd a systemau adfer cemegol; yn creu systemau peilot yn y Brifysgol ac yn safleoedd partneriaid; yn helpu diwydiant i ddeall y broses BIO-VISTA; ac yn datblygu cyfleoedd masnachol i sicrhau bod yr ymchwil yn cael effaith yn y byd go iawn.

"Rydym yn gweithio gyda Dŵr Cymru a Hafren Trent, sy’n golygu bod gennym fynediad at ffrydiau dŵr gwastraff a mewnwelediadau gan y diwydiant ar gyfer cynlluniau peilot y dyfodol, Mae cwmni cydweithredol llaeth First Milk hefyd yn bartner i ni, fydd yn ein galluogi i archwilio holl bosibiliadau defnyddio gweddillion amaethyddol a phrosesu bwyd i greu porthiant i anifeiliaid," ychwanegodd Dr Massanet-Nicolau.

Dywedodd yr Athro Alan Guwy, Pennaeth y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy: "Mae BIO-VISTA yn adeiladu ar y cysyniad VFAFactory, rhywbeth rydyn ni wedi'i ddatblygu yn SERC dros nifer o flynyddoedd gyda Jaime Massanet-Nicolau a Rhys Jones. Mae dyfarnu Cymrodoriaeth Dyfodol Gwyrdd yr Academi Beirianneg Frenhinol i Jaime yn gydnabyddiaeth wych o uchelgais ac effaith y gwaith hwn, a bydd yn helpu i droi ein hymchwil yn dechnolegau cemegol carbon isel y gellir eu defnyddio."

Mae prosiectau eraill y dyfarnwyd cyllid Dyfodol Gwyrdd iddynt yn cynnwys rhai sydd â ffocws ar baneli solar mwy effeithlon ac ailgylchadwy; echdynnu metelau hollbwysig ar gyfer batris, magnetau, paneli solar a chelloedd tanwydd trwy hidlo dŵr hallt; storio hirdymor ynni adnewyddadwy; a systemau storio data mwy ynni-effeithlon.

Mae gwaith ar y gweill hefyd ar fath newydd o batri sy'n cynnwys pedair gwaith mwy o ynni, defnyddio tonnau sain i ddinistrio "cemegau sy’n para am byth" mewn dŵr a phridd, a defnyddio microbau arbenigol i droi carbon deuocsid yn hydrogen glân.

Dywedodd yr Athro Louise Bright, Dirprwy Is-Ganghellor Menter, Ymgysylltu a Phartneriaethau PDC: "Mae BIO-VISTA yn datblygu technoleg, talent a phartneriaethau sy'n cryfhau proffil ymchwil ac enw da PDC mewn diwydiant.

"Trwy gyfuno arloesedd gwyddonol â’r photensial i’w ddefnyddio yn y byd go iawn, mae'n creu cyfleoedd i fyfyrwyr ac ymchwilwyr a phosibiliadau masnachol yn y dyfodol."

Dywedodd y Farwnes Brown o Gaergrawnt, Cymrawd yn yr Academi Beirianneg Frenhinol, a Chadeirydd Grŵp Llywio’r Cymrodoriaethau Dyfodol Gwyrdd: "Yr argyfwng hinsawdd yw her fawr ein cenhedlaeth. Mae angen atebion, fydd yn diffinio ein hoes, ac a fydd yn mynd i'r afael ag anferthedd yr her. Mae llawer o'r posibiliadau eisoes yn bodoli, ond mae angen buddsoddiad o ran arian ac amser i sicrhau eu bod yn llwyddo.

"Mae’r Cymrodoriaethau Dyfodol Gwyrdd yn helpu arloeswyr sy'n gwthio ffiniau peirianneg ac yn datblygu atebion beiddgar i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, i addasu atyn nhw ac i adeiladu gwytnwch. Mae'r Cymrodyr Dyfodol Gwyrdd cyntaf yn arloesi technolegau gwirioneddol ddatblygedig i amddiffyn y byd rydyn ni'n byw ynddo."