Mae swydd ddelfrydol Juliana o fewn ei chyrraedd ar ôl interniaeth gydag Amazon

27 Ionawr, 2026

Juliana Merison, graddedig MBA byd-eang

Ni all llawer o fyfyrwyr gynnwys interniaeth gyflogedig gydag Amazon ar eu CV - yn enwedig pan maen nhw wedi rhoi eu bryd ar yrfa mewn logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi.

Ond dyna'n union mae Juliana Merison wedi'i wneud – a nawr mae hi'n graddio o Brifysgol De Cymru gyda theilyngdod mewn MBA Byd-eang (Cadwyn Gyflenwi), lle elwodd o leoliad chwe mis amhrisiadwy gyda'r cawr logisteg byd-eang.

Daeth Juliana, sy’n 23 oed, i PDC ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn Peirianneg yn ei mamwlad, India, diolch i'r cynnig o leoliad gwaith i helpu i roi theori ar waith.

"Roeddwn i'n awyddus i arbenigo mewn rheoli cadwyni cyflenwi ond hefyd i gael y cyfle i archwilio mwy o elfennau busnes, fel marchnata ac adnoddau dynol," meddai Juliana.

"Roedd y cyfle am leoliad gwaith hefyd yn ffactor pwysig, i'm helpu i ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â'm hastudiaethau. PDC oedd y dewis perffaith i mi, felly.

"Rydw i wedi caru'r profiad o astudio yn y DU. Roeddwn i eisiau herio fy hun, ac rwy'n falch o’r hyn rydw i wedi'i gyflawni. Mae breuddwyd wedi cael ei gwireddu."

Yn ystod ei hastudiaethau, mae Juliana wedi gweithio fel llywiwr myfyrwyr – rhan bwysig o helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yn y brifysgol – a gweithiwr cymorth lles, ei ffordd hi o roi rhywbeth yn ôl ar ôl cael profiad gwych fel myfyriwr yn PDC.

A hithau’n benderfynol o sicrhau lleoliad gwaith y mae galw mawr amdano, gwnaeth Juliana gais am fwy na 100 o rolau, ac roedd yn falch iawn o gael cynnig yr interniaeth yn Amazon yn dilyn cyfweliad panel.

Yna dechreuodd ar chwe mis o ddysgu, wedi'i lleoli yn warws mwyaf Amazon, BRS1 ym Mryste. Gweithiodd Juliana gyda'r tîm Newid, gan helpu i safoni'r adran trwy gyflwyno syniadau creadigol ynghylch dadansoddi data ac effeithlonrwydd.

"Fe enillais i gymaint o sgiliau ymarferol a chael cyfle i weithio gyda gwahanol adrannau fel pecynnu, cludiant, a thimau gweithredol eraill, a ddysgodd lawer i mi am y broses gyfan, a chaniatáu i mi ddefnyddio’r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu yn ystod fy nghwrs mewn amgylchedd gwaith go iawn," meddai Juliana.

"Ar ddiwedd yr interniaeth cyflwynais bapur gwyn roeddwn i wedi'i ysgrifennu a oedd yn cynnwys rhai argymhellion ar sut y gallai rhai prosesau gael eu gwneud yn wahanol. Ces i adborth cadarnhaol iawn ar hyn, oherwydd roeddwn i wedi cefnogi pob syniad gyda thystiolaeth yn seiliedig ar ddata."

A hithau bellach wedi cwblhau ei hastudiaethau, mae Juliana yn edrych ’mlaen at archwilio cyfleoedd ym marchnad swyddi’r DU, ar ôl cael cip mor amhrisiadwy ar y diwydiant o’i dewis.

"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i ddysgu cymaint gan yr enw mwyaf ym maes rheoli cadwyni cyflenwi, ac i fod wedi gallu rhoi cymaint o’m dysgu ar waith bob dydd. Gan ei fod yn gwmni rhyngwladol, roeddwn i'n gweithio gyda grŵp rhyfeddol o amrywiol o bobl sydd wedi magu fy hyder a datblygu fy sgiliau arwain.

"Mae pobl yn clywed yr enw Amazon ac yn meddwl am bacio bocsys, ond mae cymaint mwy iddo. Maen nhw’n buddsoddi'n helaeth yn eu staff ac yn cynnig rhaglenni graddedigion gwych i helpu pobl i gyrraedd eu potensial.

"Mae'r radd MBA Byd-eang wir wedi helpu i’m paratoi ar gyfer y diwydiant. Fe wnaethon ni fwynhau cymaint o ddarlithoedd gwadd a seminarau a oedd yn ysbrydoledig iawn, gan ein hannog i drafod materion byd-eang o safbwynt gwahanol randdeiliaid, a'n herio i edrych ar sut mae gwahanol gwmnïau’n defnyddio ystod o fethodolegau.

"Fyddwn i byth wedi dychmygu, ychydig flynyddoedd yn ôl, y byddwn i wedi ennill yr holl sgiliau hyn a ffynnu cymaint yn sgil y cyfleoedd hyn. Fi hefyd yw'r cyntaf yn fy nheulu i ddod i'r DU i astudio, felly mae gallu dathlu gyda fy anwyliaid ar ddiwrnod Graddio yn arbennig iawn."