Mae'r Brifysgol yn rym er daioni' Cyn-Lywodraethwr yn talu teyrnged i'r Brifysgol wrth iddo dderbyn Doethuriaeth er Anrhydedd

26 Ionawr, 2026

Mae Chris Sutton yn gwenu o flaen draig

Mae Chris Sutton – syrfëwr siartredig a chyn-fyfyriwr PDC – wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd yn seremonïau graddio mis Ionawr Prifysgol De Cymru (PDC), i gydnabod ei gyfraniad i addysg bellach ac uwch, a'r dirwedd fusnes yng Nghymru.

Dechreuodd gyrfa Chris Sutton, sy'n ymestyn dros 40 mlynedd, pan oedd yn fyfyriwr Rheoli Ystadau Trefol ym Mholitechnig Cymru – sydd bellach yn PDC – rhwng 1984 a 1988.

Paratoodd ei radd y ffordd ar gyfer gyrfa amrywiol yn y sector eiddo masnachol a diwydiannol yng Nghymru, lle mae Chris wedi gweithio yn y sector cyhoeddus a phreifat ar ystod eang o brosiectau eiddo tiriog, o adfywio trefol i fewnfuddsoddiad.

Mae Chris yn angerddol am wella'r amgylchedd busnes yn y rhanbarth. Mae'n eistedd ar Fwrdd Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), lle mae'n goruchwylio prosiect buddsoddi gwerth £500m gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU a Chymru, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Barth Buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd sy'n dod i'r amlwg. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd CBI Cymru ac wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion eiddo, gan gynnwys datganoli ardrethi busnes i Gymru.

Mae Chris wedi cyfrannu at lywodraethu addysg uwch, fel Llywodraethwr PDC rhwng 2016 a 2024, a Chadeirydd Coleg Merthyr Tudful rhwng 2020 a 2024.

Am ei gysylltiad â PDC, dywedodd Chris: "Rwy'n falch o fod wedi bod yn gysylltiedig â'r Brifysgol ers dros bedwar degawd.

"Mae'r Brifysgol yn rym er daioni o ran creu gweithlu sydd â sgiliau perthnasol i'r economi - o wyddorau bywyd, plismona, addysg, iechyd, peirianneg a chyfrifiadura, hyd at fyd busnes a'r celfyddydau creadigol.

"Mae grŵp PDC hefyd yn annog symudedd cymdeithasol yn un o'r rhanbarthau mwy difreintiedig yn y DU, gan gefnogi unigolion o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, a sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu."

Wrth dderbyn ei Ddoethuriaeth er Anrhydedd: "Diolch i PDC am y gydnabyddiaeth hon; roedd y Brifysgol yn allweddol wrth lunio fy ngyrfa ac rwy'n falch o fod wedi cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl."