Pam mae priodferched yn dal yn amharod i ddewis ffrogiau priodas ail-law

13 Ionawr, 2026

Priodferch yn eistedd yn ei ffrog briodas

Mae Dr Lauren Josie Thomas, Arweinydd Grŵp Ymchwil ac Arloesi Busnes Prifysgol De Cymru; Charles Hancock, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata ym Mhrifysgol Derby; a Rosy Boardman, Darllenydd mewn Busnes Ffasiwn ym Mhrifysgol Manceinion, yn ysgrifennu i The Conversation ynghylch pam y bydd y rhan fwyaf o briodferched yn prynu ffrog briodas newydd, yn hytrach na dewis ffrog ail-law.

Mae ffasiwn ail-law yn ffynnu, ond mae'r rhan fwyaf o briodferched - hyd yn oed y rhai sy'n poeni am gynaliadwyedd - yn dal i ddewis cerdded at yr allor mewn ffrog briodas newydd.

Mae'n wrthgyferbyniad trawiadol. Mae ffrogiau priodas yn ddrud ac angen llawer o adnoddau i'w cynhyrchu. Mae eisiau llawer iawn o ffabrig a dŵr ar gyfer dilledyn a wisgir unwaith yn unig. Ac er bod llawer o gyplau yn meddwl yn fwy gofalus am gost amgylcheddol eu dathliadau, mae dillad priodas ail-law yn parhau i fod yn eithriad yn hytrach na'r norm.

Mae ein hymchwil gyda phriodferched y DU yn datgelu pam mae cymaint yn parhau i wrthsefyll y newid ehangach tuag at ffasiwn ail-law, o ran eu diwrnod mawr. Yr hyn a ganfuom yw bod ffrogiau priodas yn meddu ar rym diwylliannol ac emosiynol ymhell y tu hwnt i'w ffurf gorfforol.

I lawer o briodferched, mae dewis y ffrog yn garreg filltir symbolaidd wrth newid o fod yn bartner i wraig. Mae rhaglenni teledu fel Say Yes to the Dress wedi cadarnhau'r syniad o foment hudolus, drawsnewidiol, sy'n aml yn cynnwys anwyliaid, dagrau a chydnabyddiaeth gyfunol o "yr un". O fewn y sgript ddiwylliannol hon, mae'r ffrog briodas i fod i nodi dechrau’r hunaniaeth newydd.

Fe wnaethon ni gyfweld â 18 o briodferched ar gyfer ein hastudiaeth. Teimlai llawer fod dewisiadau ail-law yn tarfu ar y naratif hwn. Dywedodd y priodferched wrthym y byddai gwisgo ffrog ail-law yn teimlo fel camu i mewn i stori rhywun arall, gan ei gwneud hi'n anoddach iddynt ddychmygu eu straeon eu hunain.

Roedd y rhan fwyaf o briodferched yn ein hastudiaeth yn poeni am yr amgylchedd ac yn hoffi'r syniad o ddewisiadau mwy gwyrdd, ond anaml y byddai cynaliadwyedd yn llunio'r penderfyniad terfynol. Yn aml, byddai priodferched yn pwyso a mesur eu gwerthoedd personol yn erbyn sgript emosiynol ddwfn o'u plentyndod ynglŷn â sut y dylai'r briodas deimlo, a phwy yr oeddent yn dymuno bod ar y diwrnod.

Chwaraeodd y ffrog rôl ganolog yn y broses hon o newid hunaniaeth. Defnyddiodd priodferched y ffrog i fynegi'r fersiwn ohonyn nhw eu hunain yr oeddent am ei chyflwyno wrth iddynt ddod yn wraig, gan ddibynnu ar siâp, teilwra ac arddull i greu'r ddelwedd honno. Gwnaeth hyn reolaeth yn arbennig o bwysig.

Teimlai llawer fod opsiynau ail-law yn cyfyngu ar eu gallu i lunio'r ffrog o amgylch eu hunaniaeth. Roeddent yn poeni am newidiadau, cyflwr ac a allai ffrog ail-law wir gario'r ystyr personol yr oeddent yn ei ddychmygu.

Roedd siopa am y ffrog hefyd yn rhan o'r newid hwn. Roedd llawer o briodferched yn dychmygu apwyntiad bwtîc gyda theulu neu ffrindiau, lle gallent roi cynnig ar wahanol fersiynau ohonynt eu hunain a dewis "yr un". Helpodd hyn iddynt gadarnhau'r rôl yr oeddent yn camu iddi.

Anaml y mae siopa ail-law yn cefnogi'r profiad hwn. Gall siopau elusen deimlo'n anffurfiol neu heb lawer o breifatrwydd, ac nid yw llwyfannau ar-lein yn rhoi'r cyfle i deimlo'r ffabrig neu farnu'r siâp. Heb ofod sy'n cario pwysau emosiynol y dewis, teimlai'r priodferched y siaradom â nhw fod tarfu ar y newid.

Ychwanegodd materion ymarferol fwy o bwysau. Mae ffrogiau ail-law yn eitemau unigryw, lle nad oes llawer o gyfle i reoli maint ac arddull, a gall fod yn anodd asesu eu cyflwr. Roedd y rhwystrau hyn yn amharu ar ymdeimlad y priodferched o reolaeth ar sut y byddent yn edrych a theimlo ar y diwrnod.

Atgyfnerthodd camsyniadau'r amharodrwydd hwn. Nid oedd llawer o briodferched yn gwybod pa opsiynau ail-law oedd ar gael na sut i gael hyd iddynt. Tybiodd rhai y byddai'r ffrogiau wedi dyddio, wedi'u difrodi neu'n anhylan. Heb ganllawiau clir nac amlygrwydd, ni wnaeth y rhan fwyaf o briodferched erioed archwilio ail-law o ddifrif, hyd yn oed os oeddent yn hoffi'r syniad mewn egwyddor.

Yr hyn sydd angen i brofiad ail-law ei gynnig

Er mwyn i briodferched ystyried ffrogiau ail-law, rhaid i'r profiad siopa eu helpu i deimlo mewn rheolaeth ac yn gysylltiedig yn emosiynol â'r ffrog. Roedd priodferched yn ein hastudiaeth eisiau siopau bwtîc wedi'u curadu, yn cynnig gwasanaeth ffitio, canllawiau arbenigol a sicrwydd ynghylch glanhau ac addasiadau, i gyd o fewn lle tawel lle gallent ddychmygu eu hunain ar ddiwrnod eu priodas.

Roeddent hefyd eisiau i opsiynau ail-law fod yn haws i'w canfod a'u llywio. Gall cyflwyno ffrogiau ail-law fel rhai unigryw ac ystyrlon, yn hytrach nag fel cyfaddawdau, eu helpu i deimlo fel rhan gredadwy o'r daith i fywyd priodasol.

Nid dim ond dewis ffrog y mae priodferched yn ei wneud. Maen nhw'n rheoli’r broses o newid hunaniaeth. Y ffrog briodas yw un o'r prif eitemau maen nhw'n eu defnyddio i lunio pwy fyddan nhw ar ddiwrnod eu priodas. Mae cynaliadwyedd yn bwysig, ond anaml y mae'n drech na'r rôl symbolaidd ac emosiynol bwerus y mae'r ffrog briodas yn ei chwarae.

Dim ond os yw'n cefnogi'r trawsnewidiad emosiynol hwn y bydd dillad priodas ail-law yn ffynnu. Gall mwy o welededd, cysylltiad emosiynol cryfach a phrofiad sy'n helpu priodferched i deimlo bod y ffrog yn eiddo iddyn nhw go iawn, annog eraill i ddewis ail-law heb aberthu'r ystyr maen nhw'n ei roi ar ddod yn wraig.

Ailgyhoeddwyd yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Barn yr awdur(on) a fynegir yn erthyglau The Conversation ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.