Cyhoeddi safonau cenedlaethol newydd i gryfhau presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru
12 Mai, 2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi set bwysig o safonau a gwerthoedd craidd sydd â’r nod o gryfhau ansawdd a chysondeb gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru.
Mae'r ddogfen, y bu tystiolaeth a ddatblygwyd gan Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn hollbwysig iddi, yn gosod fframwaith cyffredin i gefnogi ymarferwyr, comisiynwyr a chymunedau sy'n ymwneud â darparu presgripsiynu cymdeithasol ledled y wlad.
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu unigolion â chymorth cymunedol nad yw’n glinigol, fel grwpiau gwirfoddoli, gweithgarwch corfforol, a gwasanaethau diwylliannol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall pethau fel hyn leihau'r galw ar wasanaethau meddygon teulu drwy wella lles cyffredinol, ac mae’n enghraifft o pwysigrwydd cynyddol y gweithgareddau hyn o fewn modelau gofal iechyd ataliol.
Mae'r safonau sydd newydd eu cyhoeddi yn adeiladu ar Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, gyda’r nod o sicrhau darpariaeth gyson o ansawdd uchel ledled y wlad. Mae’r safonau’n adlewyrchu rôl gynyddol bwysig y dulliau hyn mewn ymdrechion i wella lles corfforol, cymdeithasol, meddyliol ac ariannol, ac helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal traddodiadol ar yr un pryd.
Mae'r ddogfen yn egluro sut olwg sydd ar arfer da yng Nghymru ac yn cynnig eglurder ar egwyddorion, gwerthoedd a disgwyliadau cyffredin o ran y gwasanaethau. Y bwriad yw cefnogi dull system gyfan, gan alinio sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol o gylch gweledigaeth gyffredin.
Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi bod yn ymrwymiad allweddol o fewn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021–2026), gyda ffocws ar fynd i'r afael ag unigrwydd, gwella lles a grymuso cymunedau.
Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr WSSPR: "Fe wnaethon ni weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu'r dystiolaeth ar gyfer y safonau hyn, gan dynnu ar ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr o bob cwr o Gymru.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol o ran cryfhau presgripsiynu cymdeithasol, ac yn darparu fframwaith clir, cyson i gefnogi gwasanaethau o ansawdd uchel, sydd â phobl yn ganolog iddyn nhw. Yn y pen draw, bydd yn helpu i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at gymorth sy'n ystyrlon ac sy'n gwneud gwahaniaeth parhaol i'w bywydau."
Ar 26 Mawrth 2026, gwahoddwyd yr Athro Wallace a'i chydweithwyr yn ffurfiol i Dŷ'r Cyffredin ar gyfer derbyniad arbennig i ddathlu bod Academi Genedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol (NASP) wedi ei dynodi'n Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd.