Partneriaeth rhwng De Cymru a Malaysia yn datblygu dyfais AI cost isel i drawsnewid prawf aeddfedrwydd ffrwythau trofannol
14 Mai, 2026
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn rhan o bartneriaeth ymchwil ac arloesi ryngwladol i ddatblygu dyfais gludadwy, cost isel, â chymorth DA a allai drawsnewid sut mae aeddfedrwydd un o allforion ffrwythau mwyaf gwerthfawr Malaysia yn cael ei asesu.
Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o'r DU a Malaysia i fynd i'r afael â her hirdymor gyda durian, ffrwyth y mae ei aeddfedrwydd yn cael ei farnu'n draddodiadol trwy dapio, arogli, neu archwiliad gweledol.
Mae'r dulliau hyn yn oddrychol ac yn aml yn anghyson, ac, o ganlyniad, mae ffrwythau'n aml yn cael eu cynaeafu'n rhy gynnar neu'n rhy hwyr, gan gyfrannu at wastraff ar ôl y cynaeafu, allforion wedi'u gwrthod, colledion ariannol, ac ansawdd anwastad, yn enwedig mewn marchnadoedd premiwm fel Tsieina a Singapore.
Mae Prifysgol De Cymru, sydd wedi derbyn £80,000 gan Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Ryngwladol ar gyfer yr ymchwil, yn gweithio mewn cydweithrediad ag Universiti Kebangsaan Malaysia (UKM) a Sefydliad Ymchwil a Datblygu Amaethyddol Malaysia (MARDI), i ddatblygu dyfais llaw sbectrosgopeg Raman wedi'i gwella â deallusrwydd artiffisial (DA). Mae llywodraeth Malaysia wedi rhoi £80,000 i'r prosiect.
Mae'r dechnoleg hon yn caniatáu i ddurian gael ei sganio'n yn ddi-ymledol, gan ddadansoddi newidiadau moleciwlaidd main iawn y tu mewn i'r ffrwyth i bennu ei aeddfedrwydd, yn gywir ac mewn amser real.
Mae ymchwilwyr PDC yn gyfrifol am y dylunio a pheirianneg y synhwyrydd optegol cryno, cost isel, gan dynnu ar arbenigedd y Brifysgol mewn optoelectroneg a systemau ffotonig cludadwy. Yn wahanol i dechnolegau labordy presennol sy'n ddrud ac yn anymarferol i ffermydd, mae'r ddyfais newydd wedi'i chynllunio'n benodol i fod yn fforddiadwy, yn gadarn, ac yn barod ar gyfer y maes - gan ei gwneud yn hygyrch i ffermwyr, proseswyr ac allforwyr.
Mae'r system yn defnyddio dull optegol sydd wedi ei symleiddio sy'n canolbwyntio ar farcwyr sbectrol allweddol sy'n gysylltiedig â ymddatodiad startsh yn ystod aeddfedu. Mae'r mesuriadau hyn yn cael eu cyfuno â modelau dysgu peirianyddol i ddosbarthu ffrwythau fel rhai anaeddfed, aeddfed, neu or-aeddfed, gyda chanlyniadau'n cael eu cyflwyno trwy ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio sy'n addas i'r rhai nad ydynt yn arbenigwyr.
Dr Kang Li gyda'r Athro Norhana Arsad, Pennaeth Labordy Technoleg Fotonics ym Mhrifysgol Kebangsaan Malaysia
Mae ymchwil maes a datblygiad model DA yn cael eu harwain gan UKM, gyda data'n cael ei gasglu o berllannau a chyfleusterau pecynnu, gan ganolbwyntio'n benodol ar Musang King, amrywiaeth durian flaenllaw Malaysia.
Mae aeddfedrwydd yn cael ei olrhain o'r cynhaeaf hyd at y saith diwrnod cyntaf ar ôl y cynhaeaf ac yn cael ei ddilysu yn erbyn dangosyddion sefydledig, megis cadernid, cynnwys siwgr, a graddio synhwyraidd arbenigol.
Mae MARDI yn cefnogi'r prosiect trwy fynediad at berllannau, rhwydweithiau logisteg, a rhanddeiliaid y diwydiant, gan helpu i sicrhau bod y dechnoleg yn ymarferol, yn raddadwy, ac yn cyd-fynd ag anghenion ffermio'r byd go iawn.
Mae gan y prosiect ffocws economaidd a chymdeithasol cryf hefyd. Mae tua 70% o gynhyrchwyr durian Malaysia yn ffermwyr bach, ac mae llawer ohonynt yn brin o fynediad at offer rheoli ansawdd gwrthrychol. Drwy alluogi graddio mwy cywir ar lefel y fferm, nod y dechnoleg yw i leihau gwastraff, gwella dibynadwyedd allforio, a chynyddu incwm, gan gefnogi cyfranogiad mwy cynhwysol yn yr economi bwyd-amaeth.
Mae'r fenter yn cyd-fynd â Pholisi Bwyd-Amaeth Cenedlaethol 2.0 Malaysia ac yn dangos sut y gall cydweithio rhyngwladol yn ymchwil ac arloesi gefnogi trawsnewid digidol, cynaliadwyedd a ffyniant.