Prifysgol De Cymru yw'r cyntaf yn y DU i lansio byrddau rhyngweithiol
27 Mai, 2026
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn torri tir newydd mewn addysg uwch gan lansio mannau dysgu arloesol sy'n cael ei bweru gan fyrddau digidol rhyngweithiol, y cyntaf o'i fath yn y DU i'w ddefnyddio ar gyfer addysgu, dysgu ac efelychu.
Mae'r cyfleuster newydd, a elwir yn CIPHER (Hwb Ymchwilio i Droseddu a Phlismona ar gyfer Tystiolaeth ac Ymchwil), yn cynrychioli cam mawr ymlaen mewn addysg trochol, gan alluogi myfyrwyr Troseddeg, Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu amgylcheddau proffesiynol y byd go iawn.
Gan adeiladu ar hanes cryf y Brifysgol mewn amgylcheddau dysgu wedi’u hefelychu, o'r tŷ lleoliad trosedd i'r ffug lys barn,, mae'r byrddau rhyngweithiol yn mynd â'r dull hwn i lefel hollol newydd.
Yn wahanol i fannau addysgu traddodiadol, mae'r byrddau'n caniatáu i fwy nag un defnyddwyr i weithio ar yr un pryd ar wahanol dasgau heb ymyrryd â'i gilydd. Gall myfyrwyr adolygu tystiolaeth, dadansoddi cudd-wybodaeth, drafftio strategaethau a gwneud penderfyniadau - i gyd ar yr un pryd, ar yr un rhyngwyneb.
Dywedodd Daniel Welch, Pennaeth Pwnc ar gyfer Plismona, Troseddeg, Diogelwch, a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Pan fyddant yn gadael PDC, bydd disgwyl i’n myfyrwyr weithio ar gyflymder, rheoli tasgau lluosog, a chydweithio’n effeithiol. Mae’r byrddau hyn yn hyrwyddo’r arddull waith hon mewn ffordd nad ydym wedi gallu ei chyflawni o’r blaen.”
Wrth wraidd yr arloesedd mae meddalwedd uwch sy’n trawsnewid pob bwrdd yn fan gwaith digidol a rennir. Gall myfyrwyr symud, ehangu a rhannu cynnwys yn reddfol, gan symud ffeiliau ar draws y bwrdd neu, mewn datblygiadau yn y dyfodol, hyd yn oed rhwng byrddau ar draws yr ystafell.
Mae’r dechnoleg yn cefnogi dysgu gwirioneddol gydweithredol, gan alluogi dosbarthiadau cyfan i weithio ar wahanol agweddau ar yr un achos mewn amser real.
Un o nodweddion mwyaf nodedig y byrddau yw eu technoleg RFID, sy’n cysylltu gwrthrychau ffisegol â gwybodaeth ddigidol.
Er enghraifft, gallai myfyrwyr sy’n ymchwilio lleoliad trosedd sydd wedi’i efelychu darganfod ffôn symudol. Pan gaiff ei osod ar y bwrdd, gall y ddyfais ddatgelu data wedi’i raglennu ymlaen llaw ar unwaith fel negeseuon, hanes lleoliad, neu gynnwys fideo, gan ddod â’r ymchwiliad yn fyw.
Er bod byrddau rhyngweithiol yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill mewn addysg uwch, maent fel arfer yn gyfyngedig i arddangosfeydd gwybodaeth. Mae gweithrediad PDC yn unigryw o ran cymhwyso'r dechnoleg yn uniongyrchol i addysgu.
Dywedodd Daniel: “Rydym yn casglu mewnbwn gan staff ar draws PDC i archwilio sut y gellir cymhwyso'r dechnoleg yn ehangach, gyda diddordeb cryf eisoes wedi'i fynegi o sawl maes pwnc.
“Mae mannau fel CIPHER yn ymwneud â chreu profiadau dysgu deniadol, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn ychwanegu'n wirioneddol at brofiadau ein myfyrwyr.”
Hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr: Y Tu Mewn i'r Ystafell Seiffr yn PDC