Wythnos Gwirfoddolwyr | Myfyriwr PDC yn gwirfoddoli dros 150 o oriau yn cefnogi
3 Mehefin, 2026
Mae myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi ymroi dros 150 awr yn cefnogi pobl dros De Cymru trwy gwnsela a gwasanaethau iechyd meddwl wrth hyfforddi i fod yn cwnselydd.
Mae Chamathka Veenavi o Gasnewydd, yn astudio gradd BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig. Mae hi wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir o ran oriau lleoliad ar gyfer ei chwrs, wrth wirfoddoli gyda gwasanaethau cymunedol cwnsela, ysgolion, a’r GIG i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion.
Yn wreiddiol o Sri Lanca, symudodd Chamathka i’r DU tair blwyddyn yn ôl, ar ôl gweithio fel athrawes am bum mlwyddyn. Wedi’i hysbrydoli gan yr effaith wnaeth hi weld gyda llygaid ei hun o ran anawsterau iechyd meddwl ar blant, penderfynodd ail-hyfforddi fel cwnselydd.
“Roeddwn am i helpu plant mewn ffordd ystyrlon” dywedodd. “Fel athrawes, mae’n bosib gweld pan bod plant yn gweld hi’n anodd, ond roedd cyfyngiadau ar beth allwch wneud. Sylweddolais fod angen yr hyfforddiant a chyfleusterau cywir arnaf i wir gefnogi nhw.”
Fel rhan o’r radd, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd ag oriau leoliad clinigol dros y ddwy flynedd. Fodd bynnag, mae Chamathka wedi rhagori'n sylweddol ar hyn drwy wirfoddoli gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, gwasanaeth Parth Siarad Cyngor Casnewydd, a Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Dywedodd Chamathka: “Er ei fod yn waith gwirfoddol, mae'n rhoi set ychwanegol o sgiliau a hyder i chi. Rydych chi'n tyfu bob dydd, a hefyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw gwrando, a rhoi lle i bobl i siarad.”
Mae hi'n credu bod gwirfoddoli wedi bod yn amhrisiadwy wrth ei pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn cwnsela.
“Pe bawn i wedi gwrthod gwirfoddoli, dydw i ddim yn credu y byddai gen i'r hyder na'r profiad sydd gen i nawr,” meddai. “Mae'r angen am gefnogaeth iechyd meddwl yn enfawr, ac os gallaf helpu hyd yn oed un person, mae hynny'n bwysig.”
“Roedd gwneud newid mor fawr o ran fy ngyrfa yn peri gofid ar y dechrau, ond roedd mor werth chweil,” ychwanegodd. “Gwnaeth gwirfoddoli fy helpu i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol, ac rwy'n falch fy mod i wedi ymgymryd â'r her honno.”