Athro gwadd newydd yn sôn am 'fraint anhygoel o weithio gyda PDC’
20 Mawrth, 2026
Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Chris Parker MBE fel Athro Gwadd mewn Seiberddiogelwch.
Gyda chefndir o 30 mlynedd mewn rolau milwrol a chorfforaethol pwysig, mae Chris bellach yn Gyfarwyddwr Strategaeth Lywodraethol gyda Fortinet UK, busnes seiberddiogelwch blaenllaw.
Mae'n arbenigwr ym maes cydweithredu seiberddiogelwch strategol, ac yn gwasanaethu fel: Cyd-gadeirydd Pwyllgor Seiberwydnwch y DU, Cyd-gadeirydd Gweithgor Integreiddio y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 2022 ac fe fu’n Gadeirydd Grŵp Seiberwydnwch a Diogelwch y Gadwyn Gyflenwi gyda’r Adran Ynni.
Mae Chris yn Gymrawd o Sefydliad Tällberg, yn Rheolwr Siartredig ac mae ganddo Radd Meistr Technoleg gyda dau ddiploma ôl-radd mewn cynllunio strategol.
Dywedodd Chris fod cael ei benodi’n Athro Gwadd yn 'fraint anhygoel’ a'i fod yn edrych ymlaen at rannu ei arbenigedd ym maes Diogelwch y Seilwaith Cenedlaethol Critigol ac ym maes Integreiddio Diwydiannol, fydd yn cefnogi dwy o themâu craidd y Brifysgol.
"Rwy'n credu mewn gallu rhoi rhywbeth yn ôl a bydd estyn cymorth i’r Brifysgol yn ffordd o wneud hynny," dywedodd.
"Rydw i wir eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r genhedlaeth nesaf. Sôn wrthyn nhw am yr hyn rwyf wedi'i ddysgu o fy nghamgymeriadau, sut i ymdopi ag anawsterau, a’r pethau wnaeth fy helpu i lwyddo.
"Rwy’n angerddol dros lywodraethu da mewn seiberddiogelwch. Mae’n bosibl bod rhai pobl sydd â sgiliau cyfrifiadureg technegol iawn yn methu sylweddoli bob amser mor bwysig y mae llywodraethiant. Mae angen y sgiliau technegol a’r sgiliau llywodraethu nawr ac yn y dyfodol.
"Fy nod yw helpu i wella Seiberlywodraethu yn y Brifysgol a dangos sut mae deall a chyflawni gofynion sefydliadol yn hanfodol i yrfa lwyddiannus yn y maes seiber."
Mae Chris hefyd yn gobeithio gwella amrywiaeth o fewn y maes seiber.
"Rwy'n awyddus iawn i weld pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn dod i'r maes seiber," dywedodd. "Hoffwn weld rhagor o fenywod yn y sector. Mae fy merch i’n gweithio yn y maes digidol nawr felly mae o ddiddordeb personol i fi hefyd.
"Hoffwn hefyd helpu sicrhau mwy o niwroamrywiaeth yn ein sector. Rwy'n arbennig o angerddol dros groesawu a denu pobl fydd yn gyfforddus iawn yn y maes a ffynnu ynddo. Mae’r maes seiber yn elwa’n fawr o sgiliau a ffyrdd unigryw o weithio a meddwl – mae'n faes lle dylid croesawu ffyrdd gwahanol o feddwl."
Dywedodd yr Athro Jill Stewart, Deon Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, y bydd croeso mawr i’r arbenigedd y daw Chris ag ef i'r Brifysgol.
"Rhan allweddol o'n cyrsiau a'n hymchwil seiberddiogelwch yw dod â phrofiad arbenigol ac o’r byd go iawn i'r brifysgol, a pha ffordd well o wneud hynny na chael rhywun sydd ar flaen y gad yn y sector i rannu ei brofiad a’i fewnwelediad gwerthfawr," dywedodd yr Athro Stewart.
"Mae’r rolau Chris wedi eu cyflawni ac yn cyflawni yn golygu ei fod mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig gwybodaeth y mae wedi ei chasglu dros flynyddoedd maith i fyfyrwyr PDC. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael ei fewnbwn i’n ein hadran seiber arobryn."