Dyfarnwyd £595,000 i PDC a'i phartneriaid i bweru sgiliau'r dyfodol
24 Mawrth, 2026
Mae Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad â'i cholegau partner a Chynghrair Sgrin Cymru, wedi derbyn grant o £595,000 gan Medr – y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – i fynd i'r afael â bylchau sgiliau a phrinder llafur mewn meysydd cyflogaeth allweddol.
Bydd y cyllid, o'r Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16 yn Medr, yn cael ei rannu ar draws PDC a'i Phartneriaid Cynghrair Strategol – Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Y Coleg Merthyr Tudful, a Choleg Gwent – yn ogystal â phartneriaid diwydiant Screen Alliance Wales, i hyrwyddo addysg a chyflogaeth ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd prosiect Sgiliau'r Dyfodol yn canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth gan gynnwys Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Technolegau Net Sero/Gwyrdd, Economi Greadigol, Digidol, Seiber a Fintech.
Bydd pob coleg partner yn cynnal Gŵyl Sgiliau'r Dyfodol, gyda 10 gweithdy Sgiliau'r Dyfodol wedi'u ffocysu yn PDC a'i sefydliadau partner. Bydd sesiynau blasu a gweithdai yn cysylltu cyflogwyr ac ymchwil arloesol â gwybodaeth am lwybrau addysg a chyflogaeth, gan gynnwys prentisiaethau, addysg bellach ac uwch.
Mae Huw Swayne, Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu ar gyfer Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC, yn arwain y prosiect.
Dywedodd: “Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gyda’n cydweithwyr i greu llwybr di-dor i gyflogaeth ar draws ein rhanbarth, mewn meysydd lle mae diwydiant yn dweud wrthym fod prinder sgiliau. Bydd y digwyddiadau’n arddangos y gorau sydd gan ein sefydliadau i’w gynnig, trwy ddarparu gweithgareddau cyffrous a diddorol.”
Ychwanegodd Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr Screen Alliance Wales: “Mae Screen Alliance Wales yn falch o barhau â’n partneriaeth gref â PDC trwy’r cyllid hwn.
“Mae’r sector sgrin yng Nghymru yn tyfu’n gyflym, a chyda’r twf hwnnw daw galw cynyddol am griw medrus ar draws ystod eang o rolau. Mae buddsoddiad fel hyn yn ein helpu i gydweithio i fynd i’r afael â bylchau sgiliau critigol a phrinder llafur, gan sicrhau bod gan bobl ledled Cymru lwybrau clir i yrfaoedd o ansawdd uchel yn yr economi greadigol.
“Drwy gyfuno arbenigedd academaidd PDC â chysylltiadau agos Cynghrair Sgrin Cymru â diwydiant a chynhyrchu, gallwn ddarparu hyfforddiant sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion y sector, gan gefnogi'r genhedlaeth nesaf o dalent a chynaliadwyedd hirdymor diwydiant sgrin Cymru.”
Dywedodd yr Athro Louise Bright, Dirprwy Is-Ganghellor Menter, Ymgysylltu a Phartneriaethau yn PDC: “Drwy'r prosiect Sgiliau'r Dyfodol, rydym yn cryfhau'r cysylltiadau hanfodol rhwng addysg, diwydiant, a'n cymunedau. Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i weithio ar y cyd â'n partneriaid i ragweld anghenion y gweithlu yn y dyfodol a chreu llwybrau cynhwysol, hygyrch i yrfaoedd o ansawdd uchel.
“Drwy alinio ein darpariaeth â blaenoriaethau rhanbarthol, nid yn unig yr ydym yn mynd i'r afael â bylchau sgiliau presennol ond rydym hefyd yn cefnogi twf economaidd ac arloesedd hirdymor ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.”