Ymchwilwyr a theuluoedd yn dod ynghyd i sicrhau gwell cefnogaeth iechyd meddwl i berthnasau
27 Mawrth, 2026
Mae Dr Kevin Stone, Deon Cyswllt ar gyfer Partneriaethau a Thwf Busnes mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhan o fenter i ddarparu cymorth gwell i berthnasau a gofalwyr pobl sy'n derbyn triniaeth seicolegol.
Mae'r pecyn cymorth o adnoddau ar-lein pwrpasol rhad ac am ddim wedi'i lansio i helpu anwyliaid pobl sydd wedi'u cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, proses y cyfeirir ati yn Saesneg fel 'to be sectioned'.
Dan arweiniad Prifysgol Bryste a hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerfaddon, crëwyd prosiect Perthnasau Agosaf ar y cyd gan aelodau teulu a gofalwyr pobl sydd yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar hyn o bryd, neu sydd wedi cael eu cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth.
Mae'r lansiad yn cyd-fynd â newidiadau yn y Ddeddf Iechyd Meddwl. Bydd rôl y Perthynas Agosaf, a neilltuwyd i aelod o'r teulu gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol pan fydd perthynas yn cael ei gadw yn yr ysbyty, yn cael ei disodli gan rôl Person a Enwebir. Bydd y claf yn dewis y rôl hon a gallai fod yn unrhyw un yn ei rwydwaith cymorth a fydd â hawliau a phwerau tebyg i'r Perthynas Agosaf.
Yn ogystal â gwybodaeth gynhwysfawr, sydd wedi'i hysgrifennu mewn iaith sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n sensitif i amrywiaeth ddiwylliannol, mae'r adnoddau'n cynnwys straeon profiadau bywyd sy'n rhannu cyngor ac anogaeth.
Mae Hannah, (nid ei gwir enw), yn un o gyd-grewyr y fenter ac mae wedi bod yn ymladd ers dros bymtheg mlynedd i helpu i sicrhau bod ei mab yn derbyn y gofal iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arno.
Pan wynebodd Hannah y sefyllfa am y tro cyntaf, nid oedd hi’n teimlo ei bod yn barod ac roedd hi wedi’i llethu – hyd yn oed gyda’i blynyddoedd o brofiad o gefnogi pobl ifanc a theuluoedd sy’n agored i niwed.
Dyma a ddywedodd hi: “Roeddwn i’n gwybod nad oedd rhywbeth yn hollol iawn ac, ar ôl ceisio mynd i’r afael â hyn fel teulu, daeth yn amlwg bod angen cymorth proffesiynol arnom ni. Hyd yn oed gyda fy mhrofiad o weithio mewn timau amlasiantaethol, mae llywio'r system iechyd meddwl yn gymhleth. Os oedden i'n cael trafferth deall y cyfan, mae'n gas gen i feddwl sut byddai rhywun arall heb gefndir yn y maes yn ymdopi, yn enwedig ar adeg mor drawmatig. Roedd creu'r adnoddau hyn yn ddefnyddiol ac yn fy ngrymuso, gan eu bod yn llenwi'r bylchau oedd ar goll. Gobeithio y byddan nhw’n cynnig atebion yn ogystal â chefnogaeth fugeiliol i eraill.”
Mae partneriaeth wedi bod yn rhan hanfodol o brosiect y Perthnasau Agosaf, a gefnogwyd gan yr elusennau Mind, Rethink Mental Illness Carers Service ym Mryste, Cyngor Dinas Bryste, yn ogystal â'r Athro Judy Laing, o Brifysgol Bryste, Dr Jeremy Dixon o'r Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Kevin Stone o Brifysgol De Cymru, a Dr Harry Bark o Brifysgol Caerfaddon.
Dywedodd Judy Laing, Athro Cyfraith, Hawliau a Pholisi Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Bryste: “Rydyn ni wedi dod â thîm mawr o safbwyntiau a chefndiroedd gwahanol ynghyd i ddatblygu’r adnoddau, sydd, yn hollbwysig, wedi’u creu ar y cyd gan bobl sydd â phrofiad bywyd o rôl y Perthynas Agosaf. Mae'r adborth rydyn ni wedi'i dderbyn hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dydy’r gwaith ddim yn dod i ben yma – y camau nesaf yw sicrhau bod yr adnoddau ar gael hefyd mewn fformatau hawdd eu darllen ac yn y Gymraeg, yn ogystal â’u diweddaru i gynnwys newidiadau wrth i rôl y Person a Enwebir ddod i rym.
“Yn y pen draw, mae’r diwygiad hwn yn golygu y gellid gofyn i fwy o bobl ddiogelu hawliau perthynas neu ffrind mewn gofal iechyd meddwl. Y newyddion da nawr yw bod llawer mwy o gefnogaeth – i Berthnasau Agosaf a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol – ar gael ar unwaith i’w gwneud hi’n haws i bobl ar y llwybr anodd hwn.”